Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Cychod a charafannau - diogelwch tân

Mae gan gychod a charafannau beryglon tân gwahanol i adeiladau – yn bennaf am eu bod yn fannau caeedig bychain ac am fod ganddynt beryglon megis silindrau nwy. Yma, cewch wybod sut i leihau’r perygl o dân ar eich cwch neu yn eich carafán drwy ddilyn rhai awgrymiadau diogelwch syml.

Cyngor sylfaenol am ddiogelwch tân

Os ydych chi mewn carafán neu ar gwch, dylech chi wneud y canlynol bob amser:

  • gosod larwm mwg
  • cael o leiaf un diffoddwr tân, a’i osod yn agos i allanfa'r cwch neu'r garafán
  • sicrhau na chaiff y stôf ei gadael heb neb i gadw llygad arni
  • sicrhau bod y dodrefn a’r ewyn insiwleiddio yn ddeunyddiau ‘gwrth-dân’, sy’n golygu nad ydynt yn mynd ar dân yn hawdd
  • cadw matsis diogelwch yn unig - gallai dirgryniad danio matsis nad ydynt yn rhai diogelwch
  • sicrhau eich bod yn gwybod manylion cyswllt y Gwasanaeth Tân ac Achub lleol

Dilynwch y dolenni isod i gael mwy o wybodaeth ynglŷn â sut i osod larwm mwg yn ogystal ag offer diogelwch tân eraill.

Diogelwch tân ar gwch

Bydd y rhagofalon syml hyn yn lleihau'r perygl o dân ar eich cwch ac yn diogelu pawb sydd arno:

Tanau tanwydd - sut i’w hosgoi

Wrth ddefnyddio’r injan, gwnewch y canlynol:

  • sicrhau bod digon o aer o amgylch yr injan cyn ei dechrau
  • awyru’r injan yn drwyadl ar ôl gwneud unrhyw waith cynnal a chadw arni
  • edrych yn rheolaidd ar linellau tanwydd a thanciau er mwyn sicrhau nad oes craciau ynddynt ac nad oes dim yn gollwng ohonynt

Cymrwch ofal gyda thanwydd

  • dim ond os yw hynny’n gwbl angenrheidiol y dylid cario tanwydd sbâr, a dylid ei gario mewn cynwysyddion cymeradwy yn unig
  • os oes rhaid cario tanwydd sbâr, dylid ei storio ar y dec uchaf bob amser
  • dylid diffodd yr injan cyn ail-lenwi â thanwydd a dylid diffodd pob deunydd ysmygu a fflam agored
  • dylid defnyddio twmffat bob amser wrth dywallt tanwydd o un cynhwysydd i’r llall
  • dylid sicrhau bod aer a nwy o danciau yn cael eu rhyddhau yn union uwchben y dŵr, a bod gan linellau tanwydd falf diffodd uniongyrchol sy’n gweithio
  • ar ôl ail-lenwi â thanwydd, dylid cau caead y tanc llenwi yn dynn a chlirio unrhyw beth sydd wedi gollwng
  • dylid awyru'r cwch yn drwyadl cyn dechrau'r injan neu ddefnyddio fflamau agored eto
  • dylid glanhau ysbwriel, olew a malurion o bob man yn rheolaidd

Paratoi ar gyfer tân

Ar gyfer pob safle cysgu, cynlluniwch y ffordd orau o ddianc a sicrhewch fod pawb yn gwybod lle mae’r offer diogelwch tân wedi'u gosod. Dylech hefyd sicrhau bod eich rafft achub a’ch offer argyfwng, megis fflerau, mewn cyflwr da.

Os bydd tân ar y cwch

Dyma'r pwyntiau hanfodol i'w cofio os bydd tân ar y cwch:

  • diffoddwch y tanwydd a’r nwy, os yn bosib
  • defnyddiwch ddiffoddwr tân os ydyw'n ddiogel gwneud hynny
  • peidiwch â mynd yn rhy agos at gychod eraill, a rhowch wybod iddynt am y perygl a berir gan eich cwch
  • meddyliwch am eich diogelwch eich hun - gadewch y cwch ar unwaith
  • daliwch sylw ar nodweddion y tir cyfagos a allai, o bosib, helpu’r gwasanaethau brys i ganfod eich lleoliad

Dilynwch y ddolen isod i gael mwy o wybodaeth ynglŷn â safonau diogelwch cychod.

Diogelwch tân mewn carafán

Dilynwch y rhagofalon sylfaenol hyn er mwyn lleihau'r perygl o dân:

  • parciwch garafannau o leiaf chwe metr oddi wrth ei gilydd, draw oddi wrth geir sydd wedi parcio
  • sicrhewch eich bod yn gwybod beth yw'r trefniadau tân yn y gwersyll ac ymhle mae'r ffôn agosaf

Y tu mewn i’r garafán:

  • os ydych yn ysmygu, defnyddiwch flychau llwch metel addas - a pheidiwch byth ag ysmygu yn y gwely
  • peidiwch â gadael plant ar eu pen eu hunain yn y garafán
  • peidiwch â blocio’r fentiau aer - os bydd unrhyw nwy sy’n gollwng yn cronni, mae’n bosib i chi fynd yn anymwybodol a methu dianc
  • diffoddwch bob teclyn cyn i chi adael y garafán neu fynd i’ch gwely
  • peidiwch byth â defnyddio stôf neu wresogydd tra mae’ch carafán yn symud

Os bydd tân yn eich carafán, gwnewch y canlynol:

  • sicrhau bod pawb yn mynd allan ar unwaith
  • ffonio’r Gwasanaeth Tân ac Achub a rhoi gwybod eich lleoliad iddynt, gyda chyfeirnod map os yn bosib, neu drwy ddarparu nodwedd o’r tir cyfagos iddynt, megis fferm

Defnyddio silindrau nwy yn ddiogel ar gychod ac mewn carafannau

Dylech gymryd gofal arbennig wrth ddefnyddio silindrau nwy. Dilynwch yr awgrymiadau diogelwch hyn:

  • gosodwch system canfod nwy, os yn bosib
  • os ydych chi’n credu bod nwy yn gollwng, diffoddwch yr holl declynnau a phrif falf y silindr - agorwch bob drws a ffenestr
  • newidiwch silindrau nwy dim ond pan fyddant yn hollol wag
  • sicrhewch fod y silindr newydd yn ddiogel cyn ei gysylltu
  • wrth newid silindrau, sicrhewch fod pob falf silindr wedi'i diffodd cyn datgysylltu
  • peidiwch â throi’r falfiau silindr ymlaen cyn i’r cysylltiad fod yn gyflawn
  • dylech gadw silindrau sbâr a gwag yn yr awyr agored, a'u diogelu gyda strap diogelwch neu ddyfais arall y gellir ei hagor yn gyflym

Silindrau nwy a chychod

  • dylid cadw silindrau mewn cynhwysydd wedi'i selio, sy'n dal dŵr, gyda fentiau atmosfferig lefel isel
  • dylid defnyddio pympiau llaw yn y mannau caeedig yng ngwaelod mewnol corff y cwch yn rheolaidd er mwyn cael gwared ar anwedd
  • os bydd y tywydd yn caniatáu, dylid sicrhau yr agorir pob portwll ac agorddrws yn ddigonol fel y gellir awyru
  • dylid awyru’n drwyadl unrhyw ran o’r cwch nad yw wedi cael ei ddefnyddio am beth amser

Allweddumynediad llywodraeth y DU