Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Mae oddeutu 3,000 milltir o ddyfrffyrdd mewndirol yng Nghymru a Lloegr, sy'n cynnwys amrediad eang o angorfeydd. Os ydych chi'n ystyried byw ar gwch, sicrhewch eich bod yn deall yr holl agweddau ymarferol cysylltiedig.
Ni fydd byw ar gwch bob amser mor ddelfrydol ag y byddech yn ei ddisgwyl. Er ei fod, at ei gilydd, yn rhatach na byw mewn tŷ, mae 'na lawer o gostau ac ystyriaethau nad ydych o bosibl wedi'u hystyried. Bydd angen ichi feddwl am y canlynol:
Gallwch ystyried y pethau canlynol wrth ichi feddwl am brynu cwch:
Os nad ydych am aros yn yr un man, efallai y gallwch wneud heb angorfa gartref. Ar y dyfrffyrdd, a reolir gan amrywiaeth o awdurdodau mordwyo megis Asiantaeth yr Amgylchedd a Dyfrffyrdd Prydain, mae rheolau llym ar gyfer 'criwserau parhaus'. Rhaid i chi wirioneddol deithio o gwmpas y rhwydwaith, nid criwsio yn ôl ac ymlaen yn yr un ardal yn unig.
Mae'n well gan y rhan fwyaf o bobl gael angorfa mewn marina gyda mynediad hwylus at wasanaethau dŵr, carthffosiaeth a gwaredu sbwriel. Yn gyffredinol, mae angorfeydd o'r fath ar gyfer cychod preswyl yn costio o leiaf £90 y metr y flwyddyn.
Mae angorfeydd rhatach a symlach gyda llai o gyfleusterau ar gael ar hyd y dyfrffyrdd. Does dim gwarchodaeth ffurfiol, ac fel arfer ni fyddwch yn gallu cael mynediad ar hyd ffordd i'ch cwch.
Mae cytundebau ar gyfer angorfeydd yn para am 12 mis fel arfer.
Bydd y ddolen/dolenni isod yn gofyn i chi roi manylion ble'r ydych yn byw ac yna'n mynd â chi at wefan eich awdurdod lleol ble gallwch gael mwy o wybodaeth.
Os ydych yn berchen ar gwch, rhaid i chi wneud cais am drwydded, Tystysgrif Diogelwch Cychod ac yswiriant:
Ceir iardiau cychod o gwmpas y dyfrffyrdd a fydd yn fodlon gwneud gwaith i chi. Dylech gyllidebu ar gyfer codi'r cwch o'r dŵr unwaith bob tair blynedd er mwyn ei archwilio a gwneud gwaith cynnal a chadw ar gorff y llong.