Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Diogelwch coelcerth

Os ydych chi’n cael coelcerth, i gael gwared ar wastraff o’r ardd neu fel rhan o ddathliad fel noson tân gwyllt, byddwch yn ofalus. Dilynwch yr awgrymiadau syml isod i sicrhau eich bod chi, ac eraill, yn ddiogel.

Adeiladu coelcerth

Gall tân ledaenu’n hawdd, felly mae lle rydych chi'n adeiladu eich coelcerth, a sut rydych chi'n ei hadeiladu, yn bwysig:

  • adeiladwch y goelcerth draw oddi wrth siediau, ffensys a choed
  • sicrhewch nad oes ceblau, megis gwifrau teleffon, uwchben y goelcerth
  • peidiwch ag adeiladu’r goelcerth yn rhy fawr a sicrhewch fod y das yn sefydlog ac na fydd hi’n cwympo tuag allan neu i un ochr
  • defnyddiwch ddeunydd sych yn unig – bydd deunydd llaith yn achosi mwy o fwg a allai gythruddo eich cymdogion neu fod yn niweidiol i bobl sydd ag anawsterau anadlu
  • peidiwch â llosgi aerosolau, teiars, tuniau nac unrhyw beth sy’n cynnwys ewyn neu baent - mae nifer ohonynt yn cynhyrchu mygdarth gwenwynol ac mae’n bosib i rai cynwysyddion ffrwydro gan achosi anaf
  • tynnwch ymaith unrhyw sbwriel o’r ardal o amgylch y goelcerth fel na chaiff neb ei ddenu i daflu rhywbeth ar y tân
  • edrychwch y tu mewn i’r goelcerth cyn ei chynnau - caiff pentyrrau o wastraff o’r ardd eu defnyddio weithiau fel lloches gan anifeiliaid gwyllt sy’n gaeafgysgu
  • peidiwch â defnyddio petrol na pharaffîn i gynnau’r tân - mae’n bosib colli rheolaeth yn gyflym

Awgrymiadau ar gyfer diogelwch coelcerth

Ar ôl cynnau’r goelcerth, sicrhewch eich bod yn gwneud y canlynol:

  • cadw bwced o ddŵr neu beipen gardd gerllaw rhag ofn y bydd argyfwng yn codi
  • peidio â gadael y goelcerth heb neb i gadw llygad arni
  • cadw plant ac anifeiliaid anwes draw oddi wrth y goelcerth
  • peidio â thaflu unrhyw dân gwyllt i’r tân

Ar ôl i’r goelcerth farw, chwistrellwch ddŵr ar y marwor i’w atal rhag ailgynnau.

Coelcerthi a’r gyfraith

Nid oes unrhyw gyfraith benodol yn erbyn cael coelcerth, ond ceir sawl cyfraith sy’n delio â’r niwsans y gall coelcerthi ei achosi. Gweler ‘Coelcerthi a’r gyfraith’ i gael mwy o wybodaeth.

Ffyrdd eraill o gael gwared ar wastraff o’r ardd

Ceir ffyrdd o gael gwared ar wastraff o’ch gardd heb wneud coelcerth. Gall y rhan fwyaf o wastraff o’r ardd, megis toriadau gwair a dail, gael eu hailgylchu drwy wneud compost. Dilynwch y dolenni isod i gael mwy o wybodaeth.

Mwy o ddolenni defnyddiol

Allweddumynediad llywodraeth y DU