Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Diogelwch tân - barbiciws, gwersylla a’r awyr agored

Rhaid meddwl am ddiogelwch ac atal tân y tu allan i’r cartref. Gall esgeulustod yn yr awyr agored wrth gynnal barbiciw neu wrth wersylla arwain at ganlyniadau angheuol. Gall tanau hefyd ddinistrio ardaloedd enfawr o gefn gwlad, eiddo pobl ac ecosystemau bregus. Yma, cewch wybod sut i atal tân pan fyddwch chi’n cynnal barbiciw ac yn gwersylla.

Diogelwch wrth gynnal barbiciw

Os ydych chi yn yr ardd neu allan yn gwersylla, dilynwch yr awgrymiadau syml hyn i gynnal barbiciw yn ddiogel ac i osgoi anafiadau neu ddifrod i eiddo yn sgil tân:

  • sicrhewch fod eich barbiciw yn gorwedd yn wastad ac oddi wrth ffensys, coed a siediau
  • cadwch fwced o ddŵr neu beipen gardd gerllaw rhag ofn y bydd argyfwng yn codi
  • defnyddiwch dim ond digon o olosg i orchuddio gwaelod y barbiciw hyd at ddyfnder o oddeutu 5 centimetr (dwy fodfedd)
  • peidiwch byth â defnyddio petrol neu baraffîn i gynnau nac ailgynnau tân barbiciw - dim ond tanwyr barbiciw neu danwydd cynnau ar olosg oer y dylid eu defnyddio
  • cadwch blant ac anifeiliaid anwes draw oddi wrth y man coginio
  • peidiwch â gadael y barbiciw heb neb i gadw llygad arno
  • ar ôl coginio, sicrhewch fod y barbiciw wedi oeri cyn ceisio ei symud
  • gwagiwch y lludw ar bridd, yn hytrach nag yn y bin

Barbiciws nwy - awgrymiadau ychwanegol

Dilynwch yr awgrymiadau ychwanegol hyn os ydych chi’n defnyddio barbiciw nwy:

  • sicrhewch fod eich barbiciw yn gweithio'n iawn
  • sicrhewch fod y tap wedi’i ddifodd cyn newid y silindr nwy a gwnewch hyn yn yr awyr agored
  • peidiwch â gordynhau’r cymalau
  • ar ôl i chi orffen coginio, diffoddwch y silindr nwy cyn i chi ddiffodd y barbiciw ei hun – golyga hyn y caiff unrhyw nwy sydd yn y beipen ei ddefnyddio
  • darllenwch gyfarwyddiadau’r gwneuthurwr ynglŷn â sut i edrych os oes nwy yn gollwng yn y silindr neu yn y pibellau, e.e. brwsio dŵr a sebon o amgylch pob cymal ac edrych am swigod

Storio silindrau nwy

Peidiwch â chadw mwy o silindrau nag y mae eu hangen arnoch. Dylid eu cadw y tu allan, y tu hwnt i gyrraedd pelydrau'r haul a rhew. Os oes rhaid i chi eu cadw y tu mewn i’ch cartref, sicrhewch nad ydych yn eu storio o dan y grisiau. Os bydd tân, gallant ffrwydro ac mae'r grisiau yn debygol o fod yn llwybr dianc i chi.

Diogelwch wrth wersylla

Pan fyddwch chi’n gwersylla, dilynwch y rhagofalon syml hyn i leihau’r perygl i dân ddechrau a lledaenu.

  • cyn i chi fentro allan, sicrhewch eich bod yn gofyn am fanylion cyswllt y Gwasanaeth Tân ac Achub lleol
  • sicrhewch eich bod yn codi pebyll o leiaf chwe metr oddi wrth ei gilydd a draw oddi wrth o geir sydd wedi parcio
  • sicrhewch eich bod yn gwybod beth yw'r trefniadau tân yn y gwersyll ac ymhle mae'r ffôn agosaf
  • peidiwch â defnyddio teclynnau sy’n llosgi olew, megis llusernau neu ganhwyllau mewn pabell, neu'n agos i babell - mae tortshis yn fwy diogel
  • peidiwch ag ysmygu mewn pabell
  • gosodwch eich man coginio draw oddi wrth y babell
  • cadwch eich man coginio yn rhydd o eitemau sy’n mynd ar dân yn hawdd (eitemau ‘fflamadwy’), gan gynnwys glaswellt hir a sych
  • rhowch declynnau coginio mewn lle na allant gael eu taro drosodd yn hawdd
  • cadwch fatsis, tanwyr, hylifau fflamadwy a silindrau nwy o gyrraedd plant
  • lluniwch gynllun dianc a byddwch yn barod i dorri'ch hun allan o'ch pabell os bydd tân

Sut i ddelio â thân pan fyddwch yn gwersylla

Cofiwch y ddau awgrym syml canlynol:

  • sicrhewch fod pawb yn mynd allan yn syth – mae tanau mewn pebyll yn lledaenu’n gyflym iawn
  • ffoniwch y Gwasanaeth Tân ac Achub a rhowch gyfeirnod map iddynt os yn bosib - darparwch nodwedd o’r tir cyfagos, megis fferm neu dafarn, i’w helpu i ddod o hyd i chi

Sut mae lleihau'r perygl o danau sy'n ymledu'n gyflym

Mae’r ffaith bod y tir yn sych yn yr haf yn golygu fod perygl ychwanegol i dân ddechrau, ond dylech chi gymryd gofal drwy’r flwyddyn. Dilynwch yr awgrymiadau hyn i leihau'r perygl o gael tanau sy'n ymledu'n gyflym yng nghefn gwlad:

  • diffoddwch sigaréts yn iawn a pheidiwch â thaflu bonion sigaréts ar y llawr - ewch â’ch ysbwriel adref
  • peidiwch byth â thaflu bonion sigaréts allan drwy ffenest car
  • dylech osgoi defnyddio tanau agored yng nghefn gwlad
  • peidiwch â gadael poteli na gwydr mewn coedwig - gall pelydrau’r haul drwy wydr ddechrau tân (ewch â nhw adref a’u hailgylchu)
  • defnyddiwch farbiciws dim ond mewn mannau addas a diogel a pheidiwch byth â’u gadael heb neb i gadw llygad arnynt
  • os ydych chi’n gweld tân yng nghefn gwlad, riportiwch ef i’r Gwasanaeth Tân ac Achub ar unwaith
  • peidiwch â cheisio mynd i'r afael â thân na ellir ei ddiffodd â bwced o ddŵr - gadewch yr ardal mor fuan â phosib

Additional links

Fire safety

Make sure children understand the risks of fire

Diogelwch Tân

Camau syml i'ch diogelu chi a'ch teulu rhag tân

Cysylltiadau defnyddiol

Allweddumynediad llywodraeth y DU