Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Trefnu arddangosiad tân gwyllt

Os ydych chi’n trefnu arddangosiad tân gwyllt, sicrhewch fod pawb sy’n rhan ohono yn gwybod beth i'w wneud er mwyn osgoi unrhyw ddamweiniau. Yma, cewch wybod am eich cyfrifoldebau tuag at y cyhoedd a’ch cydweithwyr pan fyddwch chi'n trefnu arddangosiad tân gwyllt.

Trefnu arddangosiad tân gwyllt

Pan fyddwch yn trefnu arddangosiad tân gwyllt, sefydlwch bwyllgor lle bydd pob unigolyn yn gyfrifol am dasg benodol. Ceisiwch gael o leiaf un person ar y pwyllgor sydd â phrofiad o drefnu arddangosiad tân gwyllt, a sicrhewch fod pawb yn deall diogelwch tân gwyllt.

Sicrhewch fod gan bawb gopi o ganllaw'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch, 'Cael eich arddangosiad tân gwyllt eich hun’. Defnyddiwch y ddolen isod er mwyn archebu’r canllaw hwn.

Gyda phwy y dylech gysylltu ynghylch eich arddangosiad tân gwyllt

Cysylltwch â’r mudiadau canlynol mewn da bryd i roi gwybod iddynt am eich cynlluniau ar gyfer yr arddangosiad tân gwyllt:

  • y Gwasanaeth Tân lleol
  • yr heddlu
  • mudiadau cymorth cyntaf, megis Ambiwlans Sant Ioan, i drefnu man cymorth cyntaf o dan ofal goruchwylwyr
  • eich cyngor lleol - edrychwch i weld a oes angen trwydded arnoch
  • Gwylwyr y Glannau, os bydd eich arddangosiad yn digwydd o fewn pum milltir i’r arfordir

Dylech chi hefyd gysylltu â’r rheini y mae’n bosib y bydd angen iddynt baratoi ar gyfer arddangosiad tân gwyllt, megis ffermwyr, stablau a chytiau cŵn. Mae’n bosib y byddai pobl hŷn sy’n byw ar eu pennau eu hunain neu mewn llety gwarchod hefyd yn gwerthfawrogi rhybudd ymlaen llaw, fel na fydd y sŵn yn eu dychryn.

Mae’n ddefnyddiol cael un person yn gyfrifol am gysylltu â’r holl fudiadau angenrheidiol.

Rhestr wirio ar gyfer arddangosiad tân gwyllt

Yn ogystal â chysylltu â’r holl fudiadau angenrheidiol, a siarad gyda nhw, bydd angen i chi a’ch tîm wneud y canlynol:

  • trefnu i’r tân gwyllt gael eu danfon a’u storio’n ddiogel
  • rhybuddio cymdogion fel y gallant gadw eu hanifeiliaid anwes o dan do
  • benthyg neu logi dillad arbennig, megis siacedi fflworoleuol, fel bod pawb yn gallu eich adnabod chi a’ch tîm ar y noson
  • sicrhau bod gennych chi system sain gyhoeddus (uchelseinydd fan leiaf) er mwyn gallu rhoi cyfarwyddiadau, e.e. i wacau’r ardal mewn argyfwng
  • trefnu bod diffoddwyr tân, biniau ysbwriel metel a bwcedi o ddŵr a thywod ar gael ar y noson
  • sicrhau bod gennych chi ddigonedd o dortshis gyda batris llawn
  • rhoi gwybod i bobl na chaiff gwylwyr ddod â’u tân gwyllt eu hunain, gan gynnwys ffyn gwreichion
  • gwneud yr holl arwyddion angenrheidiol
  • sicrhau fod gennych chi ddigon o bobl i helpu ar y noson, gan gynnwys rhai pobl ychwanegol rhag ofn y bydd rhywun yn sâl
  • edrych i weld a yw eich polisi yswiriant yn yswirio unrhyw anafiadau’n ymwneud â thân gwyllt - chwiliwch am gwmni sydd wedi arfer ag yswirio digwyddiadau cyhoeddus

Dewis lleoliad addas

Dewiswch ardal fawr a chlir, sydd a’r gwair wedi’i dorri ac sydd hefyd yn glir o adeiladau, coed a pheryglon, megis ceblau uwchben. Fan leiaf, bydd arnoch angen ardal sydd:

  • o leiaf 50 metr wrth 20 metr i danio’r tân gwyllt
  • o leiaf 100 metr wrth 50 metr y tu ôl i hwnnw yng nghyfeiriad y gwynt ar gyfer yr ‘ardal ddisgyn’ (ble fydd y tân gwyllt yn glanio) - edrychwch o flaen llaw i weld beth yw rhagolwg y tywydd
  • 25 metr oddi wrth yr ardal danio ar yr ochr gyferbyn â’r ardal ddisgyn ar gyfer y gwylwyr

Dylech chi ystyried canslo’r arddangosiad os yw’r tywydd yn wyntog iawn.

Sicrhewch fod gennych chi gymaint â phosib o allanfeydd a mynedfeydd diogel, wedi’u goleuo’n dda ac wedi’u harwyddo’n glir. Mae’n rhaid i’r rhain fod draw oddi wrth yr ardaloedd tanio a disgyn.

Cadwch ardal y maes parcio draw oddi wrth eich arddangosiad a’r ardal ddisgyn. Dylai gael ei arwyddo’n glir gyda mynedfa ar wahân ar gyfer cerddwyr.

Cadw rheolaeth ar y dorf

Mae rheoli’r dyrfa’n effeithiol yn hanfodol er mwyn atal damweiniau. Bydd angen i chi wneud y canlynol:

  • cael un stiward ar gyfer bob 250 gwyliwr
  • sicrhau bod eich stiwardiaid yn gwybod beth i’w wneud mewn argyfwng
  • cadw gwylwyr allan o ardal yr arddangosiad a'r ardal ddisgyn
  • gwylio rhag gorlenwi a dilyn cyngor yr heddlu

Delio â thân gwyllt gyda gofal

Sicrhewch eich bod yn gwybod sut i ddelio â thân gwyllt a sut i’w tanio cyn yr arddangosiad. Gweler ‘Diogelwch tân gwyllt a’r gyfraith’ i gael mwy o wybodaeth.

Ar ôl y digwyddiad

Pan fydd y digwyddiad ar ben, sicrhewch fod gennych chi ddigon o bobl i'ch helpu i wneud y canlynol:

  • hel gwylwyr oddi ar y safle
  • diffodd y goelcerth yn llwyr, os oes gennych chi un ohonynt
  • casglu’r tân gwyllt sydd wedi’u defnyddio gydag offer addas, megis gefeiliau – dylid gwisgo menig cryfion a ni ddylid gadael i blant helpu

Os oes unrhyw dân gwyllt yn edrych fel nad ydyw wedi tanio, dylid ei adael mewn dŵr am o leiaf hanner awr. Os oes angen, gallwch ffonio’r Gwasanaeth Tân i gael cyngor.

Additional links

Fire safety

Make sure children understand the risks of fire

Diogelwch Tân

Camau syml i'ch diogelu chi a'ch teulu rhag tân

Cysylltiadau defnyddiol

Allweddumynediad llywodraeth y DU