Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Diogelwch wrth ysmygu

Mae mwy o bobl yn marw mewn tanau a achosir gan ysmygu nag mewn tanau a achosir gan ddim arall. Cynhyrchir Tybaco i aros ynghyn, sy'n golygu y gall barhau i fudlosgi a dechrau tân.

Awgrymiadau ar gyfer diogelwch os ydych yn ysmygu

mae sigaréts yn llosgi ar dymheredd o 700° ac yn cynnwys cemegau sy'n eu cadw ynghyn
  • peidiwch byth ag ysmygu yn eich gwely - mae'n hawdd iawn disgyn i gysgu gan adael i'ch sigarét roi'ch dillad gwely neu'r dodrefn ar dân
  • peidiwch ag ysmygu os ydych wedi blino - yn enwedig os ydych chi'n eistedd mewn cadair gyfforddus neu os ydych chi wedi bod yn yfed neu'n cymryd cyffuriau presgripsiwn; eto, mae'n hawdd disgyn i gysgu
  • peidiwch â gadael sigarét (na sigâr na chetyn) ynghyn – mae'n ddigon hawdd iddynt ddisgyn a glanio ar y carped neu ar ddefnydd fflamadwy arall; a gwnewch yn siŵr bod eich blwch llwch yn drwm ac na all ddisgyn drosodd yn hawdd
  • gwnewch yn gwbl siŵr nad yw stwmp eich sigarét (ac unrhyw weddillion yn eich cetyn) yn dal i fudlosgi pan fyddwch wedi gorffen â nhw; gwlychwch nhw a gwagiwch eich blwch llwch i fin metel y tu allan i'r tŷ
  • cadwch danwyr, matsis a deunyddiau ysmygu o afael plant – gallwch hefyd brynu tanwyr na fyddai plant yn gallu eu defnyddio a blychau i gadw matsis

Astudiaeth achos

Yn 2001, roedd Victoria Pearse yn 21 oed ac yn ei blwyddyn olaf yn y brifysgol. Un noson, daeth adref ar ôl bod allan ac arhosodd ar ei thraed i sgwrsio â ffrind. Ar ôl iddo adael, disgynnodd i gysgu wedi'i lapio mewn cwrlid ar y soffa. Er na wyddai hi hynny, roedd bonyn un o'r sigaréts yn dal i fudlosgi. Dechreuodd y soffa losgi ac yn dawel bach llenwodd yr ystafell â mwg.

Deffrowyd Victoria gan wres y tân, ond fe wnaeth y mwg gwenwynig beri iddi ffwndro a drysu ac fe lewygodd. Ni sylweddolodd neb tan y bore wedyn. Tân eithaf bach ydoedd, ond roedd yn ddigon mawr i ladd merch 21 oed.

Allweddumynediad llywodraeth y DU