Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Os byddwch yn symud i fyw dramor, byddwch chi'n cadw'ch hawl i bleidleisio mewn etholiadau cyffredinol ac yn etholiadau'r Undeb Ewropeaidd am hyd at 15 mlynedd, ond ni fydd modd i chi bleidleisio yn etholiadau llywodraeth leol y DU. Gallwch hefyd bleidleisio drwy'r bost neu drwy ddirprwy os byddwch dramor dros dro ar ddiwrnod yr etholiad.
Os ydych chi'n ddinesydd Prydeinig sy'n byw dramor, ond wedi'ch cofrestru i bleidleisio yn y DU o fewn y 15 mlynedd diwethaf, gallwch wneud cais am fod yn bleidleisiwr tramor.
Gallwch lwytho ffurflen gofrestru oddi ar wefan Fy Mhleidlais I, ei hargraffu, a'i hanfon i'r swyddfa cofrestru etholiadol yn yr ardal y gwnaethoch gofrestru i bleidleisio ynddi ddiwethaf. Neu gallwch gysylltu â'r swyddfa cofrestru etholiadol a gofyn iddynt anfon ffurflen gofrestru atoch er mwyn i chi allu pleidleisio o dramor.
Bydd angen i chi ofyn i rywun lofnodi datganiad tyst ar eich ffurflen. Mae'n rhaid iddynt fod yn ddinesydd arall o Brydain sy'n byw dramor, ond ni chânt fod yn berthynas agos. Nid yw'n ofynnol eu bod yn byw yn yr un wlad â chi. Os na wyddoch am neb sy'n addas, gallwch ofyn i aelod o staff yr Is-Genhadaeth neu'r Llysgenhadaeth Brydeinig i lofnodi'ch ffurflen.
Os nad oeddech wedi'ch cofrestru i bleidleisio yn y DU, ni allwch bleidleisio o dramor - oni bai eich bod yn rhy ifanc i gofrestru pan wnaethoch adael y DU. Os felly, gallwch gofrestru gyda'r swyddfa cofrestru etholiadol lle cofrestrwyd eich rhiant neu'ch gwarcheidwad ddiwethaf, cyn belled i chi adael y DU yn y 15 mlynedd diwethaf. Rhaid i chi amgáu llungopi o'ch tystysgrif geni gyda'ch cais.
Os ydych yn gwasanaethu dramor gyda'r Lluoedd Arfog (yn y Fyddin, y Llynges neu'r RAF), neu os yw'n bosib y byddwch yn mynd dramor ar fyr rybudd, gallwch gofrestru fel pleidleisiwr o'r Lluoedd Arfog. Gall gwŷr, gwragedd neu bartneriaid sifil y sawl sy'n gwasanaethu dramor gofrestru fel pleidleiswyr o'r Lluoedd Arfog hefyd.
Gallwch gofrestru gan ddefnyddio'r cyfeiriad diwethaf i chi fyw ynddo yn y DU, neu'r cyfeiriad y byddech chi'n byw ynddo petaech chi'n dal yn y DU.
Mae ffurflenni datganiad gwasanaeth ar gael ar y wefan Fy Mhleidlais I, neu drwy gysylltu â'r swyddfa cofrestru etholiadol leol ar gyfer y cyfeiriad yr ydych am gofrestru ar ei gyfer. Rhaid i chi adnewyddu eich datganiad gwasanaeth bob tair blynedd.
Gall pob pleidleisiwr tramor bleidleisio drwy'r post neu drwy ddirprwy. Anfonir pleidlais bost atoch ryw wythnos cyn yr etholiad. Petai'n anodd i chi gael pleidlais bost a'i dychwelyd yn brydlon, gallwch ystyried pleidleisio drwy ddirprwy.
Mae pleidlais drwy ddirprwy yn golygu eich bod yn gofyn i rywun yr ydych yn ei adnabod ac yn ymddiried ynddo i bleidleisio ar eich rhan. Gallant fynd i'ch gorsaf bleidleisio, neu gallant wneud cais am bleidleisio drosoch chi drwy'r post.
Edrychwch ar 'Pleidleisio mewn etholiad' i ddysgu mwy am bleidleisio drwy'r post a phleidleisio drwy ddirprwy.
Cofiwch gofrestru os byddwch chi'n dychwelyd i'r DU i fyw, rhag colli'r cyfle i bleidleisio. Gallwch gofrestru i bleidleisio yn eich cyfeiriad newydd drwy lenwi ffurflen gofrestru a'i hanfon i'ch swyddfa cofrestru etholiadol leol.
Os ydych chi'n gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog ac yn dychwelyd i'r DU, gallwch naill ai barhau i ddatgan eich bod yn gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog, neu gallwch gofrestru i bleidleisio yn y ffordd arferol gyda'ch swyddfa cofrestru etholiadol leol.
Os ydych chi'n byw yn y DU ond na fyddwch yno ar ddiwrnod yr etholiad – er enghraifft, am eich bod ar wyliau neu'n teithio ar fusnes – gallwch wneud cais am bleidleisio drwy'r post neu drwy ddirprwy. Cewch wybod mwy yn 'Pleidleisio mewn etholiad'.