Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Gallwch bleidleisio drwy un o dair ffordd. Yma, cewch wybod beth sydd angen i chi ei wneud pan fyddwch yn mynd i bleidleisio ar ddiwrnod etholiad, a sut mae pleidleisio drwy’r post neu drwy ddirprwy (rhywun yn pleidleisio ar eich rhan) os na allwch fynd i’r orsaf bleidleisio.
I bleidleisio mewn etholiad a refferendwm yn y DU, rhaid i chi fod ar y gofrestr etholiadol (rhestr o bobl sy’n gymwys i bleidleisio). Cewch wybod mwy yn ‘Cofrestru i bleidleisio’.
Gallwch bleidleisio mewn gorsaf bleidleisio leol - ysgol neu neuadd gyfagos, fel arfer. Cewch gerdyn pleidleisio cyn yr etholiad, a bydd hwnnw’n dweud wrthych lle a phryd i bleidleisio. Bydd gorsafoedd pleidleisio ar agor rhwng 7.00 am a 10.00 pm.
Pan fyddwch yn mynd i bleidleisio, bydd y staff yn gwirio'ch enw a'ch cyfeiriad ac yn rhoi papur pleidleisio i chi. Darllenwch y papur pleidleisio’n ofalus. Bydd yn rhestru'r pleidiau a’r ymgeiswyr y cewch bleidleisio drostynt, ac yn dweud wrthych sut mae bwrw’ch pleidlais.
Chaiff neb weld dros bwy yr ydych wedi pleidleisio oherwydd byddwch yn pleidleisio mewn bwth gyda sgrin ar bob ochr. Pan fyddwch wedi nodi'ch pleidlais ar bapur, plygwch y papur pleidleisio yn ei hanner a rhowch ef yn y blwch.
Os nad ydych yn siŵr beth i'w wneud, gofynnwch i’r staff eich helpu.
Os ydych chi'n byw yn y DU neu dramor a'ch bod yn gwneud cais mewn pryd, gallwch bleidleisio drwy'r post. Gall unrhyw un wneud cais am bleidlais bost – does dim angen i chi roi rheswm.
Gellir anfon pleidlais bost i'ch cartref neu i unrhyw gyfeiriad arall o’ch dewis. Gallwch wneud cais am bleidlais bost ar gyfer un etholiad yn unig, ar gyfer cyfnod penodol, neu’n barhaol.
Er diogelwch, bydd angen i chi roi eich dyddiad geni a’ch llofnod wrth wneud cais, ac eto pryd bynnag y pleidleisiwch drwy’r post. Llenwch eich papur pleidleisio’n gyfrinachol, caewch ef eich hun, ac ewch ag ef i’r blwch postio eich hun os gallwch.
Cewch wybod mwy a gwneud cais am bleidlais bost drwy argraffu ffurflen gais o wefan Fy Mhleidlais I, neu drwy gysylltu â'ch swyddfa cofrestru etholiadol leol.
Os ydych chi'n byw yn y DU neu dramor ac na allwch bleidleisio'ch hun, gallwch ofyn i rywun bleidleisio ar eich rhan, a dweud wrthynt dros bwy yr hoffech bleidleisio. Gelwir hyn yn bleidlais drwy ddirprwy. Pan fyddwch yn gwneud cais am bleidlais drwy ddirprwy, rhaid i chi roi rheswm dilys.
Gallwch wneud cais am bleidleisio drwy ddirprwy ar gyfer un etholiad yn unig, ar gyfer cyfnod penodol, neu’n barhaol. Efallai y bydd yn rhaid i’ch cais gael ei gefnogi gan rywun fel eich meddyg neu’ch cyflogwr. Ceir gwahanol ffurflenni cais, yn dibynnu ar eich sefyllfa:
Cewch wybod mwy ac argraffu ffurflen gais oddi ar wefan Fy Mhleidlais I, neu cysylltwch â'ch swyddfa cofrestru etholiadol leol.
Bydd gwefan Fy Mhleidlais I yn eich helpu i ddysgu mwy am sut mae pleidleisio a thros beth yr ydych yn pleidleisio. Mae'n dweud wrthych pa etholiadau gaiff eu cynnal yn fuan yn eich ardal, ac yn cynnig ffurflenni cofrestru a manylion cyswllt ar gyfer eich swyddfa cofrestru etholiadol leol.
Cewch bleidleisio mewn etholiadau seneddol yn y DU ar ôl i chi gofrestru ar y gofrestr etholiadol, ac ar yr amod bod y canlynol hefyd yn wir:
Mewn etholiad cyffredinol, ni chaiff y bobl ganlynol bleidleisio:
Ceir deddfau a mesurau diogelwch i helpu i atal twyll mewn etholiadau. Mae'n drosedd i:
Mae gan bapurau pleidleisio nod diogelwch a chod bar, felly os bydd pleidlais bost yn mynd ar goll neu’n cael ei dwyn, gellir cynnal archwiliadau diogelwch. Ar ôl pob etholiad, cyhoeddir rhestr o bawb a bleidleisiodd drwy’r post (rhestr debyg i’r honno a geir ar gyfer gorsafoedd pleidleisio), er mwyn i chi allu gwneud yn siŵr bod eich pleidlais wedi cael ei chyfri. Mewn ymchwiliad, gall yr heddlu ofyn i bobl a wnaethant bleidleisio drwy’r post ai peidio.
Gallwch wneud cais am arsyllu trefn yr etholiad mewn gorsafoedd pleidleisio, wrth roi a derbyn papurau pleidleisio drwy’r post, ac wrth gyfri’r pleidleisiau.