Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Gwasanaeth rheithgor - beth ydyw

Mae gwasanaeth rheithgor yn rhywbeth y gellir gofyn i rai pobl ei wneud yn ystod eu hoes. Mae bod ar reithgor yn 'ddyletswydd ddinesig' ac yn helpu i benderfynu canlyniad treialon troseddol (a sifil) yn y llys. Mynnwch wybod am fod yn rheithiwr yng Nghymru a Lloegr.

Beth mae rheithgor yn ei wneud

Ni allwch wirfoddoli i wneud gwasanaeth rheithgor

Bydd rheithgor yn penderfynu p'un a yw rhywun yn ddieuog neu'n euog o gyflawni trosedd ddifrifol - fel llofruddiaeth, trais rhywiol, bwrgleriaeth neu dwyll.

Efallai y gofynnir i chi fod ar reithgor mewn treial sifil - fel achos anaf personol.

Mae rheithgor yn cynnwys 12 o aelodau'r cyhoedd, a ddewisir ar hap gan ddefnyddio cofrestrau etholwyr.

Unwaith ei fod wedi’i gadarnhau, mae’n rhaid i chi gyrraedd ar gyfer gwasanaeth rheithgor neu gallech gael dirwy o i fyny at £1,000.

Pwy all gael ei ddewis i gyflawni gwasanaeth rheithgor

Efallai y gofynnir i chi gyflawni gwasanaeth rheithgor:

  • os ydych o leiaf 18 oed ac o dan 70 oed (ar yr adeg y bydd eich gwasanaeth rheithgor yn dechrau)
  • os ydych wedi'ch rhestru ar y gofrestr etholwyr
  • os ydych wedi byw yn y DU am unrhyw gyfnod o bum mlynedd o leiaf ers i chi fod yn 13 oed

Pryd na allwch fod ar reithgor

Mae rhai sefyllfaoedd lle na allwch fod ar reithgor, gan gynnwys:

  • os ydych erioed wedi cael dedfryd o garchar neu ddedfryd yn nalfa'r ifanc am fwy na phum mlynedd
  • os ydych wedi bod yn y carchar neu ddalfa'r ifanc am unrhyw gyfnod yn ystod y deg mlynedd diwethaf
  • os oes gennych, neu os ydych wedi cael, cyflwr iechyd meddwl neu anabledd meddwl

Gofyn i chi gyflawni gwasanaeth rheithgor

Os cewch eich dewis i gyflawni gwasanaeth rheithgor, anfonir 'gwŷs rheithgor' atoch. Mae hon yn nodi'r amser a'r dyddiad y mae angen i chi fod yn y llys.

Mae'n rhaid i chi gwblhau a dychwelyd yr wŷs i'r Swyddfa Ganolog Gwysio Rheithgor o fewn saith diwrnod i'r dyddiad y byddwch yn ei chael.

Yna anfonir manylion atoch am sut i gyrraedd y llys a beth i'w ddisgwyl ar ôl i chi gyrraedd.

Faint o amser mae gwasanaeth rheithgor yn para

Mae gwasanaeth rheithgor fel arfer yn para am hyd at ddeg diwrnod gwaith.

Dim ond dau neu dri diwrnod y mae llawer o dreialon yn para, felly efallai y byddwch ar reithgor ar gyfer treial arall.

Os bydd achos yn gymhleth (fel twyll), gallai gymryd mwy na deg diwrnod. Gofynnir i chi yn y llys a fyddai hyn yn achosi unrhyw anawsterau i chi.

Gofyn am gael cyflawni gwasanaeth rheithgor yn ddiweddarach

Mewn rhai amgylchiadau, efallai y gallwch ohirio eich gwasanaeth rheithgor - er enghraifft, os ydych wedi trefnu gwyliau.

Mae'n rhaid i chi nodi'r rheswm ar y ffurflen gwŷs rheithgor.

Hefyd, mae'n rhaid i chi nodi pryd y byddwch ar gael i gyflawni gwasanaeth rheithgor yn ystod y 12 mis nesaf.

Dim ond unwaith yn ystod y 12 mis nesaf y gallwch ohirio gwasanaeth rheithgor.

Gofyn am gael eich esgusodi rhag cyflawni gwasanaeth rheithgor

Os na allwch gyflawni gwasanaeth rheithgor ar unrhyw adeg yn ystod y 12 mis nesaf, mae'n rhaid i chi nodi'r rheswm ar y ffurflen. Fel arfer, gofynnir i chi roi tystiolaeth - fel llythyr gan eich meddyg mewn perthynas â chyflwr meddygol sydd gennych.

Os ydych wedi gwasanaethu ar reithgor o fewn y ddwy flynedd flaenorol, mae gennych hawl i gael eich esgusodi.

Cymryd amser i ffwrdd o'r gwaith

Os ydych yn gweithio, dylech ddweud wrth eich cyflogwr ar unwaith ar ôl i’ch gŵys rheithgor gyrraedd. Mae’n rhaid i’ch cyflogwr roi amser i ffwrdd i chi i gyflawni gwasanaeth rheithgor.

Mae o leiaf pedair wythnos rhwng i’ch gŵys rheithgor gyrraedd a dechrau’ch gwasanaeth rheithgor.

Gweler 'Amser i ffwrdd i gyflawni gwasanaeth rheithgor' am fwy o wybodaeth.

Costau gofal plant - neu os ydych yn gofalu am rywun

Gallwch hawlio costau gwarchod plant gan y llys:

  • os nad oes gennych warchodwr plant fel arfer ond bod angen un arnoch oherwydd gwasanaeth rheithgor (nid yw'n rhan o'ch trefniadau gofal plant arferol)
  • os oes gennych warchodwr plant fel arfer ond bod ei angen arnoch am fwy o oriau na'r arfer oherwydd gwasanaeth rheithgor

Mae'r un peth yn gymwys os bydd angen i chi gyflogi gofalwr i ofalu am rywun rydych fel arfer yn gofalu amdano.

Hawlio colli enillion a chostau eraill

Ni roddir tâl am gyflawni gwasanaeth rheithgor ond fel arfer gallwch hawlio lwfans ar gyfer rhai pethau hyd at swm penodol. Mae hyn yn cynnwys costau teithio a cholli enillion.

Byddwch yn gwneud hawliad ar ddiwedd cyfnod y gwasanaeth rheithgor. Ar eich diwrnod cyntaf, bydd rheolwr y rheithgor yn egluro sut i hawlio eich treuliau.

Nid effeithir ar gymorth ariannol na budd-daliadau (fel Lwfans Ceisio Gwaith) yn ystod yr wyth wythnos gyntaf tra eich bod yn cyflawni gwasanaeth rheithgor.

Os bydd eich gwasanaeth rheithgor yn para'n hwy na hyn, cysylltwch â'ch swyddfa Canolfan Byd Gwaith leol. Gallwch hefyd gysylltu â'r llys i gael cyngor.

Cael gwybod mwy am eich gwasanaeth rheithgor

Gallwch gysylltu â'r Swyddfa Ganolog Gwysio Rheithgor i:

  • ofyn unrhyw gwestiynau am eich gwasanaeth rheithgor - eich gwŷs rheithgor
  • trefnu ymweliad cyn i'ch gwasanaeth rheithgor ddechrau - fel os ydych yn anabl ac am weld pa gyfleusterau sydd ar gael yn y llys

Ffôn: 0845 803 8003 (rhwng 9.00 am a 5.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener (galwad cyfradd leol)

E-bost:
jurysummoning@hmcts.gsi.gov.uk

Cysylltu â'r llys lle cynhelir eich gwasanaeth rheithgor

Dylech gysylltu â'r llys i gael gwybodaeth am deithio i'r llys.

Additional links

Eich rôl fel rheithiwr

Gwylio fideo ar yr hyn sy’n ymglymedig â bod yn rheithiwr

Allweddumynediad llywodraeth y DU