Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Gwasanaeth rheithgor - beth sy'n digwydd yn y llys ac ar ôl y treial

Os gofynnir i chi gyflawni gwasanaeth rheithgor ac y gallwch wneud hynny, mae'n ofynnol yn ôl y gyfraith i chi fynd i'r llys i fod yn rhan o reithgor. Mynnwch wybod beth i'w ddisgwyl ar eich diwrnod cyntaf, yn ystod eich amser yn y llys a'ch cyfrifoldebau fel rheithiwr.

Bod ar reithgor

Os oes angen gallwch siarad yn gyfrinachol â'r staff yn y llys

Mae'r rhan fwyaf o bobl yn gweld y profiad o fod yn rheithiwr yn ddiddorol ac yn werthfawr - nid yw'n rhywbeth y dylech boeni am ei wneud. Nid oes angen i chi wybod sut mae'r system gyfreithiol yn gweithio.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon, gallwch siarad â'r staff yn y llys.

Diwrnod cyntaf eich gwasanaeth rheithgor

Bydd eich papurau gwasanaeth rheithgor yn egluro ble i fynd, pwy y dylech ofyn amdano a beth sydd angen i chi ddod ag ef gyda chi fel prawf adnabod. Mae'n rhaid i chi gyrraedd y llys ar yr amser y gofynnir i chi wneud hynny.

Ffilm ar-lein 'Your role as juror'

Ar eich dirwnod cyntaf, dangosir ffilm 'Your role as juror' i chi. Mae'n egluro beth fydd yn digwydd yn ystafell y llys a'ch cyfrifoldebau.

Beth fydd yn digwydd yn y llys

Mae'r broses sylfaenol yn y llys fel a ganlyn:

1. Byddwch yn canfod p'un a ydych ar reithgor

Byddwch yn aros ym man aros y rheithgor hyd nes y bydd un o swyddogion y llys yn galw eich enw. Fel arfer gelwir cyfanswm o 15 o reithwyr i fynd i mewn i'r llys. Bydd clerc y llys yn dewis 12 o enwau ar hap o'r bobl a fydd yn ffurfio'r rheithgor.

Os na chewch eich dewis, efallai:

  • y cewch eich dewis ar gyfer rheithgor arall ar yr un diwrnod
  • y bydd yn rhaid i chi ddod nôl y diwrnod canlynol i gael eich dewis ar gyfer rheithgor arall

2. Bydd y rheithgor yn 'tyngu llw'

Os cewch eich dewis, bydd yn rhaid i chi dyngu'r llw neu wneud cadarnhad - addewid i wrando ar yr achos yn ofalus er mwyn rhoi dyfarniad teg. Bydd y llys yn egluro sut i wneud hyn.

Dyfarniad yw p'un a yw rhywun yn euog neu'n ddieuog o gyflawni trosedd.

3. Bydd y treial yn dechrau

Caiff tystiolaeth ei 'chyflwyno' a chaiff tystion dros yr erlyniad a thystion dros yr amddiffyniad eu holi.

Bydd yr erlyniad yn gweithredu ar ran dioddefwr/dioddefwyr y drosedd.

Bydd yr amddiffyniad yn gweithredu ar ran yr unigolyn sydd yn y treial am gyflawni'r drosedd - y 'diffynnydd'.

Gallwch gymryd nodiadau yn ystod y treial ond ni ellir mynd â nhw gartref.

4. Dewisir llefarydd (pen-rheithiwr) y rheithgor

Bydd un aelod o'r rheithgor yn gwirfoddoli (neu'n cael ei ddewis gan aelodau'r rheithgor) i fod yn ben-reithiwr. Bydd yn siarad ar ran y rheithgor.

5. Rhoddir y dyfarniad i'r llys

Pan fydd yr holl dystiolaeth wedi'i chyflwyno, byddwch yn gadael y llys gyda'r rheithwyr eraill i drafod y dystiolaeth. Gwneir hyn yn breifat yn ystafell ystyried y rheithgor.

Bydd y rheithgor yn dychwelyd i ystafell y llys a gofynnir i'r llefarydd 'gyflwyno'r' dyfarniad. Mae hyn yn golygu y bydd yn dweud wrth y llys beth yw penderfyniad y rheithgor.

Weithiau, ni all pob aelod o'r rheithgor gytuno ar b'un a yw'r unigolyn yn euog neu'n ddieuog. Os bydd hyn yn digwydd, bydd y barnwr yn egluro beth fydd yn digwydd nesaf.

Mae'n bosibl na cheir penderfyniad. Os bydd hyn yn digwydd, fel arfer ceir treial newydd gyda rheithgor newydd.

Os mai dieuog fydd dyfarniad y rheithgor, caiff y diffynnydd ei ryddhau a daw'r achos i ben.

Os mai euog fydd dyfarniad y rheithgor, bydd y barnwr yn penderfynu ar y ddedfryd.

Eich cyfrifoldebau fel rheithiwr

Ni chaniateir i reithwyr drafod y treial ar wefannau fel Facebook neu Twitter

Unwaith y bydd y treial yn dechrau, rhaid i chi beidio â thrafod yr achos ag unrhyw un, heblaw am aelodau eraill y rheithgor yn ystafell ystyried y rheithgor.

Hyd yn oed pan ddaw'r treial i ben, rhaid i chi beidio â thrafod beth ddigwyddodd yn yr ystafell ystyried ag unrhyw un, hyd yn oed aelodau'r teulu.

Os byddwch yn gwneud hyn, byddwch yn 'dirmygu'r llys' a gallwch gael eich dirwyo.

Gwefannau cyfryngau cymdeithasol

Rhaid i chi beidio â thrafod na rhoi sylwadau ar unrhyw dreial ar wefannau cyfryngau cymdeithasol fel Facebook neu Twitter - hyd yn oed ar ôl i'r treial ddod i ben. Dirmyg llys yw hyn.

Os bydd rhywun am drafod y treial gyda chi

Os bydd unrhyw un am drafod y treial gyda chi, dylech ddweud wrth un o swyddogion y llys neu swyddog yr heddlu (os bydd yn digwydd y tu allan i'r llys).

Os bydd y treial yn peri gofid i chi

Efallai y byddwch yn clywed (neu'n gweld) tystiolaeth sy'n peri gofid i chi ac rydych am siarad â rhywun ynghylch eich teimladau yn ystod gwasanaeth rheithgor, neu ar ei ôl. Os bydd hyn yn digwydd, siaradwch â staff y llys a all roi cyngor i chi.

Gallech hefyd siarad â rhywun yn gyfrinachol am eich teimladau (ond nid manylion y treial ei hun). Ar wahân i bobl fel teulu a ffrindiau, efallai y bydd yn ddefnyddiol i chi siarad â'r Samariaid.

Mae'r Samariaid yn elusen sydd â phrofiad o roi cymorth emosiynol cyfrinachol i bobl - gan gynnwys rheithwyr sy'n gofidio ar ôl treial llys.

Cysylltu â'r llys ar ôl gwasanaeth rheithgor

Gallwch gysylltu â'r llys lle gwnaethoch gyflawni'ch gwasanaeth rheithgor. Gall hwn fod i:

  • ofyn ynghylch eich hawliad am lwfansau
  • rhoi adborth, neu gwyno ynghylch eich profiad fel rheithiwr

Additional links

Eich rôl fel rheithiwr

Gwylio fideo ar yr hyn sy’n ymglymedig â bod yn rheithiwr

Allweddumynediad llywodraeth y DU