Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Os gofynnir i chi gyflawni gwasanaeth rheithgor, gallwch hawlio lwfansau penodol - fel costau teithio i'r llys. Mynnwch wybod pa fathau o lwfansau y gallwch eu hawlio a sut a phryd i wneud hynny ynghyd â pha gofnodion y mae'n rhaid i chi eu darparu i ategu unrhyw hawliad.
Ni roddir tâl am gyflawni gwasanaeth rheithgor ond fel arfer gallwch hawlio lwfans ar gyfer y canlynol:
Os ydych yn gweithio neu'n hawlio budd-daliadau
Rhaid i'ch cyflogwr (neu swyddfa budd-daliadau) gwblhau ffurflen 'Tystysgrif Colli Enillion'. Bydd y ffurflen a'r canllawiau yn y pecyn a gewch unwaith y byddwch wedi cadarnhau eich bod yn gallu cyflawni gwasanaeth rheithgor.
Os ydych yn hunangyflogedig
Os ydych yn hunangyflogedig, rhaid i chi roi tystiolaeth i'r llys i ddangos eich bod yn colli enillion. Gallai hyn fod ar ffurf eich ffurflen dreth ddiwethaf neu lythyr gan eich cyfrifydd yn dangos eich incwm dyddiol gros cyfartalog. Os nad oes gennych dystiolaeth, siaradwch ag aelod o staff y llys ar ddiwrnod cyntaf eich gwasanaeth rheithgor.
Mae'r tablau isod yn dangos y lwfans dyddiol mwyaf y gellir ei dalu. Nid oes gan staff y llys yr awdurdod i newid y symiau hyn.
Colli enillion neu fudd-daliadau - a threuliau eraill
Mae 'treuliau eraill' yn cynnwys pethau fel costau gwarchod plant. Gallwch hawlio am fwy nag un math o golled - ar yr amod nad yw'r cyfanswm yn fwy na'r lwfans dyddiol mwyaf. Er enghraifft, os ydych yn gwneud hawliad am golli enillion a gofal plant, ni chaniateir i gyfanswm y ddau fod yn fwy na'r lwfans dyddiol mwyaf.
Yr amser a dreulir bob dydd yn cyflawni gwasanaeth rheithgor | Y lwfans mwyaf y gall y llys ei dalu |
---|---|
Hyd at ac yn cynnwys pedair awr - y deg diwrnod cyntaf | £32.47 y dydd |
Hyd at ac yn cynnwys pedair awr - rhwng diwrnod 11 a hyd at ddiwrnod 200 | £64.95 y dydd |
Hyd at ac yn cynnwys pedair awr – ar ôl diwrnod 201 | £114.03 y dydd |
Dros bedair awr – y deg diwrnod cyntaf | £64.95 y dydd |
Dros bedair awr - rhwng diwrnod 10 a hyd at ddiwrnod 200 | £129.91 y dydd |
Dros bedair awr - ar ôl diwrnod 201 | £228.06 y dydd |
Rhaid i chi gael caniatâd gan y llys cyn teithio os byddwch:
Math o drafnidiaeth | Bydd y llys yn talu |
---|---|
Bws neu drên tanddaearol | Pris y tocyn |
Trên | Pris y tocyn (tocyn dwyffordd 2il ddosbarth) |
Beic | 9.6c y filltir |
Beic modur | 31.4c y filltir |
Car | 31.4c y filltir |
Car - os bydd rheithiwr arall yn teithio gyda chi Car - am bob unigolyn arall sy'n teithio gyda chi |
4.2c y filltir 3.2c y filltir |
Tacsi | Cost y daith mewn tacsi |
Mae gan rai llysoedd gyfleusterau arlwyo ar gyfer rheithwyr - er enghraifft, ffreutur. Yn dibynnu ar y llys, efallai y gallwch ddefnyddio:
Yr amser a dreulir i ffwrdd o'ch cartref neu'ch gwaith bob dydd | Bydd y llys yn talu hyd at |
---|---|
Hyd at ac yn cynnwys deg awr y dydd | £5.71 y dydd |
Dros ddeg awr y dydd | £12.17 y dydd |
Os bydd y llys yn gofyn i chi aros dros nos | Bydd y llys yn trefnu llety |
Dylech wneud eich hawliad ar ddiwedd eich gwasanaeth rheithgor (heb fod yn hwyrach na thri mis ar ôl y gwasanaeth rheithgor). Os bydd hyn yn peri problemau - er enghraifft, nid oes gennych ddigon o arian i deithio - siaradwch ag aelod o staff y llys.
Os yw'r treial yn debygol o bara am gyfnod hir (er enghraifft, sawl mis) gwneir trefniadau arbennig i'ch talu.
Cadw cofnodion o'r hyn rydych yn ei wario
Rhaid i chi gadw cofnodion o'r costau - fel derbynebau tocynnau - a'u hanfon gyda'ch hawliad. Os nad ydych yn siŵr beth y dylid ei gyflwyno gyda'ch ffurflen hawlio, cysylltwch â'r llys.
Sut y cewch eich talu
Ni chewch eich talu mewn arian parod. Bydd y llys fel arfer yn trosglwyddo'r arian yn uniongyrchol i'ch cyfrif banc. Os na fydd hyn yn bosibl, siaradwch ag aelod o staff y llys ar ddiwrnod cyntaf eich gwasanaeth rheithgor.
Pryd y cewch eich talu
Dylech gael eich talu o fewn saith i ddeg diwrnod gwaith ar ôl i chi gyflwyno eich ffurflen hawlio. Dylech aros am o leiaf ddeg diwrnod gwaith cyn cysylltu â'r llys.