Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Amser i ffwrdd i gyflawni gwasanaeth rheithgor

Mae cynnal treial gerbron rheithgor yn rhan allweddol o'n system gyfreithiol a'n ffordd ddemocrataidd o fyw. Mae gwasanaeth rheithgor yn gyfrifoldeb pwysig i bob dinesydd. Mynnwch wybod am eich hawliau i amser i ffwrdd o'r gwaith i gyflawni gwasanaeth rheithgor.

Oes rhaid i'ch cyflogwr roi amser i ffwrdd i chi i gyflawni gwasanaeth rheithgor?

Os caiff eich galw i gyflawni gwasanaeth rheithgor, mae'n rhaid i'ch cyflogwr roi amser i ffwrdd i chi. Os na fydd yn gwneud hynny, gallai fod yn dirmygu'r llys. Os ydych yn gyflogai, mae'r hawl gennych i beidio â chael eich trin yn annheg (er enghraifft, peidio â chael eich ystyried ar gyfer dyrchafiad) am eich bod wedi eich galw i gyflawni gwasanaeth rheithgor.

Tâl

Nid oes rhaid i'ch cyflogwr eich talu tra eich bod yn cyflawni gwasanaeth rheithgor. Ond gallwch hawlio treuliau teithio a bwyd ac ar gyfer enillion a gollwyd o'r llys.

Mae angen i chi ofyn i'ch cyflogwr lenwi Tystysgrif Colli Enillion er mwyn hawlio enillion a gollwyd. Mae uchafswm o ran faint y gallwch ei hawlio.

Gallwch ddarllen mwy am lwfansau ar gyfer gwasanaeth rheithgor ar wefan Gwasanaeth Llysoedd Ei Mawrhydi.

Gohirio neu beidio â mynd i wasanaeth rheithgor

Gallwch ofyn am i'ch gwasanaeth rheithgor gael ei ohirio. Dim ond unwaith y gallwch wneud hyn ac ni allwch ei ohirio am fwy na 12 mis o'r dyddiad gwreiddiol.

Os hoffech gael eich eithrio rhag cyflawni gwasanaeth rheithgor yn gyfan gwbl, mae angen i chi ysgrifennu i'r Swyddfa Ganolog Gwysio Rheithgor yn nodi eich rhesymau. Fodd bynnag, oni bai eich bod wedi gwasanaethu ar reithgor o fewn y ddwy flynedd flaenorol, mae'n debygol y caiff eich galwad i gyflawni gwasanaeth rheithgor ei gohirio.

Pa mor hir y mae gwasanaeth rheithgor yn para?

Mae gwasanaeth rheithgor fel arfer yn para am 10 diwrnod, ond mae rhai treialon yn para'n hirach. Caiff rheithwyr eu rhybuddio ymlaen llaw fel arfer os disgwylir i dreial bara am gyfnod hir.

Diswyddo annheg

Os cewch eich diswyddo am eich bod wedi eich galw i gyflawni gwasanaeth rheithgor neu am eich bod wedi ei gyflawni, gallwch hawlio diswyddo annheg. Fodd bynnag, os dywedodd eich cyflogwr wrthych y byddai eich absenoldeb yn cael effaith ddifrifol ar ei fusnes ac ni wnaethoch ofyn am i'ch galwad gael ei gohirio neu ei hesgusodi, mae'n debygol bod y diswyddo yn deg.

Beth i'w wneud nesaf

Os ydych wedi cael eich galw i gyflawni gwasanaeth rheithgor, dylech:

  • roi gwybod i'ch cyflogwr faint o amser y bydd angen i chi ei gael i ffwrdd a pha drefniadau sydd angen eu gwneud er mwyn i weithwyr eraill gyflawni eich cyfrifoldebau yn eich absenoldeb
  • rhoi copi o'r llythyr Cadarnhau Gwasanaeth Rheithgor a gawsoch gan y llys i'ch cyflogwr

Os bydd eich cyflogwr yn eich cam-drin am eich bod wedi cytuno i gyflawni gwasanaeth rheithgor, dylech ddilyn y weithdrefn gwyno a nodir yn eich contract yn gyntaf.

Gallwch gael mwy o wybodaeth am beth i'w ddisgwyl yn ystod gwasanaeth rheithgor yn adran Trosedd a Chyfiawnder gwefan Cross & Stitch. Dilynwch y ddolen isod i gael mwy o wybodaeth a gwylio'r fideo ar-lein.

Allweddumynediad llywodraeth y DU