Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Mae'n bosib eich bod yn meddwl eich bod yn cymryd y camau iawn i gyd i gadw'ch manylion banc yn ddiogel, ond mae troseddau dwyn manylion personol yn dod yn fwyfwy cymhleth ac yn fwy anodd eu gweld.
Mae dwyn manylion personol yn broblem gynyddol, gyda dros un o bob pedwar yn honni eu bod wedi dioddef o'r trosedd neu'n 'nabod rhywun sydd wedi. Drwy ddwyn eich manylion personol, fe all rhywun wneud cais anghyfreithlon am basport neu gerdyn credyd. Os cân nhw afael ar eich manylion banc, byddan nhw hefyd yn gallu defnyddio'ch arian i brynu nwyddau iddyn nhw'u hunain.
Er mai'ch manylion banc yw un o'r pethau mwyaf cyffredin y bydd troseddwyr yn chwilio amdanynt, mae'n bosib hefyd i rywun ddwyn eich manylion personol drwy gael gafael ar eich pasport, eich trwydded yrru a phost sothach gewch chi. Efallai eich bod chi'n gwybod eich bod yn cadw'ch manylion yn ddiogel, ond bydd lladron manylion personol weithiau'n chwilota drwy finiau sbwriel i chwilio am dderbynebau rydych chi wedi'u taflu.
Mae'n bosib na fyddwch chi'n sylwi bod eich manylion wedi'u dwyn nes i chi geisio gwneud cais am gerdyn credyd a chael gwybod bod arnoch chi arian i nifer o gwmnïau eisoes. Fe allech chi hefyd gael ar ddeall wrth i chi wneud cais am fudd-daliadau a chlywed eich bod eisoes yn eu hawlio.
Mae'ch hunaniaeth a'ch manylion personol yr un mor werthfawr i droseddwyr â'ch ffôn symudol a'ch waled, felly dylech fod yr un mor ofalus i'w gwarchod. Yn ogystal â defnyddio'ch synnwyr cyffredin i gadw'ch cardiau a'ch cyfrineiriau'n ddiogel, mae ffyrdd eraill mwy penodol o warchod eich manylion:
Bachu yw un o'r ffyrdd mwyaf newydd a soffistigedig sydd gan dwyllwyr y rhyngrwyd o geisio dwyn manylion personol. Bydd pobl yn anfon negeseuon e-bost ffug sydd i bob golwg yn dod gan gwmnïau adnabyddus a pharchus.
Bydd negeseuon bachu fel hyn yn edrych fel petaen nhw wedi'u hanfon gan fanciau ar-lein neu siopau rhyngrwyd. Byddan nhw'n honni eu bod wedi colli'ch gwybodaeth neu'n dweud nad yw'r wybodaeth sydd ganddyn nhwh amdanoch yn ddiogel ragor yn sgîl archwiliadau diogelwch neu fethiant ar eu system TG. Fel arfer, byddan nhw'n rhoi dolen i chi glicio arni ac aildeipio'ch manylion banc neu'ch cyfrinair. Yna, byddan nhw'n defnyddio'r manylion hyn i fynd i mewn i'r wefan go iawn neu gysylltu â'r banc ar-lein.
Mae'n swnio'n beth digon hawdd ei gweld, ond mae'r negeseuon e-bost erbyn hyn yn mynd yn fwy swyddogol eu golwg, ac maen nhw'n defnyddio delweddau sydd wedi'u copïo oddi ar wefan y cwmni go iawn neu maen nhw'n ail-greu golwg cylchlythyron ar y we.
Er bod negeseuon e-bost yn mynd yn fwyfwy anoddd eu 'nabod, mae sawl peth yn eu cylch a ddylai wneud i chi feddwl ddwywaith cyn ateb:
Cofiwch na fydd cwmnïau byth yn eich gofyn am fanylion eich cyfrif neu gyfrineiriau yr ydych yn defnyddio i fynd i mewn i wefan. Os byddwch chi'n derbyn neges e-bost amheus a'ch bod yn meddwl y gall fod yn sgam ar-lein, cysylltwch â'r cwmni sydd i fod wedi anfon y neges a rhoi gwybod iddyn nhw. Gallwch anfon neges e-bost atynt drwy gyfrwng eu gwefan swyddogol.. Fe allech chi hyd yn oed eu ffonio os gwyddoch rif eu gwasanaeth-i-gwsmeriaid.