Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Diogelu eich eiddo

Os ydych chi wedi bod yn cynilo neu'n gweithio'n galed i brynu cyfrifiadur neu chwaraeydd MP3, gwnewch yn siŵr na all neb arall gael eu dwylo arno. Drwy gymryd ychydig o gamau diogelwch syml, fe allwch gadw'ch eiddo'n hynod ddiogel.

Eich eiddo gartref

Os ydych chi'n dal i fyw gartref neu os ydych chi yn y brifysgol, mae'n debyg y bydd gennych chi dipyn o bethau drud yn eich llofft. Os bydd rhywun yn torri i mewn, dydy cyfrifiaduron, stereos a setiau teledu ddim yn bethau rhad i'w prynu o'r newydd, felly mae'n bwysig gwneud popeth a allwch i'w diogelu.

Y peth cyntaf y dylech ei wneud yw cael yswiriant yn erbyn lladrad. Os ydych chi'n byw gartref, bydd polisi yswiriant eich rhieni'n eich gwarchod, ond os ydych chi'n byw oddi cartref, bydd yn rhaid i chi godi eich yswiriant eich hun. Yn aml iawn, bydd gan gwmnïau yswiriant fargeinion arbennig i fyfyrwyr, felly holwch o gwmpas am y cynnig gorau.

Os byddwch chi'n mynd allan ac nad oes neb arall o gwmpas, cofiwch gau a chloi pob ffenestr a drws. Mae'n swnio'n beth amlwg i'w wneud, ond mae'n demtasiwn peidio â thrafferthu os dim ond am ychydig o funudau rydych chi'n picio allan.

Os ydych yn y brifysgol, ewch â'ch holl eiddo gwerthfawr adref dros y gwyliau. Mae tai myfyrwyr a neuaddau preswyl yn fwy tebygol o gael eu targedu yn ystod y gwyliau gan fod troseddwyr yn gwybod eu bod fwy na thebyg yn wag. Mae gorfod symud eich eiddo hyd yn gallu bod yn boen, ond dyna'r ffordd orau o'u cadw'n ddiogel.

Marcio a chofrestru eich eiddo

Os byddwch yn marcio'ch eiddo gyda'ch cod post, mae'n fwy tebygol y cewch chi'ch pethau yn ôl os digwydd iddyn nhw gael eu dwyn. Gallwch wneud hyn drwy ddefnyddio marciwr uwch-fioled (UV). Fydd y marc ddim i'w weld oni bai eich bod yn taflu golau UV drosto. Gallwch brynu marciwr fel hwn yn y rhan fwyaf o siopau caledwedd a dydyn nhw ddim yn ddrud.

Neu, mae'n bosib y bydd eich heddlu lleol yn cynnal diwrnod yn eich ysgol, eich coleg neu'ch prifysgol lle byddan nhw'n cynnig marcio'ch eiddo am ddim.

Gallwch hefyd gofrestru rhai o'ch eitemau drud gyda'r Gofrestr Eiddo Genedlaethol. Dyma'r gronfa ddata y bydd yr heddlu yn ei defnyddio i gyfateb nwyddau sydd wedi'u dwyn gyda'r perchennog.

Gallwch gofrestru eitemau megis:

  • gliniaduron
  • camerâu
  • offerynnau cerdd
  • gemau cyfrifiadur

Ar ôl i chi greu cyfrif, gallwch gofrestru cynifer o eitemau ag a ddymunwch ar y gronfa ddata. Ni chodir tâl am gofrestru, ac os caiff unrhyw o'r eitemau a gofrestrwyd eu dwyn gallwch ddynodi hynny ar y gronfa ddata.

Cario eich eiddo

Pan fyddwch chi allan, mae ambell beth y dylech ei gofio er mwyn cadw'ch eiddo'n fwy diogel rhag lladron.

Mae'n haws o lawer i rywun ddwyn eich waled neu'ch pwrs o boced gefn, felly, mae'n well ei gario mewn poced flaen. Pan fydd angen i chi dalu am rywbeth neu ddefnyddio peiriant arian, peidiwch â thynnu'ch waled allan heb fod angen, a pheidiwch â dangos eich arian i'r byd a'r betws. Os gwnewch chi hynny, bydd troseddwyr yn gwybod eich bod yn cario rhywbeth gwerth ei ddwyn.

Os ydych chi'n cario bag, ceisiwch sicrhau ei fod y tu blaen i chi gyda'ch llaw dros y darn sy'n cau. Bydd hyn yn ei gwneud hi'n haws i chi wybod a oes rhywun yn ceisio'i ddwyn.

Yn olaf, os ydych chi'n mwynhau gwrando ar gerddoriaeth pan fyddwch chi allan, cofiwch gadw'ch chwaraeydd MP3 mewn poced fewnol a chadw gwifrau'ch clustffonau o'r golwg dan eich dillad.

Gwarchod eich beic

Cadwch eich beic yn ddiogel yn yr un modd ag y byddech yn diogelu eich car. Os byddwch yn gadael y beic heb neb yn gofalu amdano, cofiwch roi clo arno bob amser.

Prynwch glo cryf a dibynadwy i'w ddefnyddio i roi eich beic yn sownd wrth ffens, neu tynnwch olwyn bob tro y byddwch yn ei barcio. Gallwch hefyd farcio ffrâm eich beic gyda marciwr uwch-fioled.

Er mwyn gwella eich siawns o gael eich beic yn ôl os caiff ei ddwyn:

  • rhowch farc arno sy'n ei gwneud yn glir mai chi yw'r perchennog
  • gofynnwch i'r heddlu am ffurflen cofnodi beiciau

Ar ôl i chi lenwi'r ffurflen, bydd y manylion yn cael eu hychwanegu at gronfa ddata genedlaethol sy'n helpu i sicrhau bod beiciau sydd wedi'u dwyn yn cael eu dychwelyd i'w perchnogion.

Allweddumynediad llywodraeth y DU