Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Diogelu eich hun

Diolch byth, mae'r risg o gael rhywun yn dwyn oddi arnoch neu fod rhywun yn ymosod arnoch ar eich ffordd adref yn fach, ond er mwyn cadw'ch hun yn ddiogel, dylech gofio beth i'w wneud os cewch chi'ch hun mewn sefyllfa fygythiol.

Cyngor cyffredinol

Os gallwch chi, ceisiwch gerdded adref gyda rhywun arall neu gyda grŵp o ffrindiau. Rydych chi'n llai tebygol o gael rhywun yn ymosod arnoch chi neu'n eich mygio os ydych chi gyda mwy nag un person.

Dylech wastad fod yn effro ac yn ymwybodol o'r hyn sy'n digwydd o'ch cwmpas. Mae'n bosib eich bod wedi blino ond os syrthiwch i gysgu ar gludiant cyhoeddus, rydych chi'n fwy tebygol o gael dwyn eich bag neu'ch cot.

Dydy hi ddim yn syniad da gwrando ar gerddoriaeth drwy'ch ffonau clust chwaith. Yn ogystal â thynnu eich sylw chi oddi ar beth sy'n digwydd o'ch cwmpas, mae hefyd yn dangos bod gennych rywbeth gwerth ei ddwyn. Cofiwch gadw unrhyw beth gwerthfawr yn ddiogel yn eich bag.

Mae cario larwm personol hefyd yn gallu'ch helpu i deimlo'n fwy diogel o lawer. Wrth seinio'r larwm, bydd yn gwneud sŵn gwichian uchel a all ddychryn unrhyw un sy'n ymosod arnoch.

Mae llawer o siopau'r stryd fawr yn gwerthu larymau personol. Os ydych chi'n fyfyriwr mewn coleg neu brifysgol, mae'n bosib y bydd eich undeb myfyrwyr yn eu gwerthu'n rhatach neu'n eu rhoi i chi am ddim.

Cerdded adref

Os oes rhaid i chi gerdded adref ar eich pen eich hun gyda'r nos, mae ambell reol y dylech eu dilyn i gadw'ch hun yn ddiogel.

Cofiwch aros ar ffyrdd sydd â digon o olau ac sy'n weddol brysur. Bydd hyn yn ei gwneud hi'n haws i chi weld unrhyw un a all fod yn dod tuag atoch.

Mae’n aml yn demtasiwn dilyn llwybr tarw drwy'r parc neu i lawr ale. Fodd bynnag, bydd llawer o ymosodiadau'n digwydd mewn yr ardaloedd hyn, felly peidiwch â mentro'n ddiangen, dim ond i gyrraedd adref ychydig funudau'n gynt.

Os ydych chi'n meddwl bod rhywun yn eich dilyn, croeswch y ffordd neu ewch i mewn i siop. Os ydych chi'n ofni bod y sawl oedd yn eich dilyn yn aros amdanoch y tu allan, soniwch wrth y person sy'n gweithio yn y siop. Fe allan nhw edrych i weld a oes rhywun yn sefyllian y tu allan neu adael i chi ddefnyddio'u ffôn i alw rhywun i'ch nôl.

Teithio ar fws

Os ydych chi'n teithio ar eich pen eich hun ac yn gwybod sut mae cyrraedd adref, mae cludiant cyhoeddus yn llawer mwy diogel na cherdded. Fodd bynnag, dylech ddal i ddefnyddio'ch synnwyr cyffredin os nad ydych chi am fod yn darged.

Cofiwch ddal bws mewn arosfan lle mae pobl eraill yn aros. Gall hynny olygu ciwio am fwy o amser nag y byddech yn dymuno gwneud, ond mae'n peri llai o ddychryn na disgwyl ar eich pen eich hun.

Ar ôl mynd ar y bws, ceisiwch eistedd i lawr y grisiau ac mae'n haws rhybuddio'r gyrrwr os bydd rhywbeth yn digwydd sy'n gwneud i chi deimlo'n anghyfforddus. Os gallwch chi, eisteddwch mewn sedd wrth ymyl yr eil, fel y gallwch chi symud i sedd arall yn rhwydd os bydd angen.

Teithio ar drên

Arhoswch ar ran o'r platfform sydd â digon o olau a lle gallwch chi weld a oes rhywun yn dod atoch chi. Os ydych chi wir am fod yn ddiogel, efallai y byddwch hefyd am sefyll wrth ymyl un o weithwyr y platfform.

Pan fydd eich trên yn cyrraedd, dewiswch cerbyd sydd â phobl yn teithio ynddo eisoes. Hefyd, edrychwch i weld ble mae'r larymau argyfwng. Os byddwch chi mewn trwbwl, peidiwch â bod ag ofn eu defnyddio.

Os ydych chi'n teimlo'n anghyfforddus, ewch i gerbyd arall. Os nad oes ffordd drwodd i chi tra bo'r trên yn symud, sefwch wrth y drws a newid cerbyd yn yr orsaf nesaf.

Allweddumynediad llywodraeth y DU