Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Mae'n bwysig i chi wybod sut mae bod yn ddiogel pan rydych chi'n defnyddio'r rhyngrwyd. Ddylech chi byth rannu gwybodaeth bersonol ar-lein, dim ots gyda phwy rydych chi'n meddwl eich bod yn siarad.
Mae nifer o safleoedd sy'n gadael i chi siarad â phobl eraill ar y we. Mewn 'stafelloedd sgwrsio', cewch gyfle i gael sgwrs gyda phobl eraill a chael ateb yn y fan a'r lle. Mae negesfyrddau a fforymau ar-lein yn rhoi cyfle i chi godi cwestiynau neu wneud sylwadau a gofyn i ddefnyddwyr eraill roi eu barn yn eu hamser eu hunain.
Gall fod yn ffordd wych o sgwrsio gyda phobl eraill sy'n rhannu eich diddordebau, ond dylech wastad fod yn ofalus i beidio â throsglwyddo unrhyw fanylion personol. Dylech wastad gadw mewn cof y ffaith fod defnyddwyr y rhyngrwyd yn gallu smalio bod yn unrhyw un. Fe allan nhw ddweud celwydd am eu hoedran, eu diddordebau ac a ydyn nhw'n wryw neu'n fenyw. Dim ots ers faint rydych chi wedi bod yn sgwrsio, cofiwch mai dieithriaid yw'r rhain o hyd ac nad ydych chi wir yn eu nabod nhw o gwbl.
Efallai bod gan rai ohonoch eich cyfrif Bebo neu broffil Facebook eich hun sy'n gadael i chi sgwrsio gyda ffrindiau neu gyfathrebu gyda defnyddwyr eraill sy'n rhannu'ch diddordebau. Mae'r 'rhwydweithiau cymdeithasol' hyn yn gadael ichi greu eich blog eich hun, llwytho lluniau a fideos i eraill eu gweld, ac ychwanegu pobl at restr ffrindiau ar-lein.
Mae'r rhwydweithiau cymdeithasol yn ffordd wych o gadw mewn cysylltiad ond dylech feddwl yn ofalus cyn ychwanegu rhywun at eich rhestr o ffrindiau ar-lein neu bostio blog a allai eich rhoi mewn helynt yn yr ysgol, y coleg neu'r gwaith. Cofiwch:
Os ydych chi'n chwilio am fwy o wybodaeth am gadw rheolaeth ar eich tudalen a sut i gael y gorau o safleoedd rhwydweithio cymdeithasol, cewch yr holl gyngor y bydd ei angen arnoch ar ThinkUKnow.
Peidiwch â rhoi unrhyw wybodaeth bersonol megis eich cyfeiriad neu'ch rhif ffôn wrth ddefnyddio stafell sgwrsio neu roi neges ar fwrdd negeseuon. Dylech wastad ddefnyddio llysenw fel na all neb chwilio am eich enw mewn llyfr ffôn a chael eich rhif ffôn gartref.
Nid yw fel arfer yn beth call trefnu i gyfarfod â rhywun rydych chi wedi bod yn sgwrsio â nhw ar-lein. Cofiwch na fedrwch chi fyth fod yn sicr eu bod yn dweud y gwir am eu hoedran neu eu diddordebau ac y gallech fod yn rhoi eich hun mewn sefyllfa beryglus.
Os dymunwch gyfarfod â rhywun arall rydych chi wedi'u cyfarfod ar-lein, cofiwch drafod hynny gyda'ch rhieni ymlaen llaw. Os byddan nhw'n cytuno, cofiwch drefnu cyfarfod mewn man cyhoeddus ac ewch ag oedolyn gyda chi.
Bydd rhai gwefannau'n gofyn i chi lenwi ffurflen gofrestru cyn i chi eu defnyddio. Er bod hyn yn beth arferol, mae'n syniad da cael gwybod beth y bydd y wefan yn ei wneud gyda'ch manylion personol. Rhaid i bob cwmni sy'n casglu gwybodaeth ddweud wrth eu cwsmeriaid sut y bydd gwybodaeth bersonol yn cael ei defnyddio. Cofiwch edrych ar delerau ac amodau'r wefan os ydych am gael gwybod hyn.
Bydd rhai safleoedd yn gadael i gwmnïau eraill ddefnyddio manylion o'u cronfa ddata o ddefnyddwyr at ddibenion ymchwil marchnad. Rhaid i gwmnïau roi'r cyfle i chi ddweud wrthyn nhw os nad ydych chi am i'ch manylion gael eu defnyddio fel hyn. Bydd hyn yn cael ei wneud yn aml drwy gael blwch ticio ar y dudalen gofrestru ar-lein. Os nad ydych chi am i'ch gwybodaeth gael ei defnyddio, sicrhewch eich bod yn ticio'r blwch hwnnw cyn i chi gyflwyno'ch gwybodaeth.
Mae llawer o bobl dal ddim yn hoffi siopa ar y we oherwydd eu bod yn meddwl nad yw eu manylion banc yn ddiogel. Yn ffodus, mae siopa ar y we erbyn hyn yr un mor ddiogel ag archebu nwyddau dros y ffôn, dim ond i chi ddilyn ambell reol synnwyr cyffredin.
Os byddwch chi'n archebu nwyddau dros y we, cofiwch sicrhau bod y cwmni rydych chi'n prynu ganddo'n defnyddio gweinydd siopa diogel. Byddwch yn gwybod a yw'r safle'n safle diogel os bydd eicon clo yn ymddangos ar waelod ffenestr eich porwr, neu os yw cyfeiriad y we'n dechrau efo 'https:'.
Os nad ydych chi wedi clywed am y cwmni o'r blaen, chwiliwch drwy eu safle am unrhyw rifau cyswllt a chyfeiriadau post. Os ydyn nhw'n gwmni dibynadwy, fydd dim ots ganddyn nhw eich bod yn eu ffonio i ofyn ambell gwestiwn iddyn nhw.
Hefyd, cofiwch beidio ag anfon manylion eich banc at neb mewn neges e-bost. Fydd banciau a siopau ar-lein byth yn gofyn i chi wneud hyn oherwydd nid yw'n ffordd ddiogel o anfon gwybodaeth.
Os byddwch chi'n derbyn e-bost swyddogol yr olwg sy'n gofyn i chi anfon eich manylion ariannol, ddylech chi mo'i ateb byth oherwydd fe allai rhywun ddwyn eich manylion personol.