Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Gwarchod eich ffôn symudol

Mae cael dwyn eich ffôn yn boen. Nid dim ond y ffôn ei hun fyddwch chi'n ei golli ond y rhifau, y negeseuon a'r ffeiliau rydych chi wedi'u llwytho hefyd. Bydd gwybod sut i warchod eich ffôn symudol a’i gadw'n ddiogel yn arbed llawer o straen ac anghyfleustra i chi.

Cario'ch ffôn

Os nad ydych chi wrthi'n ffonio rhywun, gwnewch yn siŵr eich bod yn cadw'ch ffôn o'r golwg. Cadwch ef yn un o'ch pocedi blaen neu mewn bag. Peidiwch â'i roi'n sownd wrth eich belt neu o gwmpas eich gwddf.

Bydd lladron yn manteisio ar gyfleoedd sy'n codi, felly peidiwch â'ch gwneud eich hun yn darged hawdd drwy dynnu sylw at y ffôn yr ydych yn ei gario.

Bydd llawer o bobl yn tynnu eu ffôn o'u poced wrth eistedd i lawr. Os byddwch chi allan gyda'ch ffrindiau, peidiwch â rhoi eich ffôn ar fwrdd. Fe all unrhyw un sy'n cerdded heibio'i fachu a rhedeg i ffwrdd yn rhwydd.

Defnyddio’ch ffôn

Os ydych chi'n defnyddio'ch ffôn mewn man cyhoeddus, cadwch olwg ar beth sy'n mynd ymlaen o'ch cwmpas. Bydd lladron yn fodlon gwneud rhywbeth bron i gael eu dwylo ar y modelau diweddaraf, felly cadwch o gwmpas eich pethau.

Dylech hefyd geisio osgoi defnyddio'ch ffôn mewn man cyhoeddus gyda'r nos. Os oes rhaid i chi ddefnyddio'ch ffôn, ceisiwch ddod o hyd i ardal sydd wedi'i goleuo'n dda. Hefyd ceisiwch osgoi tynnu'ch ffôn allan mewn gorsaf drenau neu arosfan bysiau. Mae lladron yn targedu'r mannau hyn.

Diogelu eich ffôn

Mae bob amser yn syniad da cadw cofnod o wneuthuriad, model a rhif unigryw'r teclyn ei hun (rhif IMEI) o’ch ffôn. Mae'r rhif hwn i'w weld y tu ôl i'r bateri, neu drwy ffonio *#06#'.

Cadwch y manylion hyn mewn man diogel ac ar wahân yn llwyr i'ch ffôn gan y bydd rhaid i chi eu rhoi i'ch darparwr gwasanaeth os byddwch chi'n colli'ch ffôn neu os caiff ei ddwyn.

Beth bynnag yw model eich ffôn, bydd ganddo nodweddion diogelwch yn rhan ohono ac fe allwch ddefnyddio'r rhain i'w ddiogelu. Os nad ydych chi'n gwybod sut i'w defnyddio, edrychwch ar y llawlyfr cyfarwyddiadau.

Er enghraifft, gallwch roi rhif PIN ynddo ac yna, rhaid teipio'r rhif hwn cyn y gallwch chi ffonio. Bydd hyn yn golygu na all neb arall ddefnyddio'ch ffôn a bydd yn gwarchod eich manylion personol.

Cofrestru, Hysbysu, Dychwelyd

Cofrestru

Gallwch gofrestru manylion eich ffôn hefyd gyda'r Gofrestr Ffonau Symudol Genedlaethol. Bydd hyn yn help i'r heddlu ddychwelyd eich ffôn i chi os caiff ei ddwyn. Dylech hefyd gofrestru manylion eich ffôn gyda darparwr eich rhwydwaith.

Hysbysu

Os byddwch chi'n colli'ch ffôn neu os caiff ei ddwyn fe ddylech roi gwybod ar unwaith i'r heddlu.

Dylech hefyd gysylltu â darparwr eich rhwydwaith. Pan gewch chi ateb, dywedwch wrthyn nhw fod eich ffôn wedi'i ddwyn. Byddan nhw'n gallu blocio'r ffôn ei hun a'r cerdyn SIM fel na fydd neb yn gallu eu defnyddio rhagor.

Dychwelyd

Os bydd yr heddlu’n cael eich ffôn yn ôl, mae’n llawer haws iddynt ddychwelyd eich ffôn i chi os ydych wedi’i gofrestru. Gallant gydweddu’r rhif cyfresol â’ch enw a chyfeiriad a’i ddychwelyd yn gyflym i chi.

Allweddumynediad llywodraeth y DU