Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Os na allwch yrru, yna mae'n debygol eich bod yn defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus. Os ydych yn bwriadu defnyddio bws, trên, neu fws moethus, mae'n syniad da holi i weld pa ostyngiadau sydd ar gael i bobl ifanc.
Er eich bod o bosib yn cael teithio yn ôl ac ymlaen i'r ysgol am ddim yn ystod yr wythnos, nid yw hyn yn golygu y cewch deithio ar fws am ddim ar benwythnosau. Fodd bynnag, bydd llawer o gwmnïau bysiau lleol yn codi ffioedd hanner-pris ar bobl ifanc dan 16 oed.
Os ydych chi dan 16 oed, efallai bod modd i chi gael tocyn bws myfyriwr neu berson ifanc, yn dibynnu ar ba gynlluniau y mae'ch cwmni cludiant lleol yn eu rhedeg.
I gael mwy o wybodaeth am drafnidiaeth gyhoeddus yn eich ardal chi, gallwch gysylltu â'ch cyngor lleol neu'r cwmnïau bysiau yr ydych yn gwybod y byddwch yn eu defnyddio.
Os ydych chi rhwng 16 a 26 oed, ac yn bwriadu teithio ar fws moethus, efallai y gallech arbed arian drwy gael cerdyn NX2 gan National Express.
Mae cerdyn NX2 yn costio £10, ac mae'n tynnu hyd at 30 y cant oddi ar gostau pob siwrnai ar fws moethus o amgylch y DU sy'n cael eu rhedeg gan National Express. Y ffordd orau o gael cerdyn NX2 yw drwy wneud cais ar-lein.
Mae llawer o gwmnïau bysiau moethus eraill yn rhedeg tripiau a theithiau ar draws y wlad hefyd. I gael gwybod am y gwahanol siwrneiau sydd ar gael, gallwch gynllunio'ch siwrnai ar-lein a phenderfynu pa un yw'r mwyaf cyfleus i chi.
Os byddwch yn teithio ar y tiwb yn Llundain, mae nifer o ostyngiadau ar gael i bobl ifanc.
Os ydych chi dan 16 oed, gallwch deithio am bris gostyngedig, ond bydd rhaid i chi gael cerdyn llun Zip Oyster i brofi’ch oedran.
Gallwch gael ffurflen gais am gerdyn llun Dan 16 Oed mewn unrhyw Swyddfa'r Post yn Llundain Fwyaf, neu drwy ffonio 0845 330 9876. Unwaith y bydd eich rhiant neu'ch gwarchodwr wedi'i llofnodi, bydd angen i chi ddychwelyd y ffurflen at Swyddfa'r Post, ynghyd â llun pasbort a math o ddogfen adnabod. Dylai hyn fod eich pasbort neu eich tystysgrif geni.
Os ydych chi'n 16 neu 17 oed, bydd angen cerdyn llun Zip Oyster 16-17 arnoch. Bydd modd i chi gael cardiau teithio am 7 niwrnod neu fwy am bris gostyngedig. Gallwch hefyd arbed arian ar docynnau unffordd drwy ddefnyddio'r system Oyster. Heb gerdyn Zip, bydd rhaid i chi dalu’r pris llawn tocyn oedolyn.
Gellir dod o hyd i fwy o wybodaeth am y gwahanol fathau o docynnau tiwb sydd ar gael ar wefan Transport for London.
Mae llawer o ffyrdd eraill o deithio o gwmpas, yn dibynnu ar ble'r ydych yn byw, gan gynnwys:
Os ydych yn dymuno defnyddio'r gwasanaethau hyn, holwch i weld a ydynt yn cynnig gostyngiadau i bobl ifanc.