Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Cerdyn trên 16-25

Os ydych yn teithio ar drenau'n rheolaidd, neu hyd yn oed yn achlysurol, gallai Cerdyn Trên 16-25 arbed arian i chi. Mae'n hawdd gwneud cais am un, ac mae ychydig o fanteision eraill i gael un hefyd.

Pa mor hen y mae'n rhaid i chi fod?

I wneud cais am Gerdyn Trên 16-25, rhaid i chi fod rhwng 16 a 25 oed. Bydd gwneud cais am un yn golygu y cewch draean oddi ar bris y rhan fwyaf o docynnau trên - lle bynnag yr ydych yn y wlad.

Oes yna unrhyw amodau?

Dim ond chi sy'n cael defnyddio eich Cerdyn Trên 16-25, felly ni fydd modd i chi gael tocynnau am bris gostyngedig i'ch ffrindiau ac aelodau o'ch teulu.

Os ydych am ddefnyddio eich cerdyn cyn 10.00 am yn ystod yr wythnos, bydd rhaid i chi dalu mwy na swm penodol.

Yn olaf, dim ond ar gyfer teithiau un ffordd neu ddwy ffordd y gellir defnyddio'r cerdyn trên, felly ni fydd modd i chi gael gostyngiad ar docyn tymor nac ar docyn misol.

Faint fydd hyn yn ei gostio?

Mae Cerdyn Trên 16-25 yn costio £24 am flwyddyn. Unwaith y daw oes eich cerdyn i ben, gallwch ei adnewyddu am yr un gost, cyn belled ag y byddwch yn dal i fod rhwng 16 a 25 oed.

Gallwch gael Cerdyn Trên 16-25 sy'n para tair blynedd am £65, a all arbed mwy fyth o arian i chi. Gallwch gael un o'r rhain hyd nes y diwrnod cyn eich pen-blwydd yn 24.

Sut i wneud cais

Gallwch brynu Cerdyn Trên 16-25 yn y rhan fwyaf o orsafoedd trenau. Bydd rhaid i chi lenwi ffurflen gais a'i chyflwyno, ynghyd â math o ddogfen adnabod megis eich pasport, trwydded yrru neu'ch tystysgrif geni. Bydd angen llun maint pasport arnoch hefyd.

Gallwch hefyd brynu cerdyn trên dros y ffôn. Gwnewch yn siŵr bod gennych rhyw fath o ddogfen adnabod yn barod.

Gallwch hefyd wneud cais ar-lein drwy ddefnyddio eich pasport neu rif eich trwydded yrru a llun priodol.

Gostyngiadau eraill wrth deithio ar drên

Os nad ydych yn gymwys ar gyfer Cerdyn Trên 16-25, mae ffyrdd eraill o arbed arian ar daith drên.

Gostyngiadau grŵp

Mae llawer o gwmnïau trên yn cynnig costau teithio arbennig i bobl sy'n teithio mewn grŵp. Felly os ydych yn cynllunio taith siopa gyda'ch ffrindiau neu benwythnos i ffwrdd, cysylltwch â'r cwmni trên y byddwch yn teithio gyda nhw i weld pa fath o docynnau grŵp y maent yn eu cynnig.

Pris plant

Mae gan y rhan fwyaf o gwmnïau trên hefyd brisiau plant gostyngedig os ydych dan 16 oed. Holwch y cwmni trên y byddwch yn ei ddefnyddio i gael gwybod a ydynt yn cynnig tocynnau rhatach i blant.

Allweddumynediad llywodraeth y DU