Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Swyddogaeth a gwaith Aelodau Seneddol

Mae'r cyhoedd yn ethol Aelodau Seneddol (ASau) i gynrychioli eu diddordebau a'u pryderon yn Nhŷ'r Cyffredin. Mae ASau yn rhan o'r broses o ystyried a chynnig cyfreithiau newydd, a gallant ddefnyddio eu safle i ofyn cwestiynau am faterion cyfoes i weinidogion y llywodraeth.

Gwaith AS

Mae ASau yn rhannu eu hamser rhwng gweithio yn y Senedd ei hun, gweithio yn yr etholaeth a wnaeth eu hethol, a gweithio i'w plaid wleidyddol. Mae rhai ASau o'r blaid sy'n rheoli yn dod yn weinidogion y llywodraeth gyda chyfrifoldebau penodol mewn rhai meysydd, fel iechyd neu amddiffyn.

Pan fydd y Senedd yn cyfarfod, yn gyffredinol mae ASau yn treulio'u hamser yn gweithio yn Nhŷ'r Cyffredin. Gall hyn gynnwys codi materion sy'n effeithio ar eu hetholwyr, bod yn bresennol mewn trafodaethau a phleidleisio ar gyfreithiau newydd. Mae'r rhan fwyaf o ASau hefyd yn aelodau o bwyllgorau, sy'n ystyried materion o bolisïau a chyfreithiau newydd y llywodraeth a phynciau ehangach fel hawliau dynol yn ofalus.

Yn eu hetholaethau, mae ASau yn cynnal cymorthfeydd yn eu swyddfeydd yn aml, lle caiff pobl leol drafod unrhyw fater sy'n peri pryder iddynt, er bod cyfyngiadau ar faint o gymorth y gall ASau ei roi. Mae ASau hefyd yn mynd i ddigwyddiadau, yn ymweld ag ysgolion a busnesau ac yn ceisio cyfarfod cymaint o bobl â phosibl. Mae hyn yn rhoi darlun a chyd-destun fwy manwl i ASau o ran materion y gallant fod am eu trafod pan fyddant yn dychwelyd i San Steffan.

Cysylltu â'ch AS a sut y gallant eich helpu

Dim ond gyda materion y mae'r Senedd neu'r llywodraeth ganolog yn gyfrifol amdanynt y gall ASau helpu. Gall y rhain, er enghraifft, fod yn broblemau sy'n wynebu'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol, Cyllid a Thollau EM, a'r Adran Gwaith a Phensiynau sy'n delio â materion sy'n ymwneud â budd-daliadau, pensiynau ac Yswiriant Gwladol.

Yn aml, y cam cyntaf yw cysylltu â chynghorydd neu gynrychiolydd lleol mewn Cynulliad datganoledig - gallant helpu gyda phroblemau sy'n gysylltiedig â'r dreth gyngor, gwasanaethau cymdeithasol lleol a phroblemau bob dydd mewn ysgolion, er enghraifft.

Os oes angen eich AS lleol arnoch i ddatrys eich problem, yna cysylltwch ag ef drwy anfon llythyr at Dŷ'r Cyffredin, Llundain SW1A 0AA. Defnyddiwch y dolenni isod os ydych am wybod pwy yw eich AS, ac i weld a oes ganddynt fanylion cyswllt, fel cyfeiriad e-bost.

Mae'r rhan fwyaf o ASau yn cynnal cymorthfeydd, lle byddant ar gael mewn gwahanol leoedd o fewn eu hetholaeth i gyfarfod a thrafod problemau. Caiff y cymorthfeydd eu hysbysebu'n lleol yn aml mewn papurau newydd a llyfrgelloedd cyhoeddus.

Mae Swyddfa Wybodaeth Tŷ'r Cyffredin wedi llunio taflen ffeithiau sy'n rhoi manylion am y ffordd y gall ASau helpu eu hetholaethau, gan gynnwys eu rôl wrth ddeisebu, ymgyrchu a lobïo.

ASau a phwyllgorau dethol

Mae pwyllgorau dethol fel arfer yn archwilio agweddau ar bolisïau a gweinyddu drwy brif adrannau'r llywodraeth a'u cyrff cyhoeddus cysylltiedig, ac maent hefyd yn edrych ar gynigion deddfwriaethol Ewropeaidd penodol. Cânt hefyd eu penodi ar gyfer tasgau penodol: ymchwilio a chraffu ar faterion penodol neu Fesurau arbennig, er enghraifft.

Maent yn darparu adroddiadau am eu casgliadau a'u hargymhellion i Dŷ'r Cyffredin yn ei gyfanrwydd. Gellir penodi pwyllgor dethol am gyfnod Senedd, neu am sesiwn, neu am gyhyd ag y mae'n ei gymryd i gwblhau tasg. Mae cyfansoddiad pob pwyllgor ar sail cryfder y pleidiau yn y Tŷ.

Wrth archwilio polisïau, gwariant a gweinyddiaeth y llywodraeth, gall pwyllgorau dethol holi gweinidogion, gweision sifil, cyrff ac unigolion perthnasol. Trwy wrandawiadau ac adroddiadau cyhoeddedig darparant swm helaeth o ffeithiau a safbwyntiau gwybodus ar nifer o faterion i'r Senedd a'r cyhoedd.

Hawliau a breintiau ASau

Er mwyn sicrhau y gall y Senedd gyflawni ei dyletswyddau heb rwystr, mae rhai hawliau ac imiwnedd yn berthnasol i bob Aelod. Er enghraifft:

  • rhyddid i lefaru
  • hawliau'r Tŷ i reoli ei drafodion ei hun (fel y gall, er enghraifft, gadw 'dieithriaid' allan os yw'n dymuno hynny)
  • yr hawl i benderfynu ar anghymwysiadau cyfreithiol gyda golwg ar aelodaeth a datgan sedd yn wag ar seiliau o'r fath
  • yr hawl i gosbi am gamddefnyddio breintiau'r Tŷ ac am ddirmyg

Mae gan y Senedd hawl i gosbi unrhyw un, yn y Tŷ neu y tu allan, sy'n camddefnyddio braint - hynny ydy, sy'n troseddu yn erbyn hawliau'r Tŷ.

Hefyd, i gael rhagor o wybodaeth am safonau mewn bywyd cyhoeddus, defnyddiwch y ddolen isod.

Additional links

Rhaglen Ddeddfwriaethol Ddrafft

Mae'r ymgynghoriad cyhoeddus am gynigion ar gyfer cyfreithiau newydd wedi dod i ben - nawr, bydd y Llywodraeth yn ystyried yr ymateb a gafwyd

Allweddumynediad llywodraeth y DU