Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Prif swyddogaethau'r Senedd yw pasio deddfau, ariannu'r gwaith o lywodraethu drwy drethi, craffu ar weinyddiaeth a pholisïau'r Llywodraeth, gan gynnwys cynlluniau ar gyfer gwariant, a thrafod prif faterion y dydd.
Gall y Senedd yn San Steffan yn Llundain ddeddfu ar gyfer y DU i gyd ac mae ganddi bwerau i ddeddfu ar gyfer unrhyw ran ohoni ar wahân. Fodd bynnag, ni fydd fel arfer yn deddfu ar faterion sydd wedi'u datganoli yn yr Alban a Gogledd Iwerddon heb gytundeb Senedd yr Alban a Chynulliad Gogledd Iwerddon. Mae gan Senedd San Steffan gyfrifoldeb ledled y DU mewn sawl maes yn cynnwys amddiffyn, materion tramor, polisïau economaidd ac ariannol, nawdd cymdeithasol, cyflogaeth, a chyfle cyfartal.
Yn Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw, sef dibynwledydd y Goron nad ydynt yn rhan o'r DU, mae deddfwriaeth ar faterion cartref fel arfer ar ffurf cyfreithiau sy'n cael eu pasio gan ddeddfwrfeydd yr Ynysoedd. Fodd bynnag, mae cyfreithiau'r DU weithiau'n ymestyn i'r Ynysoedd gyda'u caniatâd, er enghraifft mewn materion megis mewnfudo a darlledu.
Gan nad oes unrhyw gyfyngiadau cyfreithiol yn cael eu gorfodi gan gyfansoddiad ysgrifenedig, gall y Senedd ddeddfu fel y mynno gyhyd ag y bo'r DU yn cyflawni'i dyletswyddau fel aelod o'r Undeb Ewropeaidd. Gall wneud neu newid cyfreithiau, gwyrdroi confensiynau sydd wedi hen sefydlu neu eu troi'n gyfraith. Gall hyd yn oed ddeddfu i ymestyn ei oes ei hun y tu hwnt i'r cyfnod arferol heb ymgynghori â'r etholwyr.
Ond, yn ymarferol, nid yw'r Senedd yn ymddwyn yn y ffordd hon. Mae ei haelodau'n gweithio yn unol â chyfraith gwlad ac fel arfer yn gweithredu'n unol â chonfensiwn. Mae Tŷ'r Cyffredin yn uniongyrchol atebol i'r etholwyr ac yn ystod yr 20fed ganrif cydnabu Tŷ'r Arglwyddi fwyfwy oruchafiaeth y siambr etholedig.
Bydd tair rhan y Senedd - Tŷ'r Cyffredin, Tŷ'r Arglwyddi a'r Frenhiniaeth - yn cyd-gyfarfod dim ond ar achlysuron o arwyddocâd symbolaidd megis Agoriad Swyddogol y Senedd pan fydd aelodau Tŷ'r Cyffredin yn cael eu galw gan y Frenhines i Dŷ'r Arglwyddi. Fel arfer mae angen cytundeb y tri i basio deddfau ond mae cytundeb y Frenhines/Brenin yn cael ei roi fel mater o drefn.
Mae Tŷ'r Cyffredin yn cynnwys 646 o Aelodau Seneddol etholedig. O'r 646 sedd, mae 529 yn cynrychioli etholaethau yn Lloegr, 40 yng Nghymru, 59 yn yr Alban a 18 yng Ngogledd Iwerddon.
Ar ôl diddymu Senedd ac ar ôl cynnal Etholiad Cyffredinol, mae'r Frenhines/Brenin yn galw Senedd newydd. Pan fydd AS yn marw, yn ymddiswyddo neu'n cael ei wneud yn aelod o Dŷ'r Arglwyddi, cynhelir isetholiad.
Y Llefarydd yw prif swyddog Tŷ'r Cyffredin, a etholir gan ASau i lywyddu dros y Tŷ. Mae'r swyddogion eraill yn cynnwys Cadeirydd Ffyrdd a Moddau, a dau ddirprwy gadeirydd, a gall pob un weithredu fel Dirprwy Lefarwyr. Fe'u hetholir gan y Tŷ fel enwebeion y Llywodraeth, ond gallant ddod o'r Wrthblaid yn ogystal â phlaid y llywodraeth. Comisiwn Tŷ'r Cyffredin, corff statudol a gadeirir gan y Llefarydd, sy'n gyfrifol am weinyddiaeth y Tŷ.
Mae'r swyddogion parhaol (nad ydynt yn ASau) yn cynnwys Clerc Tŷ'r Cyffredin, sef prif gynghorydd y Llefarydd ar freintiau a gweithdrefnau'r Tŷ. Mae cyfrifoldebau eraill y Clerc yn ymwneud â'r ffordd y mae busnes y Tŷ yn cael ei gynnal a'i bwyllgorau. Y Clerc hefyd yw swyddog cyfrifyddu'r Tŷ. Mae'r Sarsiant wrth Arfau, sy'n gofalu am y Llefarydd, yn gweithredu rhai o orchmynion y Tŷ. Ef hefyd yw howscipar swyddogol rhan Tŷ'r Cyffredin o Balas San Steffan ac yn gyfrifol am ddiogelwch.
Ail siambr neu uchel dŷ Senedd y DU yw Tŷ'r Arglwyddi. Mae'n gweithio gyda Thŷ'r Cyffredin i greu cyfreithiau, i graffu ar weithredoedd y Llywodraeth, ac i ddarparu fforwm o arbenigedd annibynnol. Mae'n cynnwys Arglwyddi Eglwysig ac Arglwyddi Lleyg. Mae'r Arglwyddi Eglwysig yn cynnwys Archesgob Caergaint, Archesgob Efrog, Esgob Llundain, Esgob Durham, ac Esgob Caerwynt. Mae bod yn aelod o Dŷ'r Arglwyddi yn ymestyn i'r esgobion eraill yr Eglwys yn Lloegr sydd wedi gwasanaethu am y cyfnod hiraf. Mae'r Arglwyddi Lleyg yn arglwyddi etifeddol neu'n arglwyddi oes. Gallant gefnogi plaid wleidyddol; gelwir Arglwyddi diduedd yn groesfeincwyr. Mae deddfwriaeth ers 1999 wedi cyfyngu nifer yr arglwyddi etifeddol ac mae'r rhan fwyaf o'r arglwyddi yn Nhŷ'r Arglwyddi yn arglwyddi oes (lle nad yw anrhydeddau'n cael eu hetifeddu).
Mae Tŷ'r Arglwyddi yn treulio tua 60 y cant o'i amser yn trafod deddfwriaeth; a'r 40 y cant arall ar graffu - sef cwestiynu'r materion a'r polisïau y mae'r llywodraeth yn eu trafod. Mae'r gwaith pwyllgor yn digwydd y tu allan i'r Siambr.
Mae pob diwrnod eistedd Aelodau Tŷ'r Arglwyddi yn dechrau drwy holi gweinidogion y llywodraeth yn y Siambr am yr hyn y maent yn ei wneud, neu'n cynnig ei wneud, ar unrhyw bwnc. Ar ôl y 'Cwestiynau Llafar' hyn, efallai y bydd yr Arglwyddi yn archwilio ac yn gwella'r ddeddfwriaeth ddrafft. Gall hyn ddechrau yn Nhŷ'r Cyffredin neu yn Nhŷ'r Arglwyddi. Gall aelodau hefyd drafod pynciau pwysig i nodi barn y Tŷ ar fater, gan roi gwybod i'r wlad a'r Llywodraeth am eu barn.
Mae'r ymgynghoriad cyhoeddus am gynigion ar gyfer cyfreithiau newydd wedi dod i ben - nawr, bydd y Llywodraeth yn ystyried yr ymateb a gafwyd