Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Safonau mewn bywyd cyhoeddus

Mae yna nifer o fesurau ar waith i wneud yn siŵr bod Aelodau Seneddol a phobl eraill mewn bywyd cyhoeddus yn cyflawni eu dyletswyddau mewn ffordd sy’n cyd-fynd â chyfres o reolau. Yma, cewch wybod beth yw’r rhain a beth i’w wneud os ydych chi’n meddwl bod Aelod Seneddol neu gynghorydd yn torri’r rheolau hyn.

Y Pwyllgor Safonau mewn Bywyd Cyhoeddus

Mae’r pwyllgor yn cadw golwg ar ymddygiad pobl mewn bywyd cyhoeddus, fel Aelodau Seneddol Mae’n gwneud yn siŵr eu bod yn ymddwyn yn foesegol ac yn rhoi awgrymiadau pan fydd materion yn codi. Mae’r meysydd y gallant edrych arnynt yn cynnwys treuliau Aelodau Seneddol neu sut mae pleidiau gwleidyddol yn codi arian ar gyfer ymgyrchoedd.

Chewch chi ddim cwyno wrth y pwyllgor am bobl benodol, ond cewch awgrymu meysydd iddynt edrych arnynt. Gallwch fynd i ddigwyddiadau cyhoeddus a gynhelir gan y pwyllgor a rhoi eich safbwyntiau, neu gymryd rhan mewn ymgynghoriad. Mae’r pwyllgor hefyd yn cynnal arolwg bob blwyddyn er mwyn cael barn y cyhoedd.

Y Comisiynydd Seneddol dros Safonau

Bydd y comisiynydd yn rhoi hyfforddiant i Aelodau Seneddol ar y rheolau ymddygiad a nodir yn eu cod ymddygiad, ac yn eu helpu i lynu at y rheolau hyn. Mae’r swyddogaeth hon yn annibynnol ar y llywodraeth. Os ydych chi’n meddwl bod Aelod Seneddol wedi torri’r rheolau hyn gallwch gwyno wrth y Comisiynydd.

Bydd y comisiynydd yn cadw cofrestr o fuddiannau ariannol, a rhai buddiannau anariannol, Aelodau Seneddol, er enghraifft taliadau am siarad ar y radio neu ar y teledu, neu berthnasau mewn swyddi cyhoeddus. Fe allwch chi weld y gofrestr ar-lein.

Yn ogystal â rhestru eu buddiannau, dylai Aelodau Seneddol sôn amdanynt pan fyddant yn siarad yn Nhŷ’r Cyffredin. Mae gan Dŷ’r Arglwyddi gofrestr debyg ei hun.

Y Comisiynydd Penodiadau Cyhoeddus

Bydd y Comisiynydd Penodiadau Cyhoeddus yn gwneud yn siŵr bod gweinidogion yn cael cyfrifoldebau dros gyrff cyhoeddus (fel y GIG a'r BBC) mewn ffordd deg a phriodol. Maent yn edrych ar bethau fel profiad y gweinidog a pha mor addas ydyw ar gyfer y rôl. Maent hefyd yn gwneud yn siŵr bod y gweinidog wedi cael y swydd gan mai ef oedd yn ei haeddu, nid oherwydd ffafriaeth. Mae’r swyddogaeth hon yn annibynnol ar y llywodraeth.

Cod ymddygiad ar gyfer rhai awdurdodau yn Lloegr

Mae gan awdurdodau penodol, a phob awdurdod lleol yn Lloegr, god ymddygiad sy’n nodi’r rheolau ymddygiad y mae’n rhaid i’w haelodau lynu atynt. Mae’r cod yn disgrifio pethau y mae’n rhaid i aelodau eu gwneud a phethau na ddylent eu gwneud. Er enghraifft:

  • rhaid iddynt drin eraill â pharch (cânt anghytuno ond ni chânt fod yn ddigywilydd)
  • ni ddylent ofyn i eraill wneud rhywbeth sy’n helpu un blaid wleidyddol ond ddim y llall (bod yn ddiduedd)
  • ni ddylent rannu gwybodaeth gyfrinachol (ac eithrio mewn rhai amgylchiadau)

Dan y cod, rhaid i aelodau ddweud pan mae ganddynt 'fuddiant personol' yn rhywbeth. Er enghraifft, os ydynt mewn cyfarfod sy’n sôn am gau lle chwarae y mae eu nai yn ei ddefnyddio, dylent ddweud hyn wrth y cyfarfod. Os yw eu buddiannau personol yn golygu na allant wneud penderfyniad teg ar rywbeth, mae’n bosib y bydd yn rhaid iddynt adael y cyfarfod.

Mae’r cod hefyd yn egluro'r hyn ddylai aelodau ei wneud pan fyddant yn cael anrheg am ddim neu'n cael eu gwahodd fel gwesteion i fwytai neu i ddigwyddiadau cymdeithasol y mae'n rhaid talu i fynd iddynt.

Mae’r rhan fwyaf o awdurdodau’n defnyddio'r un math o god ag un y llywodraeth. Weithiau, byddant yn ychwanegu mân bwyntiau am eu hardaloedd lleol. Os ydych chi’n meddwl bod aelod wedi torri rheolau eu cod ymddygiad, dylech roi gwybod wrth bwyllgor safonau'r cyngor, sy’n gorfodi’r cod ymddygiad.

Additional links

Rhaglen Ddeddfwriaethol Ddrafft

Mae'r ymgynghoriad cyhoeddus am gynigion ar gyfer cyfreithiau newydd wedi dod i ben - nawr, bydd y Llywodraeth yn ystyried yr ymateb a gafwyd

Allweddumynediad llywodraeth y DU