Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Ymweld â'r Senedd

Mae'r Senedd ar agor i ymwelwyr gydol y flwyddyn, ond bydd angen i chi gynllunio'ch taith ymlaen llaw er mwyn cael y gorau o'ch ymweliad. Gallwch fynd ar daith dywys, neu ymweld â'r oriel gyhoeddus i weld deddfau'n cael eu creu.

Mynd ar daith o gwmpas y Senedd

Preswylwyr y DU

Cynhelir teithiau tywys am ddim drwy gydol y flwyddyn ar gyfer preswylwyr y DU. I drefnu taith, cysylltwch â'ch Aelod Seneddol (AS) lleol neu ag Arglwydd, gan ddweud wrthynt pa ddyddiadau sy'n gyfleus i chi.

Pan fo'r Senedd yn cyfarfod, mae'r teithiau ar gael ar fore Llun, bore Mawrth, bore Mercher ac ar ddydd Gwener - drwy'r dydd pan nad yw Tŷ'r Cyffredin yn eistedd, neu'n hwyr y prynhawn os ydynt yn eistedd.

Yn ystod toriad, pan nad yw'r Senedd yn cyfarfod, mae'n dal yn bosib trefnu teithiau am ddim drwy'ch AS (bydd y dyddiadau a'r amseroedd yn amrywio), neu gallwch brynu tocynnau ar gyfer toriad yr haf, lle cynhelir teithiau o ddydd Llun i ddydd Sadwrn.

Ymwelwyr o dramor

Dim ond yn ystod toriad yr haf y caiff ymwelwyr o dramor fynd ar daith o gwmpas y Senedd ac nid yn ystod gweddill y flwyddyn. Ond gallwch barhau i fynd i wrando ar ddadleuon yn Nhŷ'r Arglwyddi ac yn Nhŷ'r Cyffredin drwy gydol y flwyddyn (mwy o wybodaeth isod).

Gallwch archebu tocynnau ar gyfer toriad yr haf ymlaen llaw, neu brynu tocynnau ar y diwrnod yn y swyddfa docynnau drws nesaf i'r Tŵr Gemwaith (Jewel Tower). Cynigir teithiau mewn ieithoedd tramor ar amseroedd penodol, ac mae'r rheini ar gael mewn Ffrangeg, Almaeneg, Eidaleg a Sbaeneg.

Ymweliadau gan ysgolion

Mae'r Gwasanaeth Addysg yn cynnig amrywiaeth o weithdai â thema drwy gydol y flwyddyn ar gyfer grwpiau o bob oed. Ar gyfer myfyrwyr hŷn, cynhelir ymweliadau 'Discover Parliament' yn nhymor yr hydref, ac fe'u bwriedir ar gyfer myfyrwyr rhwng 16 a 18 oed sy'n astudio Gwleidyddiaeth, Dinasyddiaeth ac Astudiaethau Cyffredinol.

Mynd i wrando ar ddadl - ymweld â'r oriel gyhoeddus

Mae oriel gyhoeddus Tŷ'r Cyffredin ar agor pan fydd y Tŷ yn eistedd, sef fel arfer:

  • rhwng 2.30 pm a 10.30 pm ar ddydd Llun a dydd Mawrth
  • rhwng 11.30 am a 7.30 pm ar ddydd Mercher
  • rhwng 10.30 am a 6.30 pm ar ddydd Iau
  • rhwng 9.30 am a 3.00 pm pan fydd y Tŷ yn eistedd ar ddydd Gwener

Pan fydd Tŷ'r Cyffredin yn dychwelyd ar ôl toriad ar ddiwrnod ar wahân i ddydd Llun, bydd gan y diwrnod cyntaf amseroedd eistedd dydd Llun. Mae'r oriel gyhoeddus ar gau pan fydd y Tŷ ar gyfnod toriad.

Mae awr gyntaf y trafodion yn cael ei neilltuo i Sesiwn Cwestiynau, gyda Chwestiynau i'r Prif Weinidog ar ddydd Mercher. I fynychu bryd hynny, ysgrifennwch at eich Aelod Seneddol lleol i ofyn am docynnau. Dim ond nifer bach o docynnau y mae ASau yn eu cael, felly gofynnwch am docynnau cyn gynted ag y bo modd.

Os nad ydych wedi archebu tocynnau ar gyfer yr oriel, gallwch ymuno â'r ciw cyhoeddus y tu allan i fynedfa St. Stephen. Dylech ddisgwyl gorfod aros am awr neu ddwy. Er mwyn lleihau'r amser aros, ceisiwch gyrraedd oddeutu 1.00 pm neu'n hwyrach pan fydd y ciw wedi lleihau. Wrth i ddeiliaid tocynnau adael yr oriel, bydd llefydd yn dod ar gael. Gall Swyddfa Wybodaeth Tŷ'r Cyffredin roi gwybod i chi pa ddadleuon sy'n cael eu cynnal y diwrnod hwnnw.

Os ydych yn cynllunio taith i weld y Senedd, efallai y bydd y dolenni isod yn ddefnyddiol hefyd.

Additional links

Rhaglen Ddeddfwriaethol Ddrafft

Mae'r ymgynghoriad cyhoeddus am gynigion ar gyfer cyfreithiau newydd wedi dod i ben - nawr, bydd y Llywodraeth yn ystyried yr ymateb a gafwyd

Allweddumynediad llywodraeth y DU