Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Sut mae cyfreithiau'n cael eu creu yn y Senedd

Mae'r senedd yn pasio cyfreithiau statud (deddfwriaeth). Y Llywodraeth sy'n cyflwyno'r rhan fwyaf o gyfreithiau newydd - er y gall ASau gyflwyno rhai - a chaiff llawer ohonynt eu cynnwys yn araith y Frenhines ar ddechrau pob sesiwn y Senedd.

Papurau Gwyn a Gwyrdd

Efallai y caiff cynigion ar gyfer cyfreithiau newydd eu hamlinellu ym Mhapurau Gwyn y llywodraeth. Efallai y bydd papurau ymgynghori, a elwir yn Bapurau Gwyrdd weithiau, yn rhagflaenu'r rhain, a fydd yn galw am sylwadau gan y cyhoedd. Nid oes rhaid cyflwyno Papur Gwyn neu Bapur Gwyrdd.

Mesurau

Mae Mesur yn gynnig am gyfraith newydd neu am newid cyfraith ac fe'i cyflwynir gerbron y Senedd. Pan fydd Tŷ'r Cyffredin a Thŷ'r Arglwyddi wedi trafod a chytuno ar gynnwys Mesur, bydd yn cael ei gymeradwyo gan y Frenhines (a elwir yn Gydsyniad Brenhinol) cyn dod yn Ddeddf Seneddol ac yn gyfraith.

Mesurau Cyhoeddus

Mesurau Cyhoeddus yw'r math mwyaf cyffredin o Fesur ac mae newid y gyfraith yn berthnasol i'r cyhoedd yn gyffredinol. Gweinidogion y llywodraeth sy'n cynnig y rhan fwyaf o Fesurau Cyhoeddus.

Os ydych yn gwrthwynebu Mesur Cyhoeddus gallwch:

  • ysgrifennu at eich Aelod Seneddol neu at Arglwydd
  • cysylltu ag adran y llywodraeth sy'n gyfrifol am y Mesur
  • lobïo'r Senedd
  • cyflwyno tystiolaeth i'r Pwyllgor Mesur Cyhoeddus perthnasol

Mesurau Aelodau Preifat

Mesurau Cyhoeddus a gyflwynir gan ASau neu Arglwyddi nad ydynt yn weinidogion yw Mesurau Aelodau Preifat. Hyd yn oed os na fyddant yn dod yn gyfraith, gallant fod yn ffordd effeithiol o dynnu sylw cyhoeddus.

Mesurau Preifat

Caiff Mesurau Preifat eu hyrwyddo gan sefydliadau fel arfer, fel awdurdodau lleol neu gwmnïau preifat, er mwyn rhoi pwerau iddynt eu hunain y tu hwnt, neu mewn gwrthdaro, â'r gyfraith gyffredinol. Maent yn newid y gyfraith fel ei bod yn berthnasol i bobl neu sefydliadau penodol yn hytrach na'r cyhoedd yn gyffredinol.

Mae'n rhaid hysbysebu Mesurau Preifat mewn papurau newydd ac yn ysgrifenedig i'r holl bobl y mae ganddynt ddiddordeb.

Gall unrhyw grŵp neu unigolyn yr effeithir arno gan Fesur ei wrthwynebu drwy ddeisebau, a chaiff ei archwilio wedyn gan bwyllgorau'r ASau a'r Arglwyddi.

Camau'r mesur

Yn syml, mae'n rhaid i Fesur fynd drwy sawl cam yn y ddau Dŷ Senedd i ddod yn gyfraith.

Mae'r camau hyn yn digwydd yn y ddau Dŷ:

  • Darlleniad cyntaf (cyflwyno'r Mesur heb drafodaeth)
  • Ail ddarlleniad (trafodaeth gyffredinol)
  • Cam y pwyllgor (archwiliad manwl, trafod a newidiadau - mae'r cam hwn yn digwydd yn Nhŷ'r Cyffredin mewn Pwyllgor Mesur Cyhoeddus)
  • Cam adrodd (cyfle i wneud mwy o newidiadau)
  • Trydydd darlleniad (y cyfle olaf i drafod; mae'n bosibl gwneud newidiadau yn Nhŷ'r Arglwyddi)

Deddfau Seneddol

Mae Deddf Seneddol yn creu deddf newydd neu'n newid deddf bresennol. Mae Deddf yn Fesur a gymeradwyir gan y ddau Dŷ Seneddol ac yn un y cytunir arno gan y brenin neu'r frenhines sy'n teyrnasu.

Gall Deddf ddod i rym ar unwaith, ar ddyddiad penodol, neu mewn camau. Cyfrifoldeb adran berthnasol y llywodraeth yw rhoi'r ddeddf ar waith yn ymarferol.

Additional links

Rhaglen Ddeddfwriaethol Ddrafft

Mae'r ymgynghoriad cyhoeddus am gynigion ar gyfer cyfreithiau newydd wedi dod i ben - nawr, bydd y Llywodraeth yn ystyried yr ymateb a gafwyd

Allweddumynediad llywodraeth y DU