Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Y Llywodraeth, y Prif Weinidog a'r Cabinet

Mae Llywodraeth Ei Mawrhydi yn cynnwys y gweinidogion hynny sy'n gyfrifol am reoli materion cenedlaethol. Y Frenhines sy'n penodi'r Prif Weinidog, a phenodir pob gweinidog arall ganddi ar argymhelliad y Prif Weinidog.

Gweinidogion y llywodraeth

Mae'r rhan fwyaf o weinidogion yn aelodau o Dŷ'r Cyffredin, er y cynrychiolir y llywodraeth yn llawn hefyd gan weinidogion yn Nhŷ'r Arglwyddi.

Gall cyfansoddiad llywodraethau amrywio o ran nifer y gweinidogion a theitlau rhai swyddi hefyd. Gellir creu swyddi gweinidogol newydd, gellir dileu rhai swyddi, a gellir trosglwyddo swyddogaethau o un gweinidog i'r llall.

Y Prif Weinidog

Fel pennaeth llywodraeth y DU, y Prif Weinidog sy'n goruchwylio sut mae'r Gwasanaeth Sifil ac asiantaethau'r llywodraeth yn gweithredu, ef sy'n penodi aelodau o'r Cabinet, ac ef yw prif ffigur y llywodraeth yn Nhŷ'r Cyffredin. Y Prif Weinidog hefyd, yn ôl y traddodiad, yw Prif Arglwydd y Trysorlys - ac mae'n llunio ei gyflog ar sail y rôl honno, yn hytrach na rôl y Prif Weinidog.

Daw awdurdod unigryw'r Prif Weinidog o gefnogaeth y mwyafrif yn Nhŷ'r Cyffredin a'r pŵer i benodi neu ddiswyddo gweinidogion. Trwy gonfensiwn modern, mae'r Prif Weinidog wastad yn eistedd yn Nhŷ'r Cyffredin.

Mae'r Prif Weinidog yn llywyddu dros y Cabinet, mae'n gyfrifol am ddyrannu swyddogaethau ymysg gweinidogion ac, mewn cyfarfodydd rheolaidd gyda'r Frenhines, mae'n ei hysbysu o fusnes cyffredinol y llywodraeth.

Mae cyfrifoldebau eraill y Prif Weinidog yn cynnwys argymell nifer o benodiadau i'r Frenhines. Mae'r rhain yn cynnwys aelodau uwch o Eglwys Lloegr, uwch farnwyr a rhai penodiadau sifil. Mae hefyd yn argymell enwau ar gyfer sawl bwrdd a sefydliad cyhoeddus, yn ogystal ag i nifer o gomisiynau brenhinol a statudol.

Mae Swyddfa'r Prif Weinidog yn ei gefnogi yn ei rôl fel pennaeth y llywodraeth. Mae hyn yn cynnwys rhoi cyngor ar bolisïau, dilyn hynt ymrwymiadau a chynlluniau'r llywodraeth a sicrhau y cyfathrebir yn effeithiol gyda'r Senedd, y cyfryngau a'r cyhoedd.

Y Cabinet

Mae'r Cabinet yn bwyllgor sydd wrth wraidd system wleidyddol Prydain a'r prif gorff sy'n gwneud penderfyniadau yn y llywodraeth.

Yn draddodiadol, cyfeirir at Brif Weinidog Prydain fel 'primus inter pares', sy'n golygu 'y blaenaf ymysg rhai cydradd' sy'n dangos ei fod ef neu hi yn aelod o gorff y Cabinet sy'n gwneud penderfyniadau ar y cyd, yn hytrach nag unigolyn sydd â phwerau ei hun. Mae'r Prif Weinidog y blaenaf ymysg rhai cydradd o ran cydnabyddiaeth o'r cyfrifoldeb sydd ganddo am benodi a diswyddo aelodau eraill y Cabinet.

Gweinidogion y cabinet yw'r gweinidogion uchaf yn y llywodraeth, ac mae gan y rhan fwyaf o adrannau'r llywodraeth o leiaf un gweinidog y Cabinet. Caiff y rhan fwyaf o weinidogion y Cabinet y teitl 'Ysgrifennydd Gwladol' - er bod gan rai deitlau traddodiadol, fel Canghellor y Trysorlys a'r Prif Chwip.

Sut mae'r Cabinet yn gweithio

Bob dydd Mawrth tra bo'r Senedd yn cyfarfod, mae'r Cabinet yn cyfarfod yn ystafell y Cabinet yn 10 Stryd Downing i drafod materion y dydd. Mae Cabinet y Llywodraeth wedi cyfarfod yn yr un ystafell ers 1856, pan oedd yn cael ei galw'n Siambr y Cyngor.

Y Prif Weinidog sy'n cadeirio'r cyfarfod ac yn pennu'i agenda; ef hefyd sy'n penderfynu pwy sy'n siarad o amgylch bwrdd y Cabinet, ac yn crynhoi ar ddiwedd bob eitem. Y crynhoi hwn sy'n dod yn bolisi'r llywodraeth.

Pwyllgorau'r Cabinet

Yn ychwanegol i holl gyfarfodydd y Cabinet, mae amrywiol bwyllgorau'r Cabinet yn cyfarfod mewn grwpiau llai i ystyried polisïau gyda gweinidogion eraill sydd ynghlwm â'r mater perthnasol.

Y Prif Weinidog sy'n penderfynu pwy fydd yn bresennol yn y cyfarfodydd hyn, ac ymgynghorir â'r pwyllgor perthnasol ar gyfer clirio cyn unrhyw ran o ddeddfwriaeth y bydd unigolyn am ei chyflwyno gerbron y Senedd.

Gellir cael rhestr o'r pwyllgorau presennol a'r gweinidogion sy'n bresennol ynddynt ar wefan Swyddfa'r Cabinet.

Additional links

Enwebu rhywun am anrhydedd

Caiff dros 2,500 o Brydeinwyr eu hanrhydeddu bob blwyddyn gydag urddau fel OBE ac MBE - gall unrhyw un enwebu

Allweddumynediad llywodraeth y DU