Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Enwebu rhywun am anrhydedd

Mae'r system anrhydeddau'n cydnabod pobl gwirioneddol deilwng, a'r rheini sydd wedi ymrwymo'u hunain i wasanaethu'r genedl. Sefydlwyd y system ganrifoedd yn ôl, ond bu'n system gaeedig am lawer o flynyddoedd. Dim ond er 1993 y mae gan bawb hawl i enwebu.

Enwebu pobl

Gellir enwebu unrhyw un, ond dim ond pobl neilltuol sy'n cael eu hanrhydeddu. Os ydych chi'n dymuno gweld eich ymgeisydd ar y rhestr anrhydeddau, sicrhewch fod eich enwebiad yn ddigon disglair i gyrraedd Palas Buckingham. Gellir mesur llwyddiant mewn sawl ffordd ond mae'r pwyllgorau anrhydeddau'n chwilio am rywun sydd wedi gwneud gwahaniaeth yn eu maes gwaith neu yn y gymuned.

Gellir gwobrwyo anrhydeddau am waith o bob math - gyda thâl neu heb dâl - ond mae'n ofynnol i'ch enwebai fod yn rhan o'r gweithgarwch yr ydych yn ei enwebu ar ei gyfer ar hyn o bryd.

Cyn enwebu, gofynnwch y cwestiynau canlynol i chi'ch hun. Ydy eich enwebai:

  • wedi gwneud gwahaniaeth i'w gymuned neu i'w faes gwaith?
  • wedi gwneud gwahaniaeth i fywyd ym Mhrydain ac wedi gwella enw da Prydain?
  • yn enghraifft deilwng o rywun sydd wedi cynnig gwasanaeth gwirfoddol parhaus er budd eraill?
  • wedi dangos arloesedd ac entrepreneuriaeth?
  • wedi ennyn a chynnal parch eu cyfoedion?
  • wedi newid pethau, gyda phwyslais ar gyflawni?
  • wedi gwella tynged y rheini sy'n llai abl i helpu eu hunain?
  • wedi dangos gwroldeb a gweledigaeth foesol wrth wneud dewisiadau anodd a gweithredu arnynt?

Ffurflenni enwebu

I ddechrau arni, bydd angen i chi gael copi o'r ffurflen enwebu a'r nodiadau cyfarwyddyd. Ceir dolen at y rhain isod. Neu, gallwch ffonio neu ysgrifennu i Swyddfa'r Cabinet, a gofyn am gopi papur drwy'r post.

Rhaid i chi ddychwelyd y ffurflen i'r cyfeiriad isod drwy'r post neu drwy ffacs; ni ellir ei hanfon dros e-bost gan fod angen copi wedi'i lofnodi ar Swyddfa'r Cabinet. Nodwch: Os oes arnoch angen copi o'r nodiadau cyfarwyddyd mewn Braille, defnyddiwch yr wybodaeth gyswllt isod i ofyn am un.

Swyddfa'r Cabinet
Honours and Appointments Secretariat
Ground Floor
Admiralty Arch
Llundain SW1A 2WH

Ffacs: +44 (0)20 7276 2766

Ffôn: +44 (0)20 7276 2777

E-bost: ceremonial@cabinet-office.x.gsi.gov.uk

Ysgrifennu llythyr i gefnogi enwebiad

Os ydych chi'n ysgrifennu llythyr cefnogi, efallai y bydd y llyfryn isod yn ddefnyddiol i chi.

Beth sy'n digwydd i enwebiad

Caiff yr enwebiadau eu casglu a'u dosbarthu yn ôl maes arbenigedd yr enwebai. Yna, gall pwyllgorau arbenigol gymharu tebyg at ei debyg - er enghraifft, athro ag athro. Cyflwynir enwau'r ymgeiswyr gorau i'r Prif Weinidog, sydd wedyn yn cyflwyno'r rhestr i'r Frenhines.

Pa urdd?

Bydd y pwyllgor yn ystyried yr urdd a'r lefel briodol. Nid oes angen nodi hyn mewn unrhyw enwebiad. Cofiwch:

  • gellir ystyried Uwch Weision Sifil a swyddogion milwrol ar gyfer Urdd y Baddon
  • gellir ystyried diplomyddion a phobl eraill sy'n gwasanaethu'r Deyrnas Unedig dramor ar gyfer Urdd San Michael a San Siôr
  • gellir ystyried unrhyw un ar gyfer gwobrau Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig
  • gellir ystyried unrhyw un ar gyfer gwobr Cydymaith Anrhydeddus

Pa lefel?

Ar ôl penderfynu ar yr Urdd, bydd y pwyllgorau'n defnyddio'r meini prawf isod i benderfynu ar lefel y wobr. Bydd y pwyllgorau asesu hefyd yn defnyddio cynsail i'w helpu i wneud y penderfyniad.

Cydymaith Anrhydeddus

Cyfraniad rhagorol a pharhaus i'r celfyddydau, i wyddoniaeth, i feddygaeth, neu i'r llywodraeth.

Marchog/Bonesig

Fe'i rhoddir am gyfraniad rhagorol mewn unrhyw faes gweithgarwch:

  • drwy lwyddiant neu wasanaeth i'r gymuned fel arfer, ond heb fod yn gyfyngedig i hyn, ar lefel genedlaethol
  • mewn cyd-destun a fydd yn cael ei gydnabod yn ddylanwadol ac yn arwyddocaol gan grwpiau cyfoedion ledled y wlad ac
  • sy'n dangos ymrwymiad parhaus

CBE

Rhoddir CBE am y canlynol:

  • rôl genedlaethol flaenllaw i raddau llai neu
  • rôl arweiniol amlwg mewn materion rhanbarthol, drwy lwyddiant neu wasanaeth i'r gymuned neu
  • gwneud cyfraniad arloesol ac amlwg iawn yn ei faes/maes gweithgarwch

OBE

Rhoddir OBE am y canlynol:

  • rôl nodedig yn rhanbarthol neu drwy'r wlad mewn unrhyw faes
  • llwyddiant neu wasanaeth i'r gymuned
  • gan gynnwys ymarferwyr nodedig sy'n adnabyddus yn genedlaethol

MBE

Rhoddir MBE am y canlynol:

  • llwyddiant neu wasanaeth â chyfrifoldeb yn y gymuned ac i'r gymuned, sy'n dangos rhagoriaeth yn ei faes neu
  • gwasanaeth ymarferol lleol sy'n esiampl amlwg i eraill

Ym mhob achos, mae'r gwobrau'n tynnu sylw at wasanaeth ymroddedig, gan roi cydnabyddiaeth gyhoeddus sy'n deilwng i'r unigolyn.

O ran gwahaniaethu rhwng y gwasanaethau, penderfynir ar hyn drwy edrych ar faint o ddylanwad mae'r person wedi'i gael. O ran gwahaniaethu rhwng y llwyddiannau, penderfynir ar hyn drwy edrych ar arwyddocâd effaith yr unigolyn yn y proffesiwn o'u dewis.

Gwirio cynnydd eich cais

Fel y gallwch ddychmygu, mae edrych ar nifer fawr o enwebiadau'n cymryd amser. Dyna pam na ddylai'r enwebai ddisgwyl clywed dim am oddeutu 18 mis. Gallwch gysylltu â'r Ysgrifenyddiaeth Anrhydeddau a Phenodiadau os hoffech weld beth yw hanes eich enwebiad.

Y penderfyniad

Os caiff yr ymgeisydd ei ddewis, anfonir llythyr ato/ati yn gofyn a yw'n fodlon derbyn Anrhydedd. Mae bron bawb yn derbyn, a bydd eu henwau'n ymddangos yn The London Gazette yn y Flwyddyn Newydd neu ar ben-blwydd swyddogol y Frenhines ym mis Mehefin.

Additional links

Arbed Arian
Arbed Ynni

Ewch i dudalen LLEIHAU'CH CO2 i ganfod ffyrdd hawdd o arbed arian ac ynni

Allweddumynediad llywodraeth y DU