Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Bydd pobl o bob cefndir ac o bob rhan o gymdeithas yn cael anrhydeddau am wneud gwahaniaeth i'w cymunedau. Ceir sawl gwahanol fath o wobr, a phob un yn cydnabod gwahanol fath o gyfraniad.
Mae system anrhydeddau Prydain ymhlith yr hynaf yn y byd. Mae wedi esblygu dros 650 o flynyddoedd wrth i'r wlad ganfod dulliau newydd o gydnabod teilyngdod, dewrder a gwasanaeth.
Cyhoeddir rhestrau anrhydeddau ddwywaith y flwyddyn, yn y Flwyddyn Newydd ac yng nghanol mis Mehefin ar ddyddiad pen-blwydd swyddogol y Frenhines. Gall unrhyw un gael gwobr os ydyn nhw'n cyrraedd y safon ofynnol o ran teilyngdod neu wasanaeth, ac mae'r rhestrau anrhydeddau yn cynnwys amrywiaeth eang o bobl o wahanol gefndiroedd. Gall unrhyw un enwebu unigolyn am wobr.
Roedd dau adroddiad a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf 2004 yn argymell newidiadau i wella’r system anrhydeddau. Yn sgil yr adroddiadau hyn (adroddiad y Pwyllgor Dethol ar Weinyddiaeth Gyhoeddus (PASC), ac adroddiad Syr Hayden Phillips i ysgrifennydd y cabinet, sydd ar gael yn y ddolen isod) gwnaethpwyd newidiadau sylweddol yn y ffordd mae’r system anrhydeddau’n gweithio.
Ym mis Chwefror 2005, cyhoeddodd y llywodraeth ymateb i’r adroddiadau gan egluro sut byddai’r system anrhydeddau’n newid i fod yn fwy agored, yn fwy amrywiol ac yn haws ei deall.
Sefydlwyd y system anrhydeddau bresennol yn sgil y newidiadau hynny. Roedd y newidiadau’n cynnwys newid y ffordd mae pwyllgorau anrhydeddau’n gweithio. Er enghraifft, mae’r pwyllgorau’n cael eu cadeirio bellach gan bobl amlwg o’r tu allan i’r llywodraeth sydd â phrofiad ym meysydd penodol eu pwyllgorau. Nid gweision sifil mo’r mwyafrif o aelodau’r pwyllgorau, ond gweithwyr proffesiynol mewn meysydd sy’n briodol i’r anrhydeddau dan sylw.
Yn 2005, dywedodd y llywodraeth y byddai’n cyhoeddi adroddiad am statws y system anrhydeddau ddiwygiedig bob tair blynedd. Mae dolen at yr adroddiad tair blynedd diweddaraf ar gael isod, ynghyd â dolenni at gopïau o’r adroddiadau am y system anrhydeddau y cyfeirir atynt uchod.
Gall pobl fynd i mewn i'r system mewn dwy ffordd:
Mae'n bosib y bydd pob achos yn mynd drwy sawl cam cyn cyrraedd Ysgrifenyddiaeth Anrhydeddau a Phenodiadau Swyddfa'r Cabinet.
Bydd ffurflenni enwebu a anfonir yn uniongyrchol (neu'n anuniongyrchol drwy Balas Buckingham neu 10 Stryd Downing) at dîm Enwebiadau'r Ysgrifenyddiaeth Anrhydeddau a Phenodiadau yn cael eu didoli a'u gwirio. Bydd rhai achosion yn cael eu cyfeirio at adran berthnasol o'r llywodraeth i'w hystyried. Delir â'r gweddill yn ganolog. Ceisir sylwadau ac adborth gan Arglwyddi Rhaglaw, adrannau a chyrff allanol sydd â diddordeb o bosibl mewn elfen o waith yr ymgeisydd. Pan fydd yr achos yn barod, bydd yn cael ei anfon at y tîm Anrhydeddau.
Bydd yr ymgeiswyr a bennir gan adran (ynghyd ag achosion enwebu) hefyd yn cael eu gwirio a'u didoli. Asesir achosion yr adran gan bwyllgor mewnol. Yna, bydd yr adran yn cyflwyno ei hymgeiswyr i rif 10 Stryd Downing ac, oddi yno, byddant yn mynd at dîm Anrhydeddau'r Ysgrifenyddiaeth Anrhydeddau a Phenodiadau.
Ar ôl i'r achos gyrraedd y tîm Anrhydeddau, bydd yn cael ei baratoi i'w ystyried gan un o gyfres o is-bwyllgorau asesu arbenigol. Cyflwynir ymgeiswyr tebyg gyda'i gilydd er mwyn i bob pwyllgor allu eu cymharu ochr yn ochr. Mae pob pwyllgor yn cynnwys uwch weision sifil ac arbenigwyr annibynnol.
Anfonir eu hasesiadau i'r prif bwyllgor dethol. Mae'r prif bwyllgor yn ystyried cydbwysedd y cynigion ac yn anfon ei argymhellion at Ysgrifennydd y Cabinet a fydd, yn ei dro, yn cyflwyno'r rhestr i'r Prif Weinidog iddo yntau ei chyflwyno i'r Frenhines.
Ar ôl i'r Frenhines roi ei chymeradwyaeth anffurfiol, anfonir llythyrau at bawb a enwebwyd yn gofyn iddynt a fyddent yn fodlon derbyn y wobr a gynigir. Ar ôl iddynt ateb, cyflwynir rhestr derfynol i'r Frenhines er mwyn iddi ei chymeradwy'n ffurfiol.
Cyhoeddir y rhestr yn y London Gazette a bydd Siawnsri Canolog Urddau'r Marchog ym Mhalas San James yn trefnu arwisgiadau ar gyfer yr ymgeiswyr llwyddiannus.
Mae System Anrhydeddau'r DU yn cael ei rheoli gan Ysgrifenyddiaeth Anrhydeddau a Phenodiadau Swyddfa'r Cabinet.
Crëwyd y 'Gangen Seremonïol' yn 1937, ac mae'n gyfrifol am waith yn ymwneud â pholisïau anrhydeddau ar draws y llywodraeth. Roedd yn cael ei hadnabod fel yr Ysgrifenyddiaeth Seremonïol yn 2001, ac er 2008 mae'n cael ei galw'n Ysgrifenyddiaeth Anrhydeddau a Phenodiadau.
Mae’r Ysgrifenyddiaeth yn gyfrifol am y canlynol:
Nid yw'r urddolaethau yn anrhydeddau. Er mis Mai 2000 mae Comisiwn Penodiadau Tŷ'r Arglwyddi wedi gwirio'r Urddolion a enwebir gan bleidiau gwleidyddol. Mae Comisiwn Penodiadau Tŷ'r Arglwyddi hefyd yn argymell pobl ar gyfer urddolaethau nad ydynt yn ymwneud â phleidiau gwleidyddol.