Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Mae'r arwyddlun wedi'i ddylunio i'w wisgo ar ddillad bob dydd y rheini sydd wedi cael eu penodi i Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig.
Mae'r arwyddlun yn rhoi cyfle i'r rhai sy'n ei gael ddangos i bobl yn eu bywydau bob dydd eu bod wedi'u hanrhydeddu gan Ei Mawrhydi y Frenhines am eu cyfraniad i'r gymdeithas.
Mae'n seiliedig ar fathodyn Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig, ac wedi'i amgáu mewn cylch o ruban o'i liwiau, sef pinc a llwyd. Bwriedir iddo gael ei wisgo gan y rheini sydd wedi cael GBE, DBE, KBE, CBE, OBE, MBE neu'r rhai sydd â Medal yr Ymerodraeth Brydeinig. Mae oddeutu 120,000 o bobl, sy'n byw yn y DU neu dramor, wedi cael un o'r rhain. Nid yw'r arwyddluniau'n disodli'r bathodyn a'r rhuban, a fydd yn parhau i gael eu cyflwyno yn yr Arwisgiad.
Gellir cael arwyddlun Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig gan:
Toye Kenning & Spencer Limited
Adran Arwyddluniau OBE / OBE Emblem Department
Regalia House
Newtown Road
Bedworth
Swydd Warwick CV12 8QR
Lloegr
Gallwch hefyd archebu eich arwyddlun OBE yn siop Toye Kenning and Spencer Limited yn Llundain:
19-21 Great Queen Street, WC2B 5BE
Ffôn: 0207 400 5753
E-bost: obe.emblem@toye.com
Y pris yn y DU yw £15 gan gynnwys pecynnu, postio a TAW. Mae Toye Kenning and Spencer Limited yn anfon archebion cyn pen 30 diwrnod, yn unol â'r galw.