Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Cysylltu â'r Ysgrifenyddiaeth Anrhydeddau a Phenodiadau

Gallwch anfon enwebiadau am anrhydedd i'r adran berthnasol yn y llywodraeth neu i Swyddfa'r Cabinet gan ddefnyddio'r cysylltiadau isod.

Anfon ffurflenni enwebu

Gellir anfon enwebiadau ar gyfer pobl sy'n ymwneud yn bennaf â sector penodol yn syth i adran y llywodraeth sy'n gyfrifol am y sector hwnnw. Mae hyn yn cynnwys, er enghraifft, pobl sy'n gweithio yn y meysydd canlynol:

  • addysg
  • trafnidiaeth
  • y celfyddydau
  • llywodraeth leol

Gellir anfon enwebiad ar gyfer athro neu athrawes sydd hefyd yn gwneud gwaith elusennol yn syth i'r Adran Plant, Ysgolion a Theuluoedd. Gellir anfon enwebiad ar gyfer rhywun sy'n ymwneud â chwaraeon ar lawr gwlad yn syth i'r Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon.

Isod, ceir rhestr o'r adrannau sy'n ymdrin â sectorau penodol.

Yr Adran Plant, Ysgolion a Theuluoedd

Cysylltwch â'r Adran Plant, Ysgolion a Theuluoedd i enwebu unrhyw un sy'n gysylltiedig ag ysgol, coleg neu brifysgol, er enghraifft:

  • penaethiaid
  • athrawon
  • cynorthwywyr
  • goruchwylwyr amser cinio
  • ysgrifenyddion ysgol
  • llywodraethwyr
  • is-gangellorion

Yr Adran Plant, Ysgolion a Theuluoedd sy'n gyfrifol am enwebiadau unrhyw un sy'n ymwneud â'r canlynol:

  • gwaith ieuenctid
  • Brigâd y Bechgyn
  • Brownies
  • Geidiaid
  • Cybiaid
  • Sgowtiaid
  • gofalwyr maeth
  • elusennau plant
  • ysgolion meithrin

Yr Adran Plant, Ysgolion a Theuluoedd sydd hefyd yn gyfrifol am y rheini sy'n ymwneud â hyfforddiant sgiliau neu ddysgu gydol oes, er enghraifft:

  • tiwtoriaid mewn canolfannau addysg i oedolion
  • pobl sy'n gweithio mewn colegau addysg bellach
  • pobl sy'n gweithio yn y cyngor dysgu a sgiliau

Anfonwch y ffurflen i'r cyfeiriad canlynol:

Honours Secretary
Department for Children, Schools and Families
Room 8S
Sanctuary Buildings
Great Smith Street
Llundain
SW1P 3BT

Ffôn: 020 7925 6239

E-bost:

honours.TEAM@dcsf.gsi.gov.uk

Yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon

Cysylltwch â'r Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol ar gyfer y canlynol:

  • chwaraeon
  • diwydiannau creadigol
  • y celfyddydau
  • amgueddfeydd
  • orielau
  • pensaernïaeth
  • darlledu
  • radio
  • ffilm
  • cerddoriaeth
  • treftadaeth
  • cadwraeth adeiladau
  • twristiaeth
  • llyfrgelloedd
  • archaeoleg

Anfonwch y ffurflen i'r cyfeiriad canlynol:

Honours Secretary
Department for Culture, Media & Sport
2-4 Cockspur Street
Llundain
SW1Y 5DH

Ffôn: 020 7211 2313
E-bost: honours@culture.gsi.gov.uk

Yr Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol

Cysylltwch â'r Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol ar gyfer y canlynol:

  • aelodau cyngor a rhai staff - heblaw arbenigwyr sy'n dod dan un o adrannau eraill y llywodraeth, megis gweithwyr cymdeithasol (Yr Adran Iechyd) neu reolwyr ym maes twristiaeth (Yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon)
  • cartograffyddion ac arbenigwyr perthnasol
  • gweithwyr cymuned a gwirfoddolwyr, er enghraifft y rheini sy'n ymwneud â naill ai prosiect y Fargen Newydd ar gyfer Cymunedau neu ag ystad dai benodol, gan gynnwys pobl weithgar mewn cymdeithasau preswylwyr a thenantiaid
  • diffoddwyr tân a'u staff cefnogi
  • pobl weithgar - cyflogedig a gwirfoddol - sy'n gweithio gyda phobl ddigartref
  • staff cymdeithasau tai ac aelodau bwrdd
  • cynllunwyr a datblygwyr (yn y sector preifat ac yn y sector cyhoeddus, heblaw penseiri, syrfewyr a'r rheini sy'n ymwneud yn uniongyrchol â'r broses adeiladu)
  • arbenigwyr adfywio (yn y sector preifat ac yn y sector cyhoeddus)
  • pobl sy'n delio â materion yn ymwneud â chydraddoldeb, gan gynnwys hil, ffydd, rhyw a chyfeiriadedd rhywiol

Anfonwch y ffurflen i'r cyfeiriad canlynol:

Honours Secretary
Communities and Local Government
2/G9 Ashdown House
123 Victoria Street
Llundain
SW1E 6DE

Ffôn: 020 7944 4317

Yr Adran Drafnidiaeth

Cysylltwch â'r Adran Drafnidiaeth ar gyfer y canlynol:

  • gweithwyr, swyddogion neu arbenigwyr sy'n gweithio yn y diwydiant hedfan, gan gynnwys cwmnïau hedfan, meysydd awyr, ymchwilio i ddigwyddiadau, diogelwch awyr a rheoli traffig awyr
  • gweithwyr ac arbenigwyr ym maes adeiladu ffyrdd a chynnal a chadw ffyrdd
  • pobl ar bob lefel, gan gynnwys gwirfoddolwyr, sy'n ymdrin â diogelwch ar y ffyrdd
  • pobl ar bob lefel sy'n gweithio neu'n delio â thrafnidiaeth leol gan gynnwys cerddwyr, beicio, tacsis, tramiau, bysiau a ffyrdd lleol
  • pobl ar bob lefel sy'n ymwneud â llongau, mordwyo, porthladdoedd a chwilio ac achub ar y môr
  • pobl sy'n gweithio ar systemau rheilffordd tanddaearol neu ar y ddaear
  • gweithwyr a gwirfoddolwyr sy'n ymdrin â symudedd a mynediad i bobl anabl

Anfonwch y ffurflen i'r cyfeiriad canlynol:

Honours Secretariat
Department for Transport
3/G26 Ashdown House
123 Victoria Street
Llundain
SW1E 6DE

Ffôn: 020 7944 4317

Ymholiadau cyffredinol am anrhydeddau ac enwebiadau eraill

Cabinet Office
Honours and Appointments Secretariat
Ground Floor
Admiralty Arch
Llundain
SW1A 2WH

Ffôn: 020 7276 2777
Ffacs: 020 7276 2766

Email: ceremonial@cabinet-office.x.gsi.gov.uk

Additional links

Arbed Arian
Arbed Ynni

Ewch i dudalen LLEIHAU'CH CO2 i ganfod ffyrdd hawdd o arbed arian ac ynni

Allweddumynediad llywodraeth y DU