Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Ar ôl i'r enwebiadau gael eu gwneud, bydd pwyllgorau arbenigol a Phrif Bwyllgor Anrhydeddau yn eu hasesu ac yn gwneud argymhellion cyn i'r rhestri terfynol gael eu rhoi i'r Frenhines a'r Prif Weinidog.
Bydd y Prif Bwyllgor Anrhydeddau yn adolygu gwaith yr wyth is-bwyllgor arbenigol ac yn cytuno ar y rhestr derfynol i'w chyflwyno drwy'r Prif Weinidog i'r Frenhines. Sefydlwyd y Pwyllgor yn dilyn adolygiadau o'r system anrhydeddau yn 2004 gan y Pwyllgor Dethol ar Weinyddiaeth Gyhoeddus ac, ar wahân i hynny, Papur Gorchymyn dilynol y llywodraeth a Syr Hayden Phillips, 'Diwygio'r System Anrhydeddau' (Cm 6479), a gyhoeddwyd y flwyddyn wedyn.
Mae'r Prif Bwyllgor yn cynnwys cadeiryddion yr wyth is-bwyllgor arbenigol; Pennaeth y Staff Amddiffyn; yr Ysgrifennydd Parhaol, y Swyddfa Dramor a Chymanwlad ac Ysgrifennydd Parhaol arall. Ysgrifennydd y Cabinet yw cadeirydd y Pwyllgor, a dyma pwy sy'n gyfrifol am waith y pwyllgor ac am gyflwyno'r rhestr derfynol i'r Frenhines drwy'r Prif Weinidog.
Mae'r Prif Bwyllgor yn adolygu argymhellion yr wyth pwyllgor arbenigol i sicrhau cydbwysedd a chysondeb.
Fel rhan o'r polisi tryloywder, mae'r Prif Bwyllgor Anrhydeddau wedi sefydlu proses ffurfiol i ymdrin ag unrhyw enwebiadau a gaiff gan y pwyllgorau anrhydeddau ar gyfer aelodau sydd ar un o'r Pwyllgorau. Mae'n bosib i aelodau presennol Pwyllgor gael eu henwebu am Anrhydedd ond i wneud yn siŵr bod y broses yn gadarn, ni fydd y Pwyllgor ei hun yn ystyried unrhyw enwebiadau ar gyfer aelodau sy'n gwasanaethu ar y Pwyllgor. Yn hytrach, fe'u hystyrir gan is-grŵp arbennig sy'n cynnwys aelodau o'r Prif Bwyllgor Anrhydeddau.
Byddai'r is-grŵp yn cynnwys Cadeirydd y Pwyllgor perthnasol ac o leiaf ddau Gadeirydd Pwyllgor arall i fod yn gynrychiolwyr annibynnol. Byddai'r Is-grŵp yn dweud wrth y Prif Bwyllgor Anrhydeddau beth yw ei ganfyddiadau a'i argymhellion, a byddai'r Pwyllgor hwnnw wedyn yn ystyried yr achos ochr yn ochr ag achosion eraill yn y maes. Dim ond os bydd angen y bydd yr Is-grŵp yn cyfarfod.
Mae'r canlynol yn rhoi rhyw syniad o'r pynciau y mae'r pwyllgorau'n ymdrin â hwy, ond nid yw'r rhestr hon yn cynnwys popeth:
Y Celfyddydau a’r Cyfryngau
Iechyd
Addysg
Gwyddoniaeth a Thechnoleg
Economi
Gwasanaethau Lleol, Gwirfoddol a Chymunedol
Gwladwriaeth