Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Mathau o anrhydeddau a gwobr

Yma cewch wybod am y gwahanol fathau o wobrau, a chael gwybodaeth am Urddau Sifalri a threfn gwisgo'r addurniadau.

Cydymaith Anrhydeddus

Fe'i gwobrwyir am gyfraniad rhagorol a pharhaus i'r celfyddydau, i wyddoniaeth, i feddygaeth, neu i'r llywodraeth.

Marchog neu Fonesig

Fe'i rhoddir am gyfraniad rhagorol mewn unrhyw faes gweithgarwch, drwy wneud y canlynol:

  • llwyddiant neu wasanaeth i'r gymuned fel arfer, ond heb fod yn gyfyngedig i hyn, yn genedlaethol neu
  • mewn cyd-destun a fydd yn cael ei gydnabod yn ddylanwadol ac yn arwyddocaol gan grwpiau cyfoedion ledled y wlad ac
  • sy'n dangos ymrwymiad parhaus.

CBE

Rhoddir CBE am y canlynol:

  • rôl genedlaethol flaenllaw i raddau llai neu
  • rôl arweiniol amlwg mewn materion rhanbarthol, drwy lwyddiant neu wasanaeth i'r gymuned neu
  • gwneud cyfraniad arloesol ac amlwg iawn yn ei faes/maes gweithgarwch

OBE

Rhoddir OBE am y canlynol:

  • rôl nodedig yn rhanbarthol neu drwy'r wlad mewn unrhyw faes
  • llwyddiant neu wasanaeth i'r gymuned
  • gan gynnwys ymarferwyr nodedig sy'n adnabyddus yn genedlaethol

MBE

Rhoddir MBE am y canlynol:

  • llwyddiant neu wasanaeth â chyfrifoldeb yn y gymuned ac i'r gymuned, sy'n dangos rhagoriaeth yn ei faes neu
  • gwasanaeth ymarferol lleol iawn sy'n esiampl amlwg i eraill

Gwobr y Frenhines am Hyrwyddo Menter

Mae Gwobr y Frenhines am Hyrwyddo Menter yn cydnabod unigolion sydd wedi gwneud cyfraniad pwysig i hyrwyddo agweddau a sgiliau menter busnes ymhlith pobl eraill - er enghraifft ymhlith pobl ifanc neu'r rheini sy'n byw mewn cymunedau difreintiedig neu mewn grwpiau nad ydynt yn cael eu cynrychioli'n ddigonol. Gallai'r gweithgareddau hyn fod ar lefel genedlaethol, ranbarthol neu leol.

Ym mhob achos, mae'r gwobrau'n tynnu sylw at wasanaeth ymroddedig, gan roi cydnabyddiaeth gyhoeddus sy'n deilwng i'r unigolyn.

Gwobrau Dewrder, Urddau Sifalri, Trefn Gwisgo'r Urddau

Defnyddiwch y dolenni isod i gael gwybodaeth fanwl am wobrau dewrder, Urddau Sifalri, a'r drefn y mae'n rhaid gwisgo'r addurniadau.

Additional links

Arbed Arian
Arbed Ynni

Ewch i dudalen LLEIHAU'CH CO2 i ganfod ffyrdd hawdd o arbed arian ac ynni

Allweddumynediad llywodraeth y DU