Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Gwyliwch fideos byr neu ddarllen am brofiadau pobl a anrhydeddwyd ag MBE er mwyn cydnabod gwasanaeth neu gyrhaeddiad eithriadol.
Er mwyn gallu gwylio'r fideos hyn, bydd arnoch angen Adobe Flash Player, fersiwn 8 neu uwch, sydd ar gael am ddim.
Rhoddwyd MBE i John Carpenter am ei wasanaeth i bobl anabl yn Berkshire, yng Nghernyw ac yn genedlaethol, yn Rhestr Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines 2007.
Mae wedi defnyddio'i wybodaeth a'i sgiliau fel peiriannydd er mwyn cynllunio ac adeiladu dyfeisiau ar gyfer pobl anabl nad ydynt ar gael ar y farchnad fasnachol. Mae'n cyflawni'r gwaith drwy Remap, sef rhwydwaith o grefftwyr a pheirianwyr sy'n gweithio i wneud bywyd bob dydd pobl anabl yn haws.
Rhoddwyd MBE i Clasford Stirling am ei wasanaeth i chwaraeon yng Ngogledd Llundain, yn Rhestr Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines 2007.
Ef yw'r Swyddog Datblygu Ieuenctid a Chwaraeon ar ystâd Broadwater Farm. Mae'n rhedeg tîm pêl-droed Broadwater United, ac yno mae'n gweithio gyda channoedd o bobl ifanc bob wythnos. Mae nifer o'r bobl ifanc hyn wedi mynd ymlaen i chwarae i dimau pêl-droed yr Uwch Gynghrair.
Rhoddwyd MBE i Ylana First am ei gwasanaeth i'r gymuned yn Tynemouth ac i'r Celfyddydau yng Ngogledd Tyneside, yn Rhestr Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines 2007.
Fe weithiodd i gadw Gorsaf Tynemouth rhag mynd â'i phen iddi, ac i'w thrawsnewid yn ganolfan i'r gymuned a'r celfyddydau. Mae marchnadoedd yn cael eu cynnal yn adeilad yr orsaf yn ystod penwythnosau, ac fe arddangosir gwaith celf yn 'The Bridge'.