Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Y Frenhiniaeth

Mewn brenhiniaeth, y brenin neu'r frenhines yw Pennaeth y Wladwriaeth. Mae'r DU yn 'frenhiniaeth gyfansoddiadol', sy'n golygu mai brenin neu frenhines sy'n teyrnasu, gyda chyfyngiadau o ran eu pŵer, ochr yn ochr â chorff llywodraethol, sef y Senedd.

Y frenhiniaeth, y llywodraeth a'r Cyfrin Gyngor

Y frenhines a'r llywodraeth

Y frenhiniaeth yw sefydliad hynaf y llywodraeth yn y Deyrnas Unedig, a chaiff brenhiniaeth y DU ei hystyried yr hynaf ymysg breniniaethau cyfansoddiadol modern (ceir rhai eraill mewn gwledydd fel Gwlad Belg, Norwy, yr Iseldiroedd, Sbaen a Monaco). Mae'r rhan fwyaf o bwerau oedd gan y frenhinaeth bellach wedi'u datganoli (neu wedi'u rhoi) i weinidogion. Mewn rhai amgylchiadau, fodd bynnag, mae'r frenhiniaeth wedi cadw'r pŵer i arfer disgresiwn personol dros faterion fel penodi'r Prif Weinidog a diddymu'r Senedd, er na fydd y rhain yn cael eu defnyddio'n ymarferol efallai, dim ond eu harfer yn symbolaidd.

O ganlyniad i broses hir o newid lle mae pŵer absoliwt y frenhiniaeth wedi'i grebachu'n raddol, mae arfer yn awr yn pennu fod y Frenhines yn dilyn cyngor gweinidogion.

O fewn y fframwaith hwn, mae'n gwneud nifer o ddyletswyddau pwysig, megis galw, gohirio a diddymu'r Senedd a rhoi Cydsyniad Brenhinol i ddeddfwriaeth sy'n cael ei phasio gan Senedd y DU, Senedd yr Alban neu Gynulliad Gogledd Iwerddon. Y Frenhines sy'n penodi deiliaid swyddi pwysig yn ffurfiol, gan gynnwys y Prif Weinidog a gweinidogion eraill y llywodraeth, barnwyr, swyddogion yn y lluoedd arfog, llywodraethwyr, diplomyddion, esgobion a rhai aelodau uwch eraill o'r glerigiaeth yn Eglwys Lloegr. Mewn amgylchiadau lle mae unigolion wedi eu cael yn euog ar gam o droseddau, mae'n gysylltiedig â'r broses o roi pardwn iddynt. Mae hefyd yn urddo arglwyddi, marchogion ac yn cyflwyno anrhydeddau eraill.

Mewn materion rhyngwladol, mae gan y Frenhines, fel Pennaeth y Wladwriaeth, y pŵer i gyhoeddi rhyfel a gwneud heddwch, cydnabod gwladwriaethau tramor, cwblhau cytundebau a meddiannu neu ildio tiriogaeth.

Y Cyfrin Gyngor a gwaith arall

Mae'r Frenhines yn cynnal cyfarfodydd y Cyfrin Gyngor, yn derbyn ei gweinidogion a'i swyddogion yn y DU a thramor ar gyfer cyfweliadau, yn derbyn adroddiadau am benderfyniadau'r Cabinet, yn darllen cenadwrïau ac yn llofnodi papurau gwladol. Ymgynghorir â hi ar sawl agwedd o fywyd cenedlaethol, a rhaid iddi fod yn gwbl ddiduedd gyda'r cyngor y mae'n ei roi. Dywed y gyfraith fod yn rhaid penodi rhaglyw i ymgymryd â'r swyddogaethau brenhinol os bydd y brenin neu'r frenhines yn gwbl analluog i weithredu.

Gynt, y Cyfrin Gyngor oedd prif ffynhonnell pŵer gweithredol y Wladwriaeth, ond wrth i'r system llywodraeth gyda Chabinet ddatblygu yn y 18fed ganrif, ysgwyddodd y Cabinet lawer o'i rôl. Heddiw, y Cyfrin Gyngor yw prif ddull gweinidogion o gynghori'r Frenhines ynghylch cymeradwyo Gorchmynion y Cyfrin Gyngor, megis y rhai sy'n rhoi Siarteri Brenhinol neu basio is-ddeddfwriaeth, neu ar roi proclamasiynau brenhinol, megis galw neu ddiddymu'r Senedd. Mae oddeutu 500 o Aelodau gan y Cyfrin Gyngor, ac fe'u penodir am eu hoes. Mae'r Cyfrin Gyngor yn cynnwys holl aelodau'r Cabinet, uwch wleidyddion eraill, uwch farnwyr a rhai unigolion o'r Gymanwlad. Fodd bynnag, dim ond aelodau llywodraeth y dydd sy'n chwarae unrhyw ran yn ei waith polisi. Y Prif Weinidog sy'n argymell aelodau newydd i'r Cyfrin Gyngor i'r Frenhines/Brenin.

Y frenhines a'r Gymanwlad

Elizabeth II yw brenhines y Deyrnas Unedig ar hyn o bryd. Mae'n byw ac yn ymwneud yn bennaf â'r DU (ei theyrnas hynaf), er ei bod yn Frenhines (ar wahân ond cyn bwysiced) mewn 15 gwladwriaeth annibynnol arall, eu tiriogaethau tramor a'u dibynwledydd. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i 'Y Gymanwlad'.

Brenhines Elizabeth II a'r Teulu Brenhinol

Ganed Elizabeth yn 1926 (gor-gor-gor-wyres Brenhines Elizabeth), a daeth yn Frenhines yn 25 oed, ar ôl marwolaeth ei thad, Brenin Siôr VI. Yn ôl cyfraith Prydain, ni chaiff yr orsedd ei gadael yn 'wag' ac felly bydd y brenin neu frenhines newydd yn dilyn yr un blaenorol ar unwaith. Fodd bynnag, mae'r coroni swyddogol fel arfer yn digwydd fisoedd yn ddiweddarach, oherwydd fe'i ystyrir yn ddigwyddiad hapus ac nid yw'n briodol yn ystod y cyfnod galaru. Coronwyd Elizabeth II ar 2 Mehefin, 1953, er iddi gytuno i esgyn i'r orsedd ar 6 Chwefror, 1952, yn syth ar ôl i'w thad farw. Fe'i coronwyd yn Abaty Westminster a daeth yn frenhines rhif 40 ers dyddiau Gwilym Goncwerwr.

Mae aelodau'r teulu brenhinol yn cefnogi'r Frenhines gyda'i dyletswyddau cyhoeddus, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Cyflawnir dyletswyddau swyddogol gan aelodau o deulu agos y Frenhines, fel ei phlant (a'u gwragedd neu wŷr) a'i chefndryd neu gyfneitherod (plant brodyr ei thad) a'u gwragedd a'u gwŷr. Mae'r teulu'n chwarae rhan bwysig yn y gwaith o gefnogi ac annog y sector cyhoeddus a'r sector elusen ac mae tua 3000 o sefydliadau yn rhestru aelod o'r teulu brenhinol fel noddwr neu lywydd. Defnyddiwch y ddolen isod i weld yr elusennau a'r sefydliadau amrywiol sy'n cael eu cefnogi gan aelod o'r teulu brenhinol.

Nid oes diffiniad caeth neu ffurfiol ar gyfer pwy sy'n aelod o'r teulu brenhinol a phwy nad ydynt yn aelodau, ond ystyrir pwy bynnag sydd â'r teitl Ei Fawrhydi neu Ei Mawrhydi (HM), Ei Uchelder neu Ei Huchelder Brenhinol (HRH) neu Eu Huchelder Brenhinol (TRH) fel arfer yn aelodau.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am wahanol aelodau'r teulu brenhinol ar wefan swyddogol y frenhiniaeth, drwy ddilyn y ddolen isod.

Y Goron

Mae'r teitl i'r Goron yn deillio'n rhannol o statud ac yn rhannol o reolau llinach cyfraith gwlad. Er gwaetha'r tarfu sydd wedi bod ar y llinach uniongyrchol, trwy etifeddiaeth bob amser y mae pŵer brenhinol wedi symud o un genhedlaeth i'r llall, gyda meibion y Brenin neu'r Frenhines yn dod o flaen y merched wrth etifeddu'r orsedd. Pan fydd merch yn olynu, daw yn Frenhines Deyrnasol, gyda'r un pwerau â brenin. Mae 'consort' brenin yn derbyn safle a theitl ei gŵr, gan ddod yn Frenhines. Ni roddir unrhyw safle neu freintiau arbennig i ŵr Brenhines Deyrnasol.

Dan Ddeddf Sefydlogi 1700, dim ond disgynyddion Protestannaidd i Dywysoges Sophia, Etholyddes Hanover (wyres i Iago 1 o Loegr ac Iago VI o'r Alban), sy'n gymwys i olynu. Gellir newid y drefn olyniaeth i'r orsedd dim ond trwy gydsyniad cyffredinol gwledydd y Gymanwlad y mae'r Brenin neu'r Frenhines yn Sofran arnynt.

Mae'r Brenin neu Frenhines yn esgyn i'r orsedd cyn gynted ag y bydd ei ragflaenydd yn marw. Fe'i cyhoeddir yn Frenin/Frenhines yn syth mewn Cyngor Esgyniad, y mae holl aelodau'r Cyfrin Gyngor yn cael eu galw iddo. Yn ogystal, gwahoddir aelodau Tŷ'r Arglwyddi, Arglwydd Faer, henaduriaid a dinasyddion blaenllaw eraill Dinas Llundain.

Y coroni sy'n dod ar ôl yr esgyniad. Cynhelir y seremoni yn Abaty Westminster yn Llundain gerbron cynrychiolwyr y ddau Dŷ Seneddol a holl sefydliadau cyhoeddus blaenllaw'r DU. Mae Prif Weinidogion ac aelodau blaenllaw gwledydd y Gymanwlad a chynrychiolwyr gwledydd eraill yn mynychu hefyd.

Additional links

Enwebu rhywun am anrhydedd

Caiff dros 2,500 o Brydeinwyr eu hanrhydeddu bob blwyddyn gydag urddau fel OBE ac MBE - gall unrhyw un enwebu

Allweddumynediad llywodraeth y DU