Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Adrannau ac asiantaethau'r llywodraeth

Prif rôl adrannau'r llywodraeth a'u hasiantaethau yw gweithredu polisïau'r llywodraeth a chynghori gweinidogion.

Staffio, cyllid a threfniadaeth

Mae adrannau ac asiantaethau yn cael eu staffio gan weision sifil sy'n wleidyddol ddiduedd a chânt eu hariannu gan y Senedd. Gweithiant gydag awdurdodau lleol, cyrff cyhoeddus anadrannol, a sefydliadau eraill a noddir gan y llywodraeth.

Weithiau, caiff strwythur a swyddogaeth adrannau eu had-drefnu os oes newidiadau mawr ym mholisi'r llywodraeth. Fodd bynnag, nid yw newid yn y llywodraeth o anghenraid yn effeithio ar swyddogaethau adrannau.

Mae gwaith rhai adrannau (y Weinyddiaeth Amddiffyn er enghraifft) yn cwmpasu'r DU i gyd. Mae adrannau eraill, megis yr Adran Gwaith a Phensiynau, yn cwmpasu Cymru, Lloegr a'r Alban, ond nid Gogledd Iwerddon. Mae eraill eto, megis yr Adran Plant, Ysgolion a Theuluoedd, yn ymwneud yn bennaf â materion yng Nghymru a Lloegr.

Mae gweinidog yn ben ar y rhan fwyaf o adrannau. Fodd bynnag, mae rhai yn adrannau heb weinidog, gyda swyddog parhaol yn ben arnynt a gweinidogion gyda dyletswyddau eraill sy'n rhoi cyfrif amdanynt i'r Senedd.

Asiantaethau gweithredol

Sefydliad cyhoeddus sy'n cyflwyno gwasanaeth y llywodraeth i lywodraeth y Deyrnas Unedig, Llywodraeth yr Alban, Llywodraeth Cynulliad Cymru neu Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon yw asiantaeth weithredol.

Nid yw asiantaeth yn pennu'r polisi sy'n ofynnol i gyflawni ei swyddogaethau - yr adran sy'n goruchwylio'r asiantaeth sy'n pennu hyn. Er enghraifft, mae'r Ganolfan Byd Gwaith yn asiantaeth weithredol ac yn rhan o'r Adran Gwaith a Phensiynau.

Yn ben ar asiantaeth y mae prif weithredwr, sy'n bersonol gyfrifol am waith beunyddiol yr asiantaeth. Fel arfer mae'n uniongyrchol atebol i'r gweinidog cyfrifol sydd, yn ei dro, yn atebol i'r Senedd.

Mae diddymu, preifateiddio, contractio allan, uno neu resymoli un o swyddogaethau penodedig y llywodraeth i gyd yn opsiynau sy'n cael eu hystyried ar eu haeddiant, cyn y sefydlir asiantaeth.

Cyrff cyhoeddus anadrannol

Corff cyhoeddus rhanbarthol neu genedlaethol yw corff cyhoeddus anadrannol (NDPB), sy'n gweithio'n annibynnol ar y gweinidogion y maent yn atebol iddynt er hynny. Nid gweision sifil sy'n gweithio ynddynt. Ceir dau fath o gorff cyhoeddus anadrannol.

Cyrff cyhoeddus anadrannol gweithredol - cyrff gyda swyddogaethau gweithredol, gweinyddol, masnachol neu reolaethol. Maent yn ymgymryd â swyddogaethau penodol o fewn fframwaith y llywodraeth ond mae maint yr annibyniaeth weithredol yn amrywio. Mae’r rhain yn cynnwys Cyngor Celfyddydau Lloegr, Asiantaeth yr Amgylchedd a’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch.

Mae cyrff cyhoeddus anadrannol ymgynghorol yn cael eu sefydlu gan weinidogion i roi cyngor iddynt a'u hadrannau ar faterion neilltuol. Mae'r rhain yn cynnwys y Pwyllgor ar Safonau mewn Bywyd Cyhoeddus a'r Comisiwn Cyflogau Isel. Mae rhai Comisiynau Brenhinol yn cael eu hystyried yn gyrff cyhoeddus anadrannol ymgynghorol hefyd.

Mwy o wybodaeth

Gellir cael manylion cyswllt adrannau'r llywodraeth, asiantaethau gweithredol a chyrff cyhoeddus anadrannol drwy ddilyn y ddolen y cyfan am lywodraeth ganolog.

Caiff penodiadau cyhoeddus i fwrdd corff cyhoeddus eu hegluro yn yr erthygl o dan yr un enw a cheir dolen ati isod.

Additional links

Enwebu rhywun am anrhydedd

Caiff dros 2,500 o Brydeinwyr eu hanrhydeddu bob blwyddyn gydag urddau fel OBE ac MBE - gall unrhyw un enwebu

Allweddumynediad llywodraeth y DU