Beth yw penodiadau cyhoeddus?
Penodiad ar fwrdd corff cyhoeddus neu ar un o bwyllgorau'r llywodraeth yw penodiad cyhoeddus. Mae oddeutu 18,500 o ddynion a menywod yn dal penodiad cyhoeddus. Yma cewch wybod mwy am gyrff cyhoeddus a phenodiadau cyhoeddus, am waith y rheini a benodir ac am y manteision sy'n gysylltiedig â dal penodiad cyhoeddus.
Beth yw cyrff cyhoeddus?
Mae yna dros 1,200 o gyrff cyhoeddus ledled y DU sy'n darparu gwasanaethau cyhoeddus pwysig a hanfodol.
Mae’r rhain yn cynnwys cyrff cyhoeddus mawr sy’n cael eu rheoli gan fwrdd cyfarwyddwyr a phwyllgorau cynghori bach sy'n cynnwys aelodau lleyg ac arbenigwyr.
Dyma enghreifftiau o gyrff cyhoeddus:
- awdurdodau iechyd, ymddiriedolaethau’r GIG ac ymddiriedolaethau gofal sylfaenol
- amgueddfeydd ac orielau cenedlaethol, gan gynnwys yr Amgueddfa Brydeinig, yr Amgueddfa Astudiaethau Natur, y Tate a’r Oriel Genedlaethol
- cyrff rheoleiddio allweddol megis y Comisiwn Cystadlu, Asiantaeth yr Amgylchedd, y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol a’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch
- cyrff cynghori arbenigol megis y Comisiwn Cyflogau Isel, y Pwyllgor Safonau mewn Bywyd Cyhoeddus a Chomisiwn Penodiadau Tŷ'r Arglwyddi
- nifer o bwyllgorau technegol a gwyddonol arbenigol
Bydd Swyddfa’r Cabinet yn cyhoeddi rhestr o gyrff cyhoeddus bob blwyddyn. Gallwch weld adroddiad diweddaraf Swyddfa’r Cabinet drwy glicio isod.
Penodiad cyhoeddus – swyddogaethau
Mae penodiad cyhoeddus yn golygu penodiad ar fwrdd corff cyhoeddus neu ar un o bwyllgorau'r llywodraeth.
Dyma dair prif swyddogaeth bwrdd:
- darparu arweiniad ac arweinyddiaeth – mae hyn yn cynnwys pennu strategaeth y corff, cytuno ar gynlluniau busnes i gyflwyno'r strategaeth a recriwtio staff allweddol
- dal uwch aelodau o staff yn atebol – mae hyn yn cynnwys dal rheolwyr yn atebol am y modd y rheolir y corff, am y modd y cyflwynir cynlluniau busnes ac am y ffordd y caiff y gyllideb ei gwario
- cynrychioli gwaith a safbwyntiau’r corff – i weinidogion, i’r Senedd, i randdeiliaid allweddol ac i’r cyhoedd ehangach
Bydd y rheini a benodir ar bwyllgorau’r llywodraeth neu ar gyrff cyhoeddus yn darparu cyngor arbenigol annibynnol am faterion penodol i adrannau’r llywodraeth ac i weinidogion.
Beth mae penodiadau cyhoeddus yn ei gynnig?
Bydd penodiad cyhoeddus yn rhoi cyfle i chi wneud y canlynol:
- rhoi rhywbeth yn ôl i'r gymdeithas, gan ddefnyddio eich arbenigedd i gynorthwyo’r gymuned, a dylanwadu ar benderfyniadau sy'n effeithio ar fywydau pawb
- cwrdd â phobl o bob cefndir sydd hefyd am wneud gwahaniaeth
- datblygu eich gyrfa, ennill profiad helaeth a rhoi hwb i’ch sgiliau
- dychwelyd ar ôl cael seibiant gyrfa neu ar ôl cyfnod o absenoldeb mamolaeth
Pwy all ymgeisio am benodiadau cyhoeddus?
Saith Egwyddor Bywyd Cyhoeddus
- anhunanoldeb
- diffuantrwydd
- gwrthrychedd
- atebolrwydd
- didwylledd
- gonestrwydd
- arweinyddiaeth
Bydd pobl sy’n dal penodiadau cyhoeddus yn dod o bob cefndir ac o bob cwr o’r DU.
Mae angen i chi wybod bod y gallu gennych i gyflawni’r rôl. Bydd y sgiliau a’r profiad y bydd eu hangen arnoch yn amrywio o swydd i swydd ond, yn gyffredinol, bydd angen i chi ddangos:
- yr ymrwymiad i roi o’ch amser i baratoi a chymryd rhan yng ngwaith y corff
- y dewrder i ofyn cwestiynau nad oes neb arall wedi’u gofyn neu i holi pam mae pethau’n cael eu gwneud mewn ffordd benodol
- yr hyder i ddweud eich dweud a lleisio'ch barn
- y synnwyr cyffredin i allu asesu effaith penderfyniad ar bob rhan o'r gymuned a rhoi safbwynt annibynnol i'r ddadl
- y profiad o fynd i bwyllgorau i gymryd rhan ac i ddylanwadu yng nghamau ac ym mhrosesau gwneud penderfyniadau pwyllgor neu fwrdd ffurfiol
- y gallu i feddwl yn glir ac asesu sefyllfa’n gyflym, yn gywir ac yn ddiduedd
Bydd angen i chi hefyd ddeall a derbyn Saith Egwyddor Bywyd Cyhoeddus (gweler y blwch uchod) a gweithio i’r safonau proffesiynol a phersonol gorau posib.
I ddarllen am bobl sy’n dal penodiadau cyhoeddus, dilynwch y ddolen ‘astudiaethau achos’ isod.
I gael gwybod sut mae gwneud cais am benodiad cyhoeddus, dilynwch y ddolen ‘gwneud cais am benodiad cyhoeddus’ isod.