Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Gwneud cais am benodiad cyhoeddus

Bydd y broses ymgeisio yn amrywio gan ddibynnu ar y swydd. Bydd y broses ar gyfer penodiad cenedlaethol pwysig yn fwy cymhleth na'r broses ar gyfer swydd arbenigol ar bwyllgor cynghori bach. Yma, cewch wybod mwy am y broses, pa benodiadau sydd ar gael ar hyn o bryd a sut mae’r broses benodi’n cael ei monitro a’i rheoleiddio.

Penodiadau cyhoeddus sydd ar gael

Caiff penodiadau cyhoeddus eu hysbysebu ar y we. I chwilio am fanylion yr hyn sydd ar gael ar hyn o bryd ar fyrddau pwyllgorau’r llywodraeth a chyrff cyhoeddus yn y DU, dilynwch y ddolen isod.

Y broses ymgeisio

Bydd pob penodiad cyhoeddus yn cael ei wneud drwy ddefnyddio prosesau teg, agored a thryloyw. Bydd manylion y broses yn amrywio yn ôl y swydd. Ond yn gyffredinol:

  • penodir yn ôl teilyngdod, ar sail eich sgiliau a’ch profiad
  • esbonnir i chi pa sgiliau, rhinweddau a phrofiad y mae'n rhaid eu cael, naill ai yn yr hysbyseb wreiddiol neu yn y pecyn gwybodaeth
  • gofynnir i chi lenwi ffurflen gais i ddangos sut mae'ch sgiliau, eich rhinweddau a’ch profiad yn gweddu i'r swydd yr ydych yn gwneud cais amdani
  • bydd eich cais yn cael ei asesu – gallai hyn olygu didoli’r ceisiadau’n ffurfiol a chynnal cyfweliadau
  • bydd y gweinidog perthnasol, neu’r awdurdod sy’n penodi, yn dewis yn derfynol o’r rheini a argymhellir gan y panel cyfweld
  • anfonir llythyr penodi at yr ymgeisydd llwyddiannus a hysbysir yr holl ymgeiswyr eraill

Mae’r llywodraeth wedi ymrwymo i hybu amrywiaeth mewn penodiadau cyhoeddus. Croesewir yn arbennig geisiadau gan fenywod, lleiafrifoedd ethnig, pobl anabl a grwpiau eraill nad ydynt yn cael eu cynrychioli’n ddigonol.

Y Comisiynydd Penodiadau Cyhoeddus

Ceir Comisiynydd Penodiadau Cyhoeddus annibynnol sy'n rheoleiddio, yn monitro ac yn adrodd ar brosesau penodiadau cyhoeddus. Mae hi’n gwneud yn siŵr y penodir yn ôl teilyngdod ac y cymerir gofal, yn ystod pob cam, i beidio â chamwahaniaethu ar unrhyw sail.

Mae’r Comisiynydd hefyd yn rhoi cyngor ac arweiniad ar y broses penodiadau cyhoeddus.

Ewch i wefan y Comisiynydd Penodiadau Cyhoeddus i gael gwybod mwy.

Allweddumynediad llywodraeth y DU