Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Dod yn ymddiriedolwr

Bydd ymddiriedolwr elusennau'n penderfynu sut y caiff elusen ei rhedeg, a sut y defnyddir ei hadnoddau. Rhai o'r manteision sy'n deillio o fod yn ymddiriedolwyr yw eich bod yn ennill profiad gwerthfawr, a'ch bod yn cyfrannu at wella bywydau pobl eraill.

Ymddiriedolwyr

Dyma rai o'r teitlau eraill a ddefnyddir i ddisgrifio ymddiriedolwyr:

  • llywodraethwr
  • aelod o'r bwrdd
  • aelod o bwyllgor
  • cyfarwyddwr (os yw'r elusen yn gwmni cyfyngedig hefyd)

Cyfyngiadau oedran

Os ydych chi dros 18 oed, fe allwch ddod yn ymddiriedolwr, oni bai eich bod wedi cael eich gwahardd rhag bod yn gyfarwyddwr cwmni neu wedi'ch cael yn euog o drosedd. Os ydych chi dan 18 oed, dim ond i elusen sydd hefyd yn gwmni cyfyngedig y cewch chi ddod yn ymddiriedolwr.

Profiad

Does dim rhaid i chi fod wedi cael profiad er mwyn bod yn ymddiriedolwr ond fe all elusennau unigol fod yn chwilio am ofynion penodol. Er enghraifft, efallai y bydd elusen hawliau dynol yn chwilio am rywun sydd â phrofiad o weithio gyda ffoaduriaid neu sydd â diddordeb mewn materion cyfreithiol.

Taliadau a chyflogaeth

Fel arfer, ni fydd ymddiriedolwyr yn derbyn tâl ac ni fydd ganddyn nhw'r hawl i elwa'n ariannol, nac yn uniongyrchol nac yn anuniongyrchol, yn sgil eu gwaith i'r elusen. Gan amlaf, ni chaiff ymddiriedolwyr ddod yn gyflogeion i'r elusen, a chaiff cyflogeion yr elusen ddim dod yn ymddiriedolwyr chwaith.

Darllenwch yr erthygl 'Mathau o elusen' i gael gwybod sut y gall y math o elusen effeithio ar beth y gallwch chi ei wneud fel ymddiriedolwr.

Beth y disgwylir i ymddiriedolwyr ei wneud

Fel ymddiriedolwr, bydd rhaid i chi:

  • ysgwyddo cyfrifoldeb cyfreithiol dros y sefydliad a sicrhau ei fod yn ariannol gadarn, yn cael ei rhedeg yn dda ac yn gwneud yr hyn y sefydlwyd hi i'w wneud
  • sicrhau bod yr elusen yn gweithredu o fewn y rheolau a'r canllawiau a nodir yn nogfennau llywodraethu'r elusen a'r ddeddfwriaeth berthnasol gan gynnwys cyfraith elusennau, cyfraith cwmnïau a chyfraith cyflogaeth
  • rhoi buddiannau eich elusennau yn uwch na'ch buddiannau personol neu fusnes
  • bod yn ymwybodol o unrhyw broblemau a sicrhau bod rhywun yn delio â nhw, gan geisio cyngor proffesiynol os oes angen
  • rhoi cyfrif o weithgareddau'r elusen i'r Comisiwn elusennau (gan sicrhau bod unrhyw newid i'r manylion cofrestredig yn cael eu diweddaru, ac, os yw incwm yr elusen yn fwy na £10,000 y flwyddyn, cyflwyno'i hadroddiad a'i chyfrifon blynyddol i'r Comisiwn Elusennau)

Atebolrwydd personol

Bydd ymddiriedolwr yn gwneud penderfyniadau pwysig am elusen a dan rai amgylchiadau'n llunio contractau cyfreithiol rwymol ac yn ymrwymo arian i'w wario mewn ffyrdd penodol. Bydd gan bob ymddiriedolwr ddyletswydd cyfreithiol i sicrhau bod elusen yn gallu anrhydeddu unrhyw ymrwymiad a wnaiff. Mae hyn yn arbennig o bwysig yng nghyswllt materion ariannol.

Holi am elusen y mae gennych ddiddordeb ynddi

Os gofynnwyd i chi ddod yn ymddiriedolwr:

  • holwch gymaint ag y gallwch am yr elusen a darllen ei dogfen lywodraethu'n ofalus.
  • sgwrsiwch gyda staff ac ymddiriedolwyr i gael gwybod pa fath o elusen yw hi a sut mae'n cael ei rhedeg
  • ewch i gyfarfodydd ymddiriedolwyr i weld pa fath o benderfyniadau y gall fod angen i chi eu gwneud
  • sgwrsiwch â'r bobl sy'n elwa o'ch dewis elusen a gweld sut mae'n gweithio yn eich cymuned
  • holwch faint o ymrwymiad a faint o'ch amser y bydd gofyn i chi eu rhoi fel ymddiriedolwr

Holwch hefyd am gael gweld:

  • adroddiadau blynyddol - bydd y rhain yn rhoi syniad cyffredinol i chi am gryfderau/gwendidau'r elusen
  • cyfrifon a dogfennau ariannol - ydy'r rhain wedi'u diweddaru ac yn drefnus?
  • cofnodion cyfarfodydd diweddar - ydy'r cyfarfodydd hyn yn rhagweithiol ac wedi'u cofnodi'n iawn?
  • gwybodaeth codi arian - ydy'r elusen yn creu cyfleoedd codi arian da??
  • cynlluniau busnes neu strategol - sut ddyfodol sydd i'ch dewis elusen?
  • dogfennau am unrhyw eiddo neu dir sydd ym mherchnogaeth yr elusen - ceisiwch ddeall beth mae'r elusen yn ei wneud gyda'i hasedau, ydy'r rhain yn cael eu defnyddio'n effeithiol?

Mae'n bosibl y bydd rhai elusennau'n cynnig pecyn cyflwyno sy'n cynnwys rhywfaint o'r wybodaeth hon, felly holwch a oes un ar gael.

Mae'r Comisiwn elusennau'n cynnig cyngor manwl i ymddiriedolwyr - dilynwch y ddolen isod.

Allweddumynediad llywodraeth y DU