Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Gwener, 5 Hydref 2012

Dewis ymddiriedolwyr a dod o hyd i nawdd

Mae dod o hyd i ymddiriedolwyr da a sicrhau nawdd yn bwysig er mwyn rhedeg elusen effeithiol. Mae sawl ffynhonnell help a gwybodaeth ar gael.

Dewis ymddiriedolwyr

Mae ymddiriedolwyr elusennau'n gyfrifol am gadw trefn ar reolaeth a gweinyddiaeth elusen. Gwirfoddolwyr yw'r rhan fwyaf o ymddiriedolwyr a fyddan nhw ddim yn derbyn tâl am eu gwaith.
Ystyriwch y sgiliau y bydd eu hangen ar eich mudiad, er enghraifft, codi arian, ymgyrchu, cyllid neu rywun sydd â llawer o gysylltiadau â grwpiau cymunedol neu wirfoddol eraill. Does dim rhaid i wirfoddolwyr fod yn arbenigwyr, ond fe allai fod o gymorth os oes ganddyn nhw ddealltwriaeth o'r meysydd sydd eu hangen ar eich elusen er mwyn gweithio'n effeithiol.

Fe all ysgrifennu disgrifiad swydd ar gyfer darpar ymddiriedolwr eich helpu i fod yn glir am y sgiliau a'r profiad sydd eu hangen arnoch. Mae'n bwysig bod pob ymddiriedolwr yn deall beth y mae disgwyl iddynt ei wneud, beth yw eu cyfrifoldebau, a sut mae'r elusen yn gweithredu. I gael mwy o wybodaeth am gyfrifoldebau ymddiriedolwyr, darllenwch yr erthygl ‘Dod yn ymddiriedolwr’.

Dod o hyd i ymddiriedolwyr

Mae sawl ffynhonnell help a gwybodaeth ar gael wrth i chi geisio dod o hyd i ymddiriedolwyr. Meddyliwch am bobl sydd â diddordeb yn eich maes gwaith a chysylltwch â rhwydweithiau lleol. Dylai eich cyngor lleol allu rhoi manylion eich canolfan gwirfoddoli leol i chi.

Mae gan y Cyngor Mudiadau Gwirfoddol Cenedlaethol fanc ymddiriedolwyr sy'n rhestru amrywiaeth eang o fudiadau a allai fod yn ddefnyddiol ar gyfer dod o hyd i ymddiriedolwyr ar draws sawl sector. Mae hyn yn cynnwys mudiadau sy'n gallu lleoli neu gyflwyno pobl broffesiynol megis cyfreithwyr ac arbenigwyr ym maes busnes i elusennau er mwyn iddynt roi cyngor a/neu wasanaethu fel ymddiriedolwyr. Dilynwch y ddolen isod i gael manylion cysylltu.

Cronfa ddata genedlaethol yw Do-it.org sy'n cyfateb darpar wirfoddolwyr â mudiadau lleol sydd â'u hangen. I gael gwybod sut mae rhoi swyddi gwag ar y safle, dilynwch y ddolen isod.

Cael nawdd

Mae nawdd ar gael gan y llywodraeth drwy gyfrwng arian y loteri yn ogystal â chan ymddiriedolaethau a chyrff llai sy'n rhoi grantiau. Edrychwch ar rai o'r cyrff sy'n darparu nawdd ar gyfer eich math chi o sefydliad a beth yw eu gofynion, er mwyn deall sut beth yw'r broses ymgeisio. Mae modd dod o hyd i ffynonellau nawdd llywodraethol ac anllywodraethol drwy ddilyn y ddolen isod.

Allweddumynediad llywodraeth y DU