Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Sefydlu elusen

Os yw eich mudiad neu'ch grŵp am ddod yn elusen gofrestredig, mae'n rhaid iddo ateb nifer o ofynion sylfaenol.

Y gofynion er mwyn bod yn elusen

Fyddwch chi ddim yn gallu cofrestru'n elusen os yw unrhyw un o weithgareddau neu 'ddibenion' eich mudiad yn anelusennol.

Hefyd, rhaid sefydlu elusen er 'budd y cyhoedd' - ystyr hyn yw bod gweithgareddau mudiad yn dod â budd i garfan ddigonol o'r gymuned, ac nid dim ond i ychydig o bobl ddethol.

Rhaid i fudiad gofrestru gyda'r Comisiwn Elusennau os:

  • yw'n cael ei sefydlu yng Nghymru ac/neu yn Lloegr
  • yw mwyafrif ymddiriedolwyr yr elusen yn byw yng Nghymru a Lloegr
  • yw mwyafrif yr asedau yng Nghymru a Lloegr
  • yw wedi'i gofrestru'n gwmni yng Nghymru a Lloegr


a, bod un neu fwy o'r canlynol yn berthnasol:

  • bod gan y mudiad waddol parhaus (tir, adeiladau, buddsoddiadau neu arian nad oes modd ei wario)
  • bod gan y mudiad gyfanswm incwm o fwy na £5,000 y flwyddyn
  • bod gan y mudiad dir, gan gynnwys adeiladau sy'n gymwys ar gyfer trethi busnes

Rhaid i sefydliadau yn yr Alban gofrestru gyda Swyddfa Rheoleiddiwr Elusennau'r Alban.

Os ydych chi'n sefydlu elusen, bydd rhaid i chi ystyried pob agwedd ar redeg yr elusen honno. I ryw raddau, mae hyn yn debyg i redeg busnes, ac mae rhai o'r cyfrifoldebau yr un fath.

A dibynnu ar nod eich elusen - mae tair prif ffurf ar elusen. Mae modd cael gwybod am y gwahanol fathau o elusennau a beth mae'r rhain yn gallu ei wneud drwy ddilyn y ddolen isod i'r erthygl 'Mathau o elusen'.

Manteision ac anfanteision bod yn elusen gofrestredig

Dyma rai o fanteision dod yn elusen:

  • mae pobl yn fwy tebygol o gynnig amser, ynni neu arian i elusen gofrestredig
  • dim ond i elusennau y bydd llawer o roddwyr grantiau a chyllidwyr eraill yn rhoi arian
  • bydd llawer o gyrff yn cynnig help a chyngor am ddim neu am bris gostyngol i elusennau
  • rhoddir ystod eang o fanteision treth i elusennau

Rhaid i elusennau hefyd gadw o fewn cyfyngiadau a rheolau penodol:

  • rhaid i'ch sefydliad weithredu'n gaeth o fewn y terfynau a bennwyd yn y ddogfen lywodraethu
  • chaiff y mudiad ddim dod â budd i neb y mae gennych berthynas â nhw - ee aelodau o'ch teulu, ffrindiau neu aelodau o grŵp neu glwb
  • cyfyngir ar eich gallu i gymryd rhan mewn gweithgareddau gwleidyddol a masnachu gyda chwmnïau eraill
  • does dim modd i'ch mudiad fod â diben gwleidyddol na chefnogi plaid wleidyddol
  • does dim modd sefydlu eich mudiad er budd unigolyn neu unigolion penodol a enwir
  • fel arfer, does dim modd talu ymddiriedolwyr nag iddynt elwa'n ariannol o waith yr elusen

Os nad yw eich mudiad yn ateb y gofynion sylfaenol mae dewisiadau eraill yn lle sefydlu elusen. I gael gwybod rhagor, dilynwch y ddolen isod a darllen ‘Dewisiadau eraill yn lle sefydlu elusen gofrestredig’.

Allweddumynediad llywodraeth y DU