Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Mae gwahanol fathau o ofal maeth a'r rheiny'n dibynnu ar anghenion y plentyn ac anghenion y teulu. Mae'r rhain yn cynnwys gofal tymor byr am ychydig o ddyddiau neu wythnosau, i leoliadau tymor hir, yn ogystal â gofalu am blant anabl neu blant â phroblemau ymddygiad.
Pan fydd ar blant angen rhywle diogel i aros am ychydig o nosweithiau.
Pan fydd gofalwyr yn gofalu am blant am ychydig o wythnosau neu fisoedd, tra gwneir trefniadau ar gyfer dyfodol y plentyn.
Pan fydd plant anabl, plant ag anghenion arbennig neu blant â phroblemau ymddygiad yn aros yn rheolaidd gyda theulu am gyfnod byr, er mwyn rhoi hoe i'r rhieni neu'r gofalwyr maeth arferol.
Pan fydd pobl ifanc wedi eu gosod dan remand gan lys i ofalwr maeth sydd wedi cael hyfforddiant arbennig.
Nid yw pob plentyn sy'n gorfod byw ar wahân i'w deulu gwaed yn barhaol yn dymuno cael ei fabwysiadu, felly yn hytrach, byddan nhw'n mynd i ofal maeth tymor hir tan eu bod yn oedolion.
Bydd plentyn y mae'r awdurdod lleol yn gyfrifol amdano'n mynd i fyw gyda rhywun y mae'n eu hadnabod yn barod, sydd fel arfer yn golygu aelodau o'r teulu megis neiniau a theidiau, modrybedd ac ewythrod neu at frawd neu chwaer.
Ar gyfer plant a phobl ifanc sydd ag anghenion cymhleth iawn a/neu fod eu hymddygiad yn anodd.