Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Gall unrhyw un wneud cais i fod yn ofalwr maeth, cyn belled â bod ganddynt y rhinweddau sydd eu hangen i ofalu am blant nad ydynt yn gallu byw gyda'u rhieni. Nid oes rhaid i rywun fod o dan oedran penodol i fod yn ofalwyr maeth.
Gallwch wneud cais i fod yn ofalwr maeth:
Os oes gennych ddiddordeb mewn bod yn ofalwr maeth, y cam cyntaf yw cysylltu â'ch gwasanaeth maethu lleol (naill ai adran gwasanaethau cymdeithasol eich cyngor lleol neu asiantaeth faethu annibynnol) a threfnu cyfarfod. Fe gewch chi esboniad ganddyn nhw o beth yw goblygiadau maethu a chewch gymorth i benderfynu a ydych yn addas i faethu neu beidio.
Bydd y ddolen gyntaf isod yn gofyn i chi roi manylion eich cyfeiriad ac yna'n mynd â chi at wefan eich awdurdod lleol ble gallwch gael mwy o wybodaeth am faethu.
Bydd yr ail ddolen yn eich helpu i ddod o hyd i asiantaeth faethu annibynnol yn eich ardal chi.
Unwaith y penderfynir eich bod yn addas i fod yn ofalwr maeth, bydd y Swyddfa Cofnodion Troseddol yn edrych i weld a ydych wedi cyflawni trosedd a fyddai'n eich rhwystro rhag maethu. Bydd rhaid i chi gael archwiliad iechyd hefyd, rhag ofn bod gennych broblem iechyd.
Bydd gweithiwr cymdeithasol yn eich helpu i lenwi ffurflen gais a bydd gofyn i chi fynd i sesiwn grwp paratoi gyda phobl eraill sy'n ymgeisio.
Yn olaf caiff eich ffurflen gais ei hanfon at banel maethu annibynnol, a fydd yn argymell a ydych yn addas i fod yn ofalwr maeth neu beidio. Gall hyn gymryd hyd at chwe mis.