Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Os ydych am fod yn ofalwr maeth bydd gwahanol fathau o gymorth ymarferol ac ariannol ar gael i chi. Mae hyn yn cynnwys lwfans i dalu costau, gostyngiad treth a help i gael Pensiwn y Wladwriaeth.
Caiff gofalwyr maeth adolygiad blynyddol gan ddarparwyr y gwasanaeth maeth a chânt bob hyfforddiant sydd ei angen arnynt i sicrhau eu bod yn addas i barhau i faethu. Byddant hefyd yn cael gweithiwr/wraig cymdeithasol sy’n eu goruchwylio a fydd yn ymweld â nhw yn gyson i gynnig cyngor a chefnogaeth i ofalwyr maeth a'u teuluoedd.
Mae'r Cyngor Datblygu Gweithlu Plant (CWDC) wedi cyhoeddi Safonau Hyfforddi, Cefnogaeth a Datblygu ar gyfer Gofalwyr Maeth. Y bwriad yw cefnogi gofalwyr maeth yn syth ar ôl iddynt gael eu cymeradwyo a thrwy gydol y ddwy flynedd gyntaf o wasanaeth. Mae’r safonau’n ymwneud â phrif feysydd rôl gofalwyr maeth a’r hyn y dylai gofalwyr maeth wybod, deall a gallu gwneud.
Mae’r CWDC hefyd yn cyhoeddi canllaw ar gyfer gofalwyr maeth sy’n cyd-fynd â’r safonau. Mae’r ddwy ddogfen ar gael i’w llwytho i lawr o wefan CWDC.
Llinell gymorth ddi-dâl yw Fosterline sy’n cael ei redeg gan y Rhwydwaith Maethu. Mae'n darparu gwybodaeth a chyngor i ofalwyr maeth a phobl sy'n ystyried dod yn ofalwyr maeth. Mae rhai o'r pynciau yr ymdrinnir â nhw yn cynnwys:
Mae’r llinell gymorth ar agor rhwng 9.00 am ac 5.00 pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener (a than 8.00 pm ar ddydd Mercher). Rhif y llinell gymorth ddi-dâl yw 0800 040 7675.
Dylai pob gofalwr maeth gael lwfans sylfaenol i dalu costau o ofalu am blentyn yn eu cartref. Dangosir cyfraddau’r lwfans sylfaenol cenedlaethol ar gyfer 2010/11 isod:
Cyfraddau wythnosol |
Babis |
Cyn dechrau yn yr ysgol gynradd |
Cynradd |
Uwchradd (11 i 15) |
Uwchradd (16 i 17) |
---|---|---|---|---|---|
Sylfaen |
£109 |
£111 |
£122 |
£140 |
£164 |
De-ddwyrain Lloegr |
£120 |
£123 |
£137 |
£156 |
£184 |
Llundain |
£126 |
£129 |
£144 |
£163 |
£191 |
Cyfraddau’r lwfans sylfaenol cenedlaethol ar gyfer 2011/12 yw:
Cyfraddau wythnosol |
Babis | Cyn dechrau yn yr ysgol gynradd |
Cynradd |
Uwchradd (11 i 15) |
Uwchradd (16 i 17) |
---|---|---|---|---|---|
Sylfaen |
£112 | £114 | £126 | £145 | £168 |
De-ddwyrain Lloegr |
£124 | £127 | £142 | £161 | £189 |
Llundain |
£129 | £132 | £148 | £167 | £197 |
Cyfraddau’r lwfans maethu sylfaenol cenedlaethol ar gyfer 2012/13 yw:
Cyfraddau wythnosol |
Babis | Cyn dechrau yn yr ysgol gynradd |
Cynradd |
Uwchradd (11 i 15) | Uwchradd (16 i 17) |
---|---|---|---|---|---|
Sylfaen |
£114 | £117 | £129 | £148 | £172 |
De-ddwyrain Lloegr |
£126 | £130 | £145 | £164 | £193 |
Llundain |
£132 | £135 | £151 | £171 | £201 |
Y gyfradd sylfaenol gychwynnol yw’r lwfans sylfaenol cenedlaethol. Bydd y lwfans gwirioneddol y bydd gofalwr maeth yn cael yn dibynnu ar nifer o ffactorau, yn arbennig anghenion penodol plentyn unigol. Gall rhai gofalwyr hefyd gael eu talu i gydnabod sgiliau, ymrwymiad neu amser. Gallai'r asiantaethau maethu wneud un taliad i gwrdd â chostau'r ddau o'r rhain.
Mae'r rheolau cyfredol yn golygu nad yw llawer o ofalwyr maeth y DU yn talu treth ar yr arian y maent yn ei ennill wrth faethu. Gall gofalwyr maeth gael eu heithrio rhag talu treth ar ran fwyaf o’u hincwm maeth neu’r cyfan, yn dibynnu ar:
Mae eithriad treth sefydlog o hyd at £10,000 y flwyddyn (llai os yw’n gyfnod byrrach) yn cael ei rannu’n gyfartal rhwng unrhyw ofalwyr maeth yn yr un cartref. Wedi hynny, caiff gofalwyr maeth ad-daliad treth am bob wythnos (neu ran o wythnos) y mae plentyn yn eu gofal. Am bob wythnos (neu ran o wythnos) mae plentyn 11 oed neu hŷn gyda nhw, eithriad treth y gofalwr maeth yw £250 y plentyn. Am bob wythnos (neu ran o wythnos) mae plentyn 11 oed neu iau yn eu gofal, yr eithriad treth yw £200 y plentyn.
Rhwng mis Ebrill 2003 a mis Ebrill 2010, roedd gan ofalwyr maeth yr hawl i Ddiogelwch Cyfrifoldebau Cartref (HRP), a oedd yn eu helpu i gael Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth. Y rheswm am hyn yw eu bod yn cael llai o gyfle i wneud gwaith cyflogedig tra'u bod yn ofalwyr maeth.
Mae credydau wythnosol i rieni a gofalwyr (gan gynnwys gofalwyr maeth) bellach wedi disodli'r cynllun Diogelwch Cyfrifoldebau Cartref. Bydd y rhain yn cyfri tuag at Bensiwn sylfaenol y Wladwriaeth a Phensiwn ychwanegol y Wladwriaeth. Os byddwch chi'n cyrraedd oed Pensiwn y Wladwriaeth cyn neu ar ôl 6 Ebrill 2010, bydd unrhyw Ddiogelwch Cyfrifoldebau Cartref yr ydych wedi eu cael dros y blynyddoedd yn cael eu cyfnewid yn gredydau.