Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Dewisiadau eraill yn lle cofrestru fel elusen

Nid sefydlu elusen yw'r dewis gorau bob amser, ac efallai na fydd hynny bob amser yn gyfreithiol bosib. Os nad yw'ch mudiad yn bodloni'r meini prawf sylfaenol ar gyfer bod yn elusen gofrestredig, ceir dewisiadau eraill, gan ddibynnu ar yr hyn yr ydych yn dymuno'i wneud.

Mentrau cymdeithasol

Fe all mentrau cymdeithasol amrywio o grwpiau anffurfiol i gwmnïau cofrestredig. Bydd y rhan fwyaf o fentrau cymdeithasol yn defnyddio eu helw er budd pobl eraill yn hytrach na'r sefydliad ei hun neu eu budd-ddalwyr.

I ddarllen astudiaethau achos am sut mae gwirfoddoli yn y gymuned wedi dwyn budd i wirfoddolwyr a'r rheini y maen nhw'n eu helpu, darllenwch 'Gwirfoddoli ar gyfer prosiect cymunedol'.

Os ydych chi am wella'ch cymuned

Os ydych chi'n sefydlu grŵp i wella'ch cymuned, mae'n bosib y byddwch chi'n gallu rhannu adnoddau - megis swyddfeydd neu staff - gyda mudiad arall. Mae llawer o sefydliadau hefyd sy'n bodoli eisoes a fyddai'n gwerthfawrogi cael eich help os oes gennych amser ar eich dwylo.

Fe allwch gael gwybod am y cyfleoedd i wirfoddoli sydd ar gael yn eich ardal a thramor drwy ddarllen 'Dod o hyd i gyfle i wirfoddoli'. Mae'n cynnwys dolen at y gronfa ddata do-it.org y gallwch ei defnyddio i deipio'ch cod post a chael gwybod am gyfleoedd i wirfoddol gyda grwpiau yn eich ardal.

Codi arian ar gyfer cronfa goffa

Os ydych chi am godi arian at achos penodol neu er cof am rywun, does dim rhaid i chi sefydlu elusen o'r gwraidd. Efallai fod mudiad yn bodoli eisoes sy'n codi arian yn yr un maes neu at yr achos da. Mae oddeutu 190,000 o elusennau wedi'u cofrestru gyda'r Comisiwn Elusennau. Fe allwch chi chwilio drwy'r gofrestr ar-lein.

Os oes gennych dros £10,000 i'w roddi, mae'r Sefydliad Cymorth Elusennol (CAF) yn caniatáu i chi sefydlu Ymddiriedolaeth CAF, sy'n system syml, ac i raddau fel petai gennych chi'ch ymddiriedolaeth elusennol eich hun, ond heb orfod penodi ymddiriedolwyr na chofrestru'n elusen.

Os oes gan eich mudiad nodau tebyg i elusen fwy, fe allech ystyried dod yn gangen leol o'r elusen honno. Er enghraifft, mae Mind, yr elusen iechyd meddwl, yn gweithio drwy rwydwaith o grwpiau lleol.

Codi arian at drychineb naturiol

Os oes trychineb naturiol wedi digwydd a chithau am roddi arian, fe allech ystyried rhoi i asiantaeth cymorth neu i 'fudiad ambarél' megis y Pwyllgor Argyfwng Trychineb, sy'n gweithio gyda nifer o fudiadau yn y DU i sicrhau bod y rhoddion a ddaw gan unigolion a grwpiau'n cael eu defnyddio hyd yr eithaf.

Cael help a chymorth

Mae gan Gyngor Cenedlaethol y Mudiadau Gwirfoddol gyfeiriadur cynhwysfawr o fudiadau ambarél sy'n cynnig gwybodaeth, cymorth a chyngor i fudiadau gwirfoddol.

Mae'n bosib y ceir cangen leol o'r Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol yn eich ardal chi a fydd yn rhoi cyngor a chymorth mewn cysylltiad â sefydlu a rhedeg elusennau a grwpiau cymunedol. Gall y ddolen ddilynol ar wefan y Gymdeithas Gweithredu Gwirfoddol a Chymunedol Genedlaethol (NAVCA) eich helpu i ddod o hyd i'ch cangen Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol leol.

Allweddumynediad llywodraeth y DU