Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Mathau o elusen

Os ydych chi'n sefydlu elusen newydd, bydd angen i chi benderfynu pa fath o ffurf fydd arni cyn i chi wneud cais. Holwch beth yw'r gwahanol fathau ac ymhle y gallwch chi gael help i benderfynu ar y run iawn i'ch mudiad chi.

Y prif fathau o elusen

Gall elusennau fod yn un o'r rhain:

  • cwmnïau ag atebolrwydd cyfyngedig preifat a elwir hefyd yn gymdeithasau ymgorfforedig
  • cymdeithas anghorfforedig
  • ymddiriedolaethau

Fe all elusennau fod ar ffurfiau eraill hefyd - does dim rhaid eu cofrestru. I gael gwybod rhagor, darllenwch ’Dewisiadau eraill yn lle sefydlu elusen gofrestredig'

Cwmnïau ag atebolrwydd cyfyngedig preifat

Efallai y byddwch am greu cwmni atebolrwydd cyfyngedig preifat os yw'r sefydliad yn debygol o:

  • fod yn fawr
  • cyflogi pobl
  • trefnu contractau i ddarparu neu ddefnyddio gwasanaethau
  • meddu ar dir neu eiddo

Enghraifft o elusen a allai fod yn gwmni cyfyngedig er enghraifft fyddai elusen gelfyddydol leol sy'n hyrwyddo diwylliant carfan benodol yn y gymuned drwy drefnu digwyddiadau diwylliannol. Efallai y bydd angen iddynt fod yn gwmni cyfyngedig er mwyn llogi cwmni goleuo ar gyfer digwyddiad.

Cymdeithasau anghorfforedig

Efallai y byddech chi am ddefnyddio strwythur fel hyn i'ch elusen os:

  • oes angen adlewyrchu barn aelodau'r elusen yn ei gweithrediadau
  • bydd aelodau'r elusen yn ethol ymddiriedolwyr am gyfnod penodedig
  • yw'r aelodau'n ymwneud â rhedeg y mudiad
  • nad oes gan y mudiad asedau mawr iawn (hy eiddo, tir neu fuddsoddiadau) neu drosiant uwch
  • na fydd rhaid i'r mudiad logi staff neu drefnu contractau eraill

Enghraifft o gymdeithas anghorfforedig fyddai cymdeithas preswylwyr sy'n cyfarfod i wella'u hardal leol.

Ymddiriedolaethau

Fe allai fod yn ddoeth creu ymddiriedolaeth os:

  • bydd y mudiad yn cael ei redeg gan nifer fach o bobl ac y bydd ei weinyddiaeth yn syml
  • bydd yr ymddiriedolwyr yn cael eu dewis gan yr ymddiriedolwyr presennol ac nad oes unrhyw derfyn amser ar eu cyfnod gwasanaethu
  • nad yw'r mudiad yn debygol o fod yn gorfod dibynnu ar aelodau ar gyfer ei weinyddiaeth
  • mai unig weithgarwch y mudiad yw rhoi grantiau
  • yw tir ac adeiladau i gael eu cadw mewn ymddiriedaeth at ddefnydd yr elusen yn barhaus
  • oes cyfyngiad ar wario'r cyfalaf

Byddai'r math hwn o elusen o bosibl yn cael ei sefydlu gan griw sy'n dymuno dosbarthu'r arian a adawyd iddynt mewn ewyllys at bwrpas penodol.

Cael help a chyngor

Fe all penderfynu ar y strwythur gorau ar gyfer eich mudiad fod yn gymhleth, felly efallai yr hoffech chi ofyn am gyngor proffesiynol. Mae'n bosibl bod gan eich cyngor fanylion llefydd sy'n cynnig gwasanaeth cynghori.

Allweddumynediad llywodraeth y DU