Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Os ydych yn rhan o fudiad gwirfoddol neu gymunedol, mae'n bosib y byddwch yn gymwys i wneud cais am grant neu gyfle i dderbyn arian.
Gallwch wneud cais am grantiau yn lleol, ar raddfa genedlaethol neu Ewropeaidd. Os nad ydych yn siur am beth i edrych gallwch wneud chwiliad sylfaenol ar wefan Grantnet.
Bydd y safle hwn yn gadael i chi roi gwybodaeth am y prosiect yr ydych yn chwilio am arian ar ei gyfer trwy gyfrwng y rhyngrwyd. Yna, dangosir manylion cryno am ffynonellau o gyllid a awgrymir a gellir gwneud cais am fanylion llawn trwy gyfrwng e-bost. Nid yw Grantnet yn cynnwys gwybodaeth am gynlluniau bychan iawn.
Dylai eich cyngor lleol hefyd allu darparu gwybodaeth i chi ynghylch cyllid cymunedol a allai fod yn berthnasol i'ch sefydliad chi. Bydd gan lawer o gynghorau nifer o gyfleoedd cyllido, o symiau bach i symiau canolig a ddarperir yn flynyddol.
Bydd y ddolen isod yn gofyn i chi roi manylion ble'r ydych yn byw ac yna'n mynd â chi at wefan eich awdurdod lleol ble gallwch gael mwy o wybodaeth.
Ymwelwch â gwefan gyllido'r llywodraeth, sy'n darparu mynediad at grantiau o du'r llywodraeth ar gyfer y sectorau gwirfoddol a chymunedol.
Y Cyfeiriadur Newid Cymdeithasol sy'n ei gynnal a byddant hefyd yn cyhoeddi fersiwn copi caled.
Mae'r Cyfeiriadur Newid Cymdeithasol yn ffynhonnell flaenllaw sy'n rhoi gwybodaeth cyllido ar gyfer sefydliadau gwirfoddol a chymunedol. Byddant yn cyhoeddi manylion cynhwysfawr am gyllidwyr, gan gynnwys ymddiriedolaethau a sefydliadau elusennol.
Bydd y Gronfa Loteri Fawr hefyd yn darparu cyllid ar gyfer sefydliadau gwirfoddol ac elusennau, trwy gyfrwng y loteri genedlaethol. Mae grantiau bach a chanolig ar gael er mwyn trawsnewid cymunedau, a gellir cael y rhain ar gyfer prosiectau lleol a phrosiectau cenedlaethol.
Os dewch o hyd i grant neu gyllid a fyddai'n addas ar gyfer eich sefydliad chi bydd angen i chi gyflwyno cais. Wrth adolygu unrhyw gais bydd angen tystiolaeth ar y corff cyllido a fydd yn cefnogi'r modd y bwriadwch ddefnyddio'r grant. Fel sefydliad, dylech gynllunio'ch cais yn ofalus a sicrhau bod gennych ddigon o adnoddau ar gael i wneud yn siŵr bod eich cais yn un cryf.
Wrth chwilio am gyllid, mae sefydliadau'n llawer mwy tebygol o fod yn llwyddiannus os byddant yn derbyn cefnogaeth gan bobl sydd â phrofiad o'r broses gwneud cais am grant. Gall gwefan Grantnet ddarparu cyngor a chysylltiadau i ddefnyddwyr am sut i gyflwyno cais cryf. Dylech geisio cyngor arbenigol os ydych yn ansicr ynghylch unrhyw agwedd o'ch cais oherwydd gallai hyn leihau'ch siawns o fod yn llwyddiannus.
Mae'r canlynol yn rhestr sy'n rhoi cyngor cyffredinol ar yr hyn y dylech ei ystyried wrth gyflwyno cais am arian:
"arbenigwyr"neu
"wirion"