Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Sut mae'ch cyngor lleol yn gweithio

Caiff cynghorau lleol eu rhedeg gan gynghorwyr a etholir mewn modd democrataidd. Maent yn gyfrifol am wneud penderfyniadau am wasanaethau lleol, megis y defnydd a wneir o dir, casglu sbwriel a gwasanaethau hamdden, ar ran y gymuned leol.

Cynghorau sir a chynghorau dosbarth

Yn y rhan fwyaf o'r wlad ceir dwy haen o lywodraeth leol: cynghorau sir a chynghorau dosbarth. Dim ond un cyngor a geir mewn trefi a dinasoedd mwy a bydd y rhain yn darparu holl swyddogaethau'r ddau.

Cynghorau plwyf a chynghorau tref

Yn ogystal â hyn, mae gan y wlad i gyd, ac eithrio'r trefi a'r dinasoedd mwyaf, gynghorau plwyf neu gynghorau tref. Cael eu hethol a wna'r cynghorau hyn hefyd a gallant helpu gyda nifer o faterion lleol. Bydd llawer o gynghorau plwyf a chynghorau tref hefyd yn cynnal gwasanaethau lleol megis caeau chwarae a neuaddau pentref

Proses gwneud penderfyniadau'r Cyngor

Rhaid i bob cyngor gyhoeddi 'blaengynllun gwaith' a fydd yn rhestru pa bryd y gwneir penderfyniadau allweddol. Byddan nhw hefyd yn cyhoeddi papurau cyfarfodydd o leiaf bum niwrnod gwaith ymlaen llaw. Hefyd, rhaid cyhoeddi cofnodion y cyfarfod sy'n crynhoi'r penderfyniadau a wnaethpwyd. Cewch fynychu'r rhan fwyaf o gyfarfodydd y cyngor, ond fel arfer, ni chewch siarad yn y cyfarfodydd hynny.

Er bod y cyngor llawn (cyfarfod o holl aelodau'r cyngor) mewn theori'n gyfrifol am bob penderfyniad a wneir, o safbwynt ymarferol, bydd y rhan fwyaf o'r gwaith yn cael ei ddirprwyo i grwpiau llai o gynghorwyr neu swyddogion y cyngor (gweithwyr cyflogedig).

Bydd gan wahanol gynghorau wahanol ddulliau o wneud penderfyniadau. Ers y flwyddyn 2000, mae'r rhan fwyaf o'r cynghorau yn Lloegr wedi sefydlu grŵp gweithredol bach sy'n gyfrifol am fusnes cyffredinol y cyngor. Bydd grŵp arall o gynghorwyr yn craffu ar ei benderfyniadau drwy gyfarfod mewn panelau arolygu a chraffu.

Bydd gan y rhan fwyaf o gynghorau llai strwythur pwyllgorau sy'n ymdrin â gwahanol agweddau ar fusnes y cyngor, yn hytrach na chael panelau gweithredol a chraffu.

Bydd y ddolen isod yn gofyn i chi roi manylion eich cyfeiriad ac yna'n mynd â chi at wefan eich awdurdod lleol lle gallwch gael mwy o wybodaeth.

Meiri a dyletswyddau seremonïol

Mae gan ambell gyngor faer etholedig sy'n ysgwyddo mwy o gyfrifoldeb dros wneud penderfyniadau. Bydd gan gynghorau heb faer etholedig hefyd faer neu gadeirydd ar y cyngor i ymgymryd â dyletswyddau seremonïol dinesig.

Cymryd rhan gyda'ch cyngor lleol

Yn ogystal â gallu mynychu rhai o gyfarfodydd y cyngor a chael gweld papurau a nodiadau cyfarfodydd, gallwch hefyd gysylltu â'ch cynghorydd lleol ynghylch materion perthnasol.

Etholir cynghorydd gan y gymuned leol a'i waith yw cynrychioli barn y gymuned honno, felly cofiwch ddefnyddio'ch pleidlais mewn etholiadau lleol. Bydd rhestr o enwau a chyfeiriadau cyswllt cynghorwyr ar wefan eich cyngor.

Efallai y gallech chi hefyd yn ystyried dod yn gynghorydd lleol neu weithio i'ch cyngor lleol. Gallwch gysylltu â'ch cyngor lleol i gael rhagor o fanylion.

Eich cynghorydd lleol

Os ydych yn dymuno lleisio'ch barn am unrhyw faterion gyda'ch cynghorydd lleol, gallwch gysylltu ag ef/hi drwy'ch awdurdod lleol neu gallwch fynd i gymhorthfa gynghorwyr. Mae cymorthfeydd cynghorwyr ar gael i bawb sy'n chwilio am wybodaeth a chyngor, sydd am wneud cwyn neu holi am wasanaethau awdurdodau lleol.

Bydd y ddolen isod yn gofyn i chi roi manylion eich cyfeiriad ac yna'n mynd â chi at wefan eich awdurdod lleol lle gallwch gael mwy o wybodaeth.

Bydd pob cynghorydd lleol yn cydymffurfio â chod ymddygiad. Fel rhan o hyn mae'n ofynnol iddynt ddatgan budd neu roi gwybod am anrhegion neu letygarwch a gânt a allai ddylanwadu ar unrhyw benderfyniadau a wneir. Gofynnir i'ch awdurdod lleol gyhoeddi'r datganiadau hyn a gallwch, fel arfer, gael gafael ar y wybodaeth trwy gyfrwng gwefannau'r awdurdodau neu yn neuadd y dref.

Bydd y ddolen isod yn gofyn i chi roi manylion eich cyfeiriad ac yna'n mynd â chi at wefan eich awdurdod lleol lle gallwch gael mwy o wybodaeth

Allweddumynediad llywodraeth y DU