Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Os nad oes gennych ddigon o le yn eich gardd, neu hyd yn oed os oes gennych le ar ôl, mae rhentu rhandir yn un ffordd o gael tir i dyfu'ch ffrwythau, eich blodau a'ch llysiau'ch hun. Yma, cewch wybod rhagor am fanteision cael rhandir, y gwahanol fathau o randiroedd a beth y gallwch ddisgwyl ei gael.
Dyma rai o'r manteision a gewch chi o gael rhandir:
• mae'n ffynhonnell fforddiadwy o lysiau a ffrwythau ffres
• mae'n lleihau'ch cysylltiad â phlaladdwyr
• mae'n gyfle i chi gael awyr iach ac ymarfer corff
• mae'n help i leihau straen a gall eich helpu i deimlo eich bod yn cyflawni rhywbeth
• drwy greu ardaloedd gwyrdd a lle i fywyd gwyllt fyw, rydych chi'n helpu'r amgylchedd
Rhentir eich rhandir i chi er mwyn i chi dyfu llysiau a ffrwythau ar eich cyfer chi'ch hun a'ch teulu.
Cysylltwch â'ch cyngor lleol i holi ble mae safleoedd y rhandiroedd agosaf. Fel arfer, bydd eich cyngor lleol yn berchen ar dir ar gyfer rhandiroedd, a bydd un ai'n gosod llain i chi neu'n ychwanegu'ch enw at restr aros, os oes un. Os nad oes rhandiroedd gan y cyngor yn eich ardal, efallai y gall y cyngor eich helpu i ddod o hyd i safleoedd preifat.
Os ydych chi'n meddwl bod rhandir cyfan yn rhy fawr (oddeutu 250 metr sgwâr), holwch a gewch chi rentu hanner llain neu ei rannu gyda ffrind.
Mae'ch hawliau'n dibynnu ar ba fath o randir sydd gennych. Ceir tri math o randir:
• ni chaniateir gwerthu na defnyddio rhandiroedd parhaol at ddibenion eraill heb gydsyniad yr Ysgrifennydd Gwladol
• ni cheir yr un math o amddiffyniad ar gyfer rhandiroedd dros dro - ac felly gellir eu gwerthu
• gellir gosod tir preifat i'w ddefnyddio ar gyfer rhandiroedd hefyd, ond ni chaiff ei amddiffyn rhag cael ei ddiddymu gan eich cyngor lleol.
Os yw awdurdod rhandiroedd eich cyngor lleol yn dymuno gwerthu safle rhandiroedd, rhaid iddynt gael cydsyniad yr Ysgrifennydd Gwladol, yn ogystal â bodloni rhai amodau, gan gynnwys ymgynghori â deiliaid y rhandiroedd.
Os yw'r cais yn llwyddiannus, rhaid i'r awdurdod rhandiroedd gynnig safle arall.
Os bydd awdurdod rhandir yn dod â thenantiaeth i ben, mae gan ddeiliad y llain hawl i gael iawndal.
Os mai rhandir dros dro sydd gennych neu os yw ar dir preifat, yna, nid oes rhaid cael caniatâd yr Ysgrifennydd Gwladol ond fel arfer bydd rhaid i'r awdurdod rhandiroedd roi 12 mis o rybudd i chi adael.
Bydd y cyfleusterau'n amrywio, ond mae ambell beth sylfaenol y gallwch ddisgwyl eu gweld ar unrhyw safle fel arfer:
• dylai'r mynediad fod yn saff ac yn ddiogel ar gyfer pob defnyddiwr, a dylid cadw'r prif lwybrau'n glir
• mae cyflenwad dŵr sy'n hawdd i gael ato yn hanfodol (yn aml, cynhwysir y gost am hyn yn y rhent)
• efallai y bydd gan rai safleoedd doiledau
• efallai y bydd gan rai safleoedd gytiau, a all gael eu defnyddio fel man cyfarfod
• mae rhai cynghorau'n cynnig siediau i ddeiliaid y rhandiroedd ac yn codi rhent amdanynt
• dylai mesurau diogelwch digonol fod ar gael, megis ffensiau a gwrychoedd da, i amddiffyn y rhandir rhag fandaliaeth
Bydd yr awdurdod rhandiroedd yn penderfynu faint fydd y rhent blynyddol gan ystyried cost rheoli'r safle, yr anghenion lleol ac unrhyw amgylchiadau arbennig.
Fel arfer, telir y rhent ymlaen llaw: nodir y manylion yn y cytundeb tenantiaeth ac os na fyddwch chi'n talu'r rhent, fe allech golli'ch tenantiaeth. Efallai y byddwch yn gymwys i gael gostyngiad.
Os na fyddwch chi'n hapus gyda'r costau, dylech godi'r peth gyda'r awdurdod rhandiroedd. Mae'n bosib y bydd y Gymdeithas Genedlaethol i Arddwyr Rhandiroedd a Garddwyr Hamdden (NSALG) yn gallu'ch cynghori.