Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Ymchwilio i hanes lleol, hanes eich teulu neu hanes eich cartref

Oes gennych chi ddiddordeb mewn hanes ond yn ansicr sut i fynd ati i gael gwybod mwy? Efallai eich bod yn dymuno dysgu mwy am hanes eich teulu, eich ardal, neu'ch cartref. Dewch i gael gwybod sut mae dechrau arni a pha ffynonellau gwybodaeth y gallwch eu defnyddio.

Hanes eich teulu

Gall edrych ar gofrestri geni marwolaeth a phriodas y llywodraeth fod yn ffordd ddefnyddiol o olrhain hanes eich teulu. Gweler ‘Ymchwilio i hanes eich teulu’ i gael gwybod sut mae cael manylion genedigaethau, marwolaethau a phriodasau sy’n dyddio'n ôl i 1837.

Mae’r Archifau Cenedlaethol yn cadw adnoddau ychwanegol a all eich helpu i ymchwilio i hanes eich teulu. Mae’r rhain yn cynnwys manylion ynghylch:

  • cyfrifiadau rhwng 1841 a 1901
  • ewysylliau a chofnodion milwrol
  • cofnodion anghydffurfwyr (ddim yn rhan o Eglwys Loegr)
  • tollau marwolaeth
  • rhestri teithwyr
  • ysgariadau yn y Llys Goruchaf

Gallwch chwilio drwy ddisgrifiadau’r cofnodion gwreiddiol ar-lein. Unwaith y byddwch wedi nodi’r dogfennau yr ydych am gael, gallwch naill ai ymweld â’r Archifau Cenedlaethol yn Kew, Surrey, neu ofyn am gopïau drwy’r post am ffi fechan. Mae detholiad o ddogfennau hefyd ar gael i’w lawrlwytho oddi ar y wefan am ffi fechan.

Gall gweithio gyda phobl eraill fod yn help hefyd; defnyddiwch y ddolen isod i ddod o hyd i gyrsiau ar hanes y teulu sy’n cael eu cynnal yn lleol.

Hanes lleol

Y lle gorau i ddechrau ymchwilio i hanes lleol gan amlaf yw yn yr ardal y mae gennych ddiddordeb ynddi. Cewch weld bod gan y rhan fwyaf o gynghorau sir, awdurdodau unedol a rhai cynghorau tref mawr naill ai swyddfa gofnodion, gwasanaeth archifau neu lyfrgell astudiaethau lleol.

Mae'r Cyfeiriadur ARCHON yn cynnwys manylion cyswllt ar gyfer storfeydd cofnodion yn y Deyrnas Unedig a hefyd ar gyfer sefydliadau mewn mannau eraill yn y byd sydd â chasgliadau sylweddol o lawysgrifau a gaiff eu rhestru dan y mynegai i'r Gofrestr Archifau Genedlaethol. Gallwch ddefnyddio Cyfeiriadur ARCHON i ddod o hyd i'r gwasanaethau sydd ar gael yn eich ardal chi.

Gallwch ddysgu mwy am ymchwil i hanes lleol wrth edrych ar y canllawiau i ddechreuwyr ar wefan yr Archifau Cenedlaethol. Ceir yma hefyd wybodaeth am adnoddau ar-lein, digwyddiadau a llyfrau sydd ar gael i'ch helpu.

Mae English Heritage yn cadw archif gyhoeddus o dros 10 miliwn o luniau, dogfennau, cynlluniau ac adroddiadau ynghylch yr amgylchedd hanesyddol yn Lloegr yng Nghofnod Henebion Cenedlaethol. Gallwch chwilio drwy fynegai cofnodion ar-lein neu gysylltu â’r Cofnod Henebion Cenedlaethol dros y ffôn neu gyda ffacs. Cewch wybod beth y mae’r casgliad yn ei gynnwys gan y ddolen isod.

Ymchwilio mewn mynwentydd ac edrych ar gofnodion claddu

Cysylltwch â'ch cyngor lleol am fwy o wybodaeth am edrych ar gofnodion claddu

Hanes eich cartref

Gall ymchwilio i hanes eich cartref fod yn brosiect diddorol iawn. Y ddau brif faes sy’n cael eu cynnwys gan yr Archifau Cenedlaethol yw:

  • pwy oedd perchnogion yr eiddo a phwy fu'n byw yno
  • hanes ei adeiladu a'i bensaernïaeth

Mae’r wefan, sy’n hefyd yn cynnwys cyflwyniad i'r ffynonellau hyn, yn cysylltu â mudiadau perthnasol a rhestr o lyfrau defnyddiol.

Allweddumynediad llywodraeth y DU