Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Llyfrgelloedd a llyfrau

Mae gan eich llyfrgell leol fwy i'w gynnig na dim ond llyfrau - mae manylion grwpiau darllen lleol ar gael yno, ac fe allwch rentu fideos a CDs, yn ogystal â syrffio'r we am ddim. Mae llawer o lyfrgelloedd ar-lein hefyd, felly fe allwch chwilio drwy gatalogau ac adnewyddu eich benthyciadau o'ch cartref.

Eich llyfrgell leol

Gall staff eich llyfrgell leol eich helpu i ddefnyddio'r llyfrgell a chynnig syniadau am sut i ddod o hyd i lyfrau i'w darllen. Gallwch rentu CDs a fideos, pori drwy bapurau newydd a chylchgronau, a chrwydro'r we.

Hwyrach y bydd llyfrgelloedd mwy yn cynnig ystod eang o ddeunydd cyfeirio a llefydd i astudio'n breifat. Mae gan rai llyfrgelloedd wasanaethau ar-lein ble gallwch chwilio drwy eu catalog a gofyn iddyn nhw gadw eitem er mwyn i chi ei gasglu.

Chwilio am lyfr llyfrgell ac archebu neu adnewyddu llyfr

Bydd y dolenni isod yn gofyn i chi roi manylion eich cyfeiriad ac yna'n mynd â chi at wefan eich awdurdod lleol lle gallwch gael mwy o wybodaeth.

Trefnu i ddefnyddio'r rhyngrwyd mewn llyfrgell

Bydd y ddolen isod yn gofyn i chi roi manylion eich cyfeiriad ac yna'n mynd â chi at wefan eich awdurdod lleol lle gallwch gael mwy o wybodaeth.

Cael gwybod am lyfrgelloedd symudol

Bydd y ddolen isod yn gofyn i chi roi manylion eich cyfeiriad ac yna'n mynd â chi at wefan eich awdurdod lleol lle gallwch gael mwy o wybodaeth.

Dirwyon llyfrgell

Mae'n bosib y gallwch dalu dirwyon ar-lein drwy gyfrwng eich cyngor lleol - defnyddiwch y dolenni isod i gael gwybod.

Pa lyfrau i'w darllen

Os ydych chi'n chwilio am help i ddod o hyd i lyfr i'w ddarllen, mae 'whichbook.net' yn ffordd bleserus a hwylus o ddod o hyd i lyfrau sy'n gweddu i'ch hwyliau. Byddwch yn dewis meini prawf o'r rhestr ac yna'n cael rhestr o lyfrau posib. Gallwch hefyd weld a gewch chi fenthyg y llyfr gan eich llyfrgell leol.

Gallwch ddod o hyd i lyfrau newydd ar wefan Booktrust’s, sy'n rhoi gwybodaeth am lyfrau. Caiff Booktrust ei noddi gan Gyngor Celfyddydau Lloegr.

Gallwch gael gwybod mwy am lyfrau, gan gynnwys gwefan clwb llyfrau Radio Pedwar a'r digwyddiad Big Read, ar wefan y BBC.

Mae gwefan y Cyngor Prydeinig yn cynnwys rhestr o wyliau llenyddol.

Grwpiau darllen

Os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno â grŵp darllen, holwch yn eich llyfrgell leol. Fel arall, ewch i wefan yr Ymgyrch Ddarllen Genedlaethol neu'r fenter Bookmates ar wefan Booktrust i wybod sut mae dechrau grŵp darllen.

Cael gwybod am y gwasanaeth chwilio hanesyddol mewn llyfrgell

Gallwch lenwi eich manylion am ble yr ydych yn byw yn y ddolen ganlynol, bydd hyn yn eich tywys wedyn i'r wefan am eich awdurdod lleol ble gallwch gael gwybod mwy.

Allweddumynediad llywodraeth y DU