Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Gwener, 5 Hydref 2012

Gwarchod y Gymdogaeth

Mae Gwarchod y Gymdogaeth yn ffordd dda i bobl gyfrannu at atal troseddu yn eu cymuned. Gall cynlluniau ddechrau wrth i bobl rannu cyngor a gweithgareddau atal troseddu; maen’t yn gallu cynnwys cadw golwg ar eiddo'i gilydd, a gwella diogelwch cartrefi a chyfathrebu â'r heddlu.

Sut mae cynlluniau'n gweithio

Gall cynlluniau Gwarchod y Gymdogaeth fod yn fawr, gan wasanaethu'r rhan fwyaf o gartrefi ar stad neu fe allan nhw fod yn gwarchod dim ond hanner dwsin o dai. Mae'n dibynnu ar yr ardal a beth yw dymuniadau'r bobl sy'n byw yno.

Bydd cydlynydd gwirfoddol yn arwain cynllun ac yn denu pobl i gydweithio er mwyn sicrhau bod pethau'n cael eu gwneud. Yn ogystal â'r cydlynydd, fel arfer, sefydlir pwyllgor hefyd.

Bydd pwyllgorau'n cyfarfod i gynllunio pa broblemau i'w targedu a pha gamau i'w cymryd. Bydd cynlluniau'n cadw mewn cysylltiad clos â'r heddlu lleol i rannu gwybodaeth a chyngor.

Ymuno â chynllun neu sefydlu un

I gael gwybod a oes gan eich ardal gynllun Gwarchod y Gymdogaeth, cysylltwch â'ch swyddfa heddlu leol. Os nad oes gennych gynllun yn eich ardal, gallech ystyried sefydlu un eich hun. Bydd rhaid i chi gysylltu â'ch swyddfa heddlu leol, a byddan nhw'n dweud wrthych sut mae sefydlu cynllun. Hefyd mae Ymddiriedolaeth Gwarchod y Gymdogaeth y DU yn rhoi manylion am sut mae'r cynlluniau hyn yn gweithio yn ogystal â gwybodaeth am atal troseddau.

Allweddumynediad llywodraeth y DU